Dangos 289 canlyniad
Disgrifiad archifol- 79.
- Ffeil
- 1930.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Y Wlad Bell" ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Llanfairfechan, 11-12 Mawrth 1930. Beirniad: 'Pedrog', [Y Parch. John Owen Williams, (1853-1932)]. Ffugenw: "Bwlchyffin".
- 78.
- Ffeil
- 1928.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Gweriniaeth" ar gyfer Eisteddfod Port Talbot, 17 Medi 1928. Beirniad: 'Dyfnallt', [J. Dyfnallt Owen, (1873-1956)]. Ffugenw: 'Gwas y Grongar'. Llinell gyntaf: "Neithiwr, wrth ddwys fyfyrio yn fy nghell ..." Gweler hefyd rifau 73 a 74 uchod.
- 77.
- Ffeil
- 1928.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Y Gydwybod a enir o Gariad" ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Yr Hendy, Medi 1928. Beirniad: 'Crwys', [Y Parch. W. Crwys Williams, (1875-1968)]. Ffugenw: 'Alltud'.
- 75.
- Ffeil
- 1927.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Y Ffenestri Aur" ar gyfer Eisteddfod Corwen, Gwyl y Banc, Awst 1927. Beirniaid: 'Pedrog', [Y Parch. John Owen Williams, (1853-1932)] a 'Gwili', [John Gwili Jenkins, (1872-1936). Ffugenw: 'Syml'.
- 74.
- Ffeil
- 1927.
Rhan oPapurau Amanwy,
Llyfr yn cynnwys nifer o ddrafftiau cerddi gan gynnwys rhan o bryddest "Gweriniaeth" ar gyfer Eisteddfod Port Talbot, 1927, gweler rhif 73 uchod.
- 73.
- Ffeil
- 1927.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Gweriniaeth" ar gyfer Eisteddfod Port Talbot, 1927. Beirniad: 'Dyfnallt', [J. Dyfnallt Owen, (1873-1956)]. Ffugenw: 'Syml'. Llinell gyntaf: "Pan ddelo awr o dangnef ym min hwyr ..." Gweler hefyd rifau 74 a 78 isod.
- 72-111.
- Is-gyfres
- 1927-1953.
Rhan oPapurau Amanwy,
- 71.
- Ffeil
- 1926.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Toriad y Dydd" ar gyfer Eisteddfod Corwen, Awst 1926. Beirniaid: 'Pedrog', [Y Parch. John Owen Williams, (1853-1932)] a 'Gwili', [John Gwili Jenkins, (1872-1936)]. Ffugenw: 'Talyllychau'.
- 7.
- Ffeil
- 1913.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Yr Hwyrnos" ar gyfer Eisteddfod Goronog Salem, Pen-y-cae, Dydd Gwyl Dewi, 1913. Beirniad: 'Cernyw', [Y Parch. Hugh Williams, (1843-1937), Corwen]. Ffugenw: 'Ieuan'. Gweler rhif 3 uchod. Teipiedig.
- 69.
- Ffeil
- 1926.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Ymdaith Bywyd" ar gyfer Eisteddfod Talaith Gwynedd, Llungwyn 1926. Beirniad: 'Dyfnallt', [J. Dyfnallt Owen, (1873-1956)]. Ffugenw: 'Monica'. Nodyn: "Buddugol D. R. Griffith (Amanwy), 51 College Street, Amanford".
- 68.
- Ffeil
- 1925.
Rhan oPapurau Amanwy,
Pryddest Goffa y diweddar Dr J. Havard Jones, Clydach, ar gyfer Eisteddfod Calfaria, Clydach, 10 Hydref 1925. Beirniad: Y Parch. Alfa Richards. ?Anghyflawn.
- 65.
- Ffeil
- 1925.
Rhan oPapurau Amanwy,
"Yr Ymchwilydd am y Gwir" ar gyfer Cadair Eisteddfod Môn, Aberffraw, Llungwyn 1925. Beirniaid: Yr Athrawon T. Gwynn Jones a J. Gwili Jenkins. [Ffugenw yn eisiau].