Showing 64 results

Archival description
CMA: Cofysgrifau Capel Dinorwig
Print preview View:

Llyfr y Gronfa Gynnal

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfrifon y Gronfa Gynnal a Threth Cyfarfod Misol, 1953-1959, ynghyd â llofnod yr archwilwyr, 1960. Nodir enwau a chyfeiriadau aelodau a cheir manylion am eu cyfraniadau.

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau aelodaeth ar gyfer aelodau Capel Dinorwig a symudodd i eglwysi eraill, 1926-1936, 1963, ac ar gyfer rhai a ymunodd â chynulleidfa Dinorwig, 1934-1964 (gyda bylchau). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gyffredinol, 1957-1959, eitemau printiedig, 1901, 1903 a 1956, lluniau unigolion (cardiau post a phrintiedig), a phapurau amrywiol, yn eu plith rhestr o brydlesi a dogfennau yn ymwneud â'r Capel a drosglwyddwyd i T. Jones Parry ym 1907.

Cofnodion y Capel

Mae'r grŵp yn cynnwys cofnodion a phapurau, 1865-1866, 1870-1984, yn eu plith cofrestri, cyfrifon, manylion am gyfraniadau aelodau ynghyd â chofnodion Pwyllgor y Capel, Cymdeithas y Chwiorydd a Chymdeithas Lenyddol y Capel.

Cofrestr eglwysig

Mae'r gyfrol wedi ei rhannu'n ddwy adran, sef cymunwyr, 1888-1971 (gyda bylchau), a phlant yr eglwys, [1888]-1977 (gyda bylchau). Yn ogystal, ceir rhestr gwrandawyr, 1897-1958 (gyda bylchau), yng nghefn y gyfrol.

Llyfr y Trysorydd

Yn ogystal â derbyniadau a thaliadau, 1900-1923, mae'r gyfrol yn cynnwys 'Telerau gosodiad Ty'r Capel', 1897, 1925 a 1930 (ynghyd â llofnodion yr Ysgrifennydd a thenantiaid, 1901, 1930 a 1932), a 'Rheolau benthygiad y Capel', 1909.

Llyfr casgliad y Weinidogaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion 'A' a 'B', 1918-1919. Rhestrir enwau a chyfeiriadau cyfranwyr dan 1920 ond ni cheir manylion am eu cyfraniadau yn ystod y flwyddyn honno. Ceir cyfrifon, 1918-1922, ynghyd â llofnod yr archwilwyr, 1923.

Results 1 to 20 of 64