We've redirected you to the first page of results. To avoid using vast amounts of memory, AtoM limits pagination to 10,000 records. To view the last records in the current result set, try changing the sort direction.
Print preview Close

Showing 59941 results

Archival description
Welsh
Advanced search options
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Cofrestr o danysgrifwyr

Mae'r ffeil yn cynnwys enwau tanysgrifwyr o swllt ac uchod a gyfrannodd at gronfa adeiladu capel newydd y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhontrobert yn 1865, ac hefyd hanes adeiladu'r capel. Rhestrir y tanysgrifwyr fesul dosbarth: Dosbarth yr Adfa, Dosbarth Llanfair, Dosbarth Llanfyllin a Dosbarth Croesoswallt.

Cymanfa Gyffredinol, Penrhyndeudraeth 1978

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau'n ymwneud â threfnu Cymanfa Gyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru, 12-15 Mehefin 1978, a gynhaliwyd yng Nghapel Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth, gan gynnwys cofnodion y Pwyllgor Trefnu Lleol, 1977-1978; llythyrau; rhestr o'r cynrychiolwyr; a phoster y cyfarfodydd cyhoeddus ac o brif atyniadau'r wythnos.

General Assembly of the Presbyterian Church of Wales (1978: Gorffwysfa, Penrhyndeudraeth)

Sgriptiau radio

Sgriptiau radio yn cynnwys 'Hen arferion Cymru fu, 1700-1800', 1935, sef dwy wers ar y baledwr a baledi; 'Ugain munud gyda'r Bardd Crwst', 1938; 'Dic Dywyll - Tywysog y Baledwyr', 1938; 'Twm o'r Nant, yr Anterliwdiwr', [1938]; 'Cymeriadau' yn y gyfres 'Cywain', 1965; 'Digwyddiad pwysig y carwn i fod yno', 1966; 'Y llyfr gorau y caraswn fod wedi'i ysgrifennu' a 'Y cymeriad gorau a gyfarfyddais', 'Cywain', 1966.

Dramâu Cymraeg

Sgritptiau gan gynnwys ’ Y groes grwca’, 1946;’ Yr Etifeddwyr’ (drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955) a ddarlledwyd yn 1956; ‘Corn Beca’, drama fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955 a sgriptiau radio, 1956 a 1964; ‘Sadwrn’, darlledwyd yn 1965; ‘Cartref’, drama un act, 1961, a chyd-fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Llandudno, 1963 , a drama deledu, 1967.

Papurau gweinyddol

Mae'r ffeil, 1956-[1997], yn cynnwys tystysgrifau trosglwyddo aelodaeth a llythyrau cymeradwyaeth, 1956-1997, gan gynnwys nifer ar gyfer aelodau Capel Rhiwspardyn, Mehefin 1970 [oherwydd ei gau yn 1970], taflenni ystadegol, 1969-1995, ynghyd ag adroddiadau gan bensaer ar gyflwr y capel a'r Foelas, Tŷ'r Gweinidog, [1971x1997], a llythyrau, 1971-1973, yn ymwneud â gwerthu'r Foelas.

Cofrestr genedigaethau a bedyddiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrol o adysgrifau, 1807-1837, o gofrestr genedigaethau a bedyddiadau Capel Bethel, Talsarnau, gan John Jones, Plâs-uchaf, 1837, ynghyd â chofnodion diweddarach, 1838-1865, o gofrestr newydd. Ceir y nodyn canlynol y tu mewn i'r gyfrol: 'Cyflwynwyd y Cofrestr hwn i Mr Richard Lloyd, Tabernacl, Portmadoc, gan Evan Williams, Llythyrdy, Talsarnau', 9 Mehefin 1930.

Hanes Eglwys y Tabernacl

Mae'r ffeil yn cynnwys llyfr nodiadau dienw gyda 'Hanes Eglwys y Tabernacl, Porthmadog. 1862-1891', [1891] ac ysgrif Jonathan Davies, [1914x1922], ar hanes yr eglwys, 1862-1912; anerchiad, 1899, a draddodwyd i Gyfarfod Misol Llŷn ac Eifionydd gan y llywydd Jon[athan] Davies; dau lythyr, 1913, oddi wrth Y Parchedig John Roberts, Lerpwl at Mr Davies, ynghyd â thorion o'r wasg yn cynnwys erthygl am Gymdeithasfa Porthmadog, Y Cymro, 1927; teyrnged i Richard Davies, Porthmadog, Y Goleuad, 1922, a Jonathan Davies, Y Goleuad, 1933.

Bywyd a gwaith John Eilian

Allbrint o grynodeb o fywyd a gwaith John Eilian a luniwyd gan ei fab Goronwy Tudor Jones yn Saesneg. Fe'i diweddarwyd ganddo yn 2022.

Results 1 to 20 of 59941