Dangos 15 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales CMA: Cofysgrifau Eglwys Engedi, Caernarfon cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Mark Lane

Papurau, 1917-1983, yn ymwneud ag Ysgol Sul Mark Lane, gan gynnwys llyfr cyfrifon a llafur, 1917-1926, a llyfr cofnodion, 1953-1973.

Ysgol Sabothol Mark Lane (Caernarfon, Wales)

Cyfarfod Cystadleuol Engedi

Llyfr cofnodion Pwyllgor Cyfarfod Cystadleuol Engedi, Caernarfon, 1884-1885, ynghyd â thraethawd 'Hanes yr achos, a'r hen gymeriadau yn Engedi er adeg ei gychwyniad' gan David Jones ar gyfer Cyfarfod Cystadleuol Ysgol Sabathol Engedi 1896.

Llyfrau'r eisteddleoedd

Mae'r llyfrau'n cynnwys cyfrifon yr eisteddleoedd sy'n cofnodi enwau'r cymerwyr, y rhent a'r taliadau, 1852-1975. Ymhlith y cyfrolau ceir un sy'n cynnwys cofnodion Pwyllgor yr Eisteddleoedd, 1907-1917. Ceir llyfrau hefyd sy'n crynhoi'r taliadau, 1928-1971, a chynllun, 1907, o'r eisteddleoedd.

Llyfrau casgliadau

Ymhlith y llyfrau ceir llyfr cyfrifon a llyfr casgliadau'n ymwneud â chodi'r addoldy cyntaf, 1841-1886; llyfrau casgliadau a thaliadau misol, 1849-1886; llyfr casglu'r Eglwys newydd, 1866-1867; a llyfrau cyfraniadau at yr adeiladau, 1977-1982.