Dangos 674 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

3 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyrau'r Preifat Dan Evans (Rhyfel Byd Cyntaf) = Private Dan Evans (WW1) letters

  • NLW ex 2905.
  • Ffeil
  • [1915]-1916

Tua un llythyr ar hugain oddi wrth y Preifat Dan Evans, Ffisilwyr Brenhinol Cymreig, a anfonwyd ganddo at ei rieni Daniel a Mary Evans yn fferm Maesglas yng Nghaeo, Sir Gaerfyrddin, o Wersyll Milwrol Cinmel ym Modelwyddan ac o faes y gad yn Ffrainc. Yn eu plith mae llythyr oddi wrth ei gyfnither Mary yn Saesneg a llythyr oddi wrth Preifat J. G. Davey at rieni’r milwr yn nodi i'w mab gael ei daro yn ei dalcen gan ddarn bach o shrapnel. Collodd ei fywyd ar 19 Awst 1916 yn ddwy ar hugain mlwydd oed. Yn amgaeedig mae copi o erthygl 'The secrets of the little tin box, the WW1 letters of Caio-born Private Dan Evans, RWF' gan y rhoddwr a baratodd yn 1996 a llungopi o restr a ddarparwyd gan Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad yn nodi'r rhai a enwir ar Gofeb Thiepval. = Approximately twenty one letters from Private Dan Evans, Royal Welsh Fusiliers, to his parents Daniel and Mary Evans at Maesglas Farm in Caeo, Carmarthenshire, written from Kinmel Military Training Camp in Bodelwyddan and on active service in France. Included is a letter from a cousin Mary and from Private J. G. Davey to the soldier’s parents informing them that their son had been ‘hit in the forehead by a small piece of shrapnel’. He died in France on 19 August 1916 aged twenty two. Enclosed is an article by the donor entitled 'The secrets of the little tin box, the WW1 letters of Caio-born Private Dan Evans, RWF', together with a copy of a printed list issued by the Commonwealth War Graves Commission which identifies Private Daniel Evans as missing.

Evans, Daniel.

Papurau Ted Breeze Jones,

  • NLW ex 2901 (i-iii)
  • ffeil
  • 1942-2004.

Papurau Ted Breeze Jones, awdur, darlledwr a ffotograffydd adar, gan gynnwys ei ddyddiaduron ef a’i wraig Anwen yn cofnodi teithiau i Kenya, Gambia, Yr India a Fflorida, 1942-1995 (gyda bylchau); nodiadau'n deillio o raglenni ‘Byd natur’ ar Radio Cymru; ei ymchwil ar yr arlunydd Kelt Edwards, gan gynnwys sgript ‘Goleuo’r sêr’; ynghyd â chofnodion, cynlluniau ac astudiaeth dichonoldeb, 2001-03, yn ymwneud â Gweithgor Canolfan Adar Ted Breeze Jones.

Jones, E. V. Breeze (Edward V. Breeze), 1929-1997.

Sgript ffilm Hedd Wyn screenplay,

  • NLW ex 2861 (i & ii)
  • ffeil
  • 1991-1992.

Copi o sgript y ffilm 'Hedd Wyn' a luniwyd gan Alan Llwyd a'i gyfarwyddo gan Paul Turner, 1991-1992. Collodd Hedd Wyn ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym mrwydr Cefn Pilkem, Gwlad Belg. = A copy of the film script 'Hedd Wyn' by Alan Llwyd directed by Paul Turner, 1991-1992. Hedd Wyn was killed in the First World War at the battle of Pilkem Ridge, Belgium.

Llwyd, Alan.

Papurau'r Parch. J. E. Davies,

  • NLW ex 2838 (i) & (ii)
  • ffeil
  • 1903, 1940-2001.

Papurau'r diweddar Barchedig J. E. Davies, gweinidog gyda'r Eglwys Bresbyteraidd, a ffigwr amlwg yng Nghymdeithas y Cymod yng Nghymru. Ef oedd ysgrifennydd Cangen Rhydaman o Gymdeithas y Cymod a bu'n gadeirydd cenedlaethol y mudiad.

Davies, J. E.

Papurau Richie Thomas papers,

  • NLW ex 2837 i & ii.
  • ffeil
  • 1946-1977.

Rhaglenni cyngherddau y bu'r tenor enwog Richie Thomas (1906-1988), Penmachno, yn perfformio ynddynt, ynghyd â pheth gohebiaeth. = Concert programmes featuring the well-known tenor Richie Thomas (1906-1988), of Penmachno, together with some correspondence.

Capel yr Annibynwyr a Chymdeithas Gymraeg Rhuthun,

  • NLW MS 16276D.
  • ffeil
  • 1831-1927.

Papurau, 1831, 1838 a 1926-1927, yn ymwneud â Chapel yr Annibynwyr, Rhuthun, a Chymdeithas Gymraeg Rhuthun a'r Cylch. = Papers, 1831, 1838 and 1936-1927, relating to the Congregational Chapel, Ruthin, and the Ruthin and District Welsh Society.
Maent yn cynnwys nodiadau o bregeth, 1831, gan y Parch. William Williams, y Wern (ff. 1-2); llythyr, 1838, yn gwahodd y Parch. Richard Jones, Aberhosan, i ddod yn weinidog ar Gapel yr Annibynwyr, Heol y Ffynnon, Rhuthun (ff. 3-4); a derbyniadau a thaliadau, 1926-1927, Cymdeithas Gymraeg Rhuthun a'r Cylch (f. 5). = The papers consist of notes on a sermon, 1831, by the Rev. William Williams, Wern (ff. 1-2); a letter, 1838, inviting the Rev. Richard Jones, Aberhosan, to become minister of the Congregational Chapel, Well Street, Ruthin (ff. 3-4); and receipts and payments, 1926-1927, of the Ruthin and District Welsh Society (f. 5).

Cywydd y Farn a charol Plygain,

  • NLW MS 16197B.
  • Ffeil
  • 1764, 1778 /

'Cywydd Farn', 1764, gan, ac yn llaw, Rice (Rhys) Jones o'r Blaenau. Ceir copi arall ohoni, a ymddengys i fod yn llaw Rhys Jones, yn NLW MS 3059D (tt. 77-84), ac fe'i cyhoeddwyd yn Gwaith prydyddawl y diweddar Rice Jones o'r Blaenau, Meirion (Dolgellau, 1818). Ceir hefyd eiriau 'Carol Plygain', 1778, gan Evan Arthur. Ar f. 8 verso mae testun crefyddol aneglur (?carol) wedi'i briodoli i Robert Jones. = Poem, 'Cywydd Farn', 1764, by, and in the hand of, Rice (Rhys) Jones of Blaenau. A further copy of the poem, which appears to be in the hand of Rhys Jones, is included in NLW MS 3059D (pp. 77-84), and it was published in Gwaith prydyddawl y diweddar Rice Jones o'r Blaenau, Meirion (Dolgellau, 1818). Also included are the lyrics of 'Carol Plygain', 1778, by Evan Arthur. An obscure religious text (?carol) attributed to Robert Jones is included on f. 8 verso.

Jones, Rhys, 1713-1801

Nodiadau pregethau,

  • NLW MS 16079A.
  • ffeil
  • 1821 /

Cyfrol yn cynnwys nodiadau pregethau, 1821, yn llaw y Parch. Daniel Evan Owen, Trefdraeth, sir Benfro. = A volume of sermon notes, 1821, in the hand of the Rev. Daniel Evan Owen, Newport, Pembrokeshire.

Owen, Daniel E. (Daniel Evan), 1803-1830.

Llyfr tonau,

  • NLW MS 16203iiA.
  • ffeil
  • [1851x1858].

Llyfr tonau, [1851x1858], o eiddo Edward Davies, Bryn Morfydd, Y Rhyl, yn cynnwys anthemau a salm-donau yn bennaf. = Tune book, [1851x1858], belonging to Edward Davies, Bryn Morfydd, Rhyl, containing mainly anthems and psalm-tunes.

Llyfr tonau,

  • NLW MS 16117A.
  • ffeil
  • [1796x1812].

Llyfr tonau, [1796x1812], o eiddo Thomas Owens, yn cynnwys anthemau a salm-donau gan Griffith Griffiths, Edward Pugh, David Harries [?David Harris, Carno], John Williams, Dolgellau, William Wilson ac eraill. = The tune book, [1796x1812], of Thomas Owens, containing anthems and psalm-tunes by Griffith Griffiths, Edward Pugh, David Harries [?David Harris, Carno], John Williams, Dolgellau, William Wilson and others.

Canlyniadau 601 i 610 o 674