Llythyrau at Kate Roberts (KR)
- 1-2022.
- Sub-sub-fonds
- 1908-1985
Part of Papurau Kate Roberts
20 results with digital objects Show results with digital objects
Llythyrau at Kate Roberts (KR)
Part of Papurau Kate Roberts
Part of Papurau Kate Roberts
Part of Papurau Kate Roberts
Llythyr oddi wrth May [ ? ], yn Llundain,
Part of Papurau Kate Roberts
Hanes ymweliad ag arddangosfa yn Llundain. Gellir gwario £20 y dydd yno. Bwriada weld arddangosfa o dân gwyllt. Sôn am ei bwriad i newid ysgol. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth M. Williams (Hyfforddwraig Gwnïo), CPGC Bangor,
Part of Papurau Kate Roberts
Tystlythyr yn nodi bod KR wedi cwblhau cwrs wyth mis o wnïo yn y Coleg. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth W. C. Short ar ran William Lewis, Cyf, yng Nghaerdydd,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am dâl o £54 2s 6c ar gyfrif Deian a Loli. Mae'r llyfrwerthwyr yn mynnu 331/3% o gomisiwn. Dylai'r gwerthiant wella o Ebrill ymlaen wrth i amgylchiadau cyffredinol wella. Derbynneb swyddogol. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], Llundain NW8,
Part of Papurau Kate Roberts
Cydymdeimlad ar golli brawd Kate Roberts. Cafodd helynt gyda'i cheg oherwydd esgeuluso ei dannedd o bosibl. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Daisy [Vészy], Llundain NW8,
Part of Papurau Kate Roberts
Cydymdeimlad ar farwolaeth [Richard] brawd Kate Roberts. Mae'n cofio treulio prynhawn yn ei gartref yn [Rhostryfan]. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,
Part of Papurau Kate Roberts
Derbyniodd y tri thraethawd ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith [yn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl]. Fe'u hanfonodd at KR ddydd Llun. Awgrymu ei bod yn sylwi ar waith "Mab Gwydyr" ac "Efryd Afraid". Mae'r ail yn ysgrifwr medrus yn null Tegla [Davies]. Mae "Mab Gwydyr" yn rhoi darlun o gymdeithas drwy gyfrwng ysgrifau. Gwell gan Saunders Lewis ei waith ef. Ei duedd ef fyddai atal y Fedal oni bai ei bod hi neu Hugh Bevan yn frwd iawn dros un ohonynt. [Ataliwyd y wobr].
Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,
Part of Papurau Kate Roberts
Rhaid iddi hi a Hugh Bevan setlo'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddofd y Rhyl. Nid oes modd iddo ef fynd yno. Mae'n cynnig anfon cerdd fach arall i'r Faner.
Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,
Part of Papurau Kate Roberts
Mae'n bwriadu anfon llawysgrifau'r Efrydiau Catholig ati i'r swyddfa yr wythnos ganlynol. Sylwadau ar drafodaeth radio yng nghornel y llenor rhwng [D.] Tecwyn Lloyd, [Islwyn] Ffowc Elis ac R. S. Thomas. Mae'r olaf yn fardd Saesneg gwir dda ac ef oedd yr unig feddwl creadigol yn eu plith. Syniadau Seisnig ail-law oedd gan y lleill. Mae darllen beirniadaeth lenyddol Saesneg yn lladd pob annibyniaeth a gwreiddioldeb yn y beirdd a'r beirniaid ifainc Cymraeg. Dywedent nad oes bellach gorff o sumbolau a dderbynnir gan y gymdeithas ac y geill y bardd modern bwyso arno. Ond mae'r beirdd eisteddfodol i gyd o 1900 i 1953 wedi pwyso ar holl gorff y traddodiad Cristnogol. Dyna un gwahaniaeth sylfaenol rhwng sefyllfa'r bardd yng Nghymru a bardd yn Lloegr neu Ffrainc neu'r Almaen. Dynwarediad o'r Saeson yw cymaint a chymaint o'n beirniadaeth ni. Hoffai gael sgwrs gyda KR am Y Faner rywdro.
Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,
Part of Papurau Kate Roberts
Drwg ganddo glywed am salwch KR. Mae'n addo adolygu pryddest Kitchener a beirdd Cadwgan iddi, mae'r llyfrau ganddo. [Swn y Gwynt sy'n Chwythu a Cerddi Cadwgan]. Mae ef ar ganol ysgrifennu drama i'r BBC - Siwan. Ni fydd gobaith iddo fynd ymlaen â hi tan y Calan ar ôl i'r coleg ailddechrau ymhen pythefnos. Mwynhaodd atgofion KR am ei mam yn fawr iawn. Mae'n ceisio perswadio Cyngor y Celfyddydau i roi gwobr o gan punt i R. Williams Parry am Cerddi'r Gaeaf. Gweld mwyalchen a phry genwair ar y lawnt yn ymgiprys.
Llythyr oddi wrth Dyfnallt Morgan (at Gwilym R. Jones), yn Llanddewibrefi,
Part of Papurau Kate Roberts
Hyderu bod Y Faner wedi derbyn copi o'i gerdd Y Llen sydd newydd ei chyhoeddi gan Wasg Aberystwyth. Gwrthododd Saunders Lewis ysgrifennu rhagair i'r gerdd ond nododd ei barodrwydd i adolygu'r gyfrol yn Y Faner. Mae'n awgrymu bod Y Faner yn gofyn i Saunders Lewis adolygu'r gyfrol felly.
Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am gael cyfrol David Bell i'w hadolygu. Mae'n cynnwys adolygiad ar Y Llen [Dyfnallt Morgan]. Rhoddodd lawer o feddwl i'r tri adolygiad - Kitchener Davies, Cerddi Cadwgan a'r bryddest Y Llen, gan obeithio drwyddynt roi cyfeiriad i feddwl y beirdd ifainc. Nid yw'n debyg o fedru ysgrifennu dim arbennig ar gyfer rhifyn Nadolig Y Faner. Mae wedi suddo i gyfrol D. J. [Williams], Hen Dy Ffarm. Mae'r llyfr yn gampwaith o gyfoeth dihysbydd, yn waith mawr.
Llythyr oddi wrth Aston, Parkinson & Gadd, ym Mae Colwyn,
Part of Papurau Kate Roberts
Llythyr ynglyn â dyledion Treth Incwm sydd gan KR yn deillio o'i henillion breindal rhwng 1947 a 1953/4, (ynghyd â phum rhybudd o daliad oddi wrth awdurdodau'r Dreth Incwm). Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,
Part of Papurau Kate Roberts
Diolch am y sylw a gafodd Hen Dy Ffarm yn Y Faner. Teimlai'n benuchel a balch o gael ei ddyfynnu yng Ngholofn y Merched, cystal bob tamaid â derbyn OBE.
Llythyr oddi wrth Howell E. James, yn Llandaf, Caerdydd,
Part of Papurau Kate Roberts
Dyfynnu o Haydn's Dictionary of Dates ynglyn â dyddio, e.e. newid dechrau'r flwyddyn i Ionawr y cyntaf yn 1752 yn hytrach na'r 25 Mawrth, dyddio dwbl, etc. Nodi dyddiadau talu rhenti ffermydd yng Nghymru. Gellir prynu copïau ail-law o'r llyfr dyddiadau mewn siopau llyfrwerthwyr.
Part of Papurau Kate Roberts
Llythyr oddi wrth Treth Incwm, yn Y Rhyl,
Part of Papurau Kate Roberts
Hawlio taliad o £16-4s ar Y Cilgwyn. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth Aston, Parkinson & Gadd, ym Mae Colwyn,
Part of Papurau Kate Roberts
Trefnwyd iddi weld arolygwr trethi yn Y Rhyl ar y 24ain o'r mis. Bu'n talu gormod o forgais i'w chwaer yng nghyfraith. Rhestru'r taliadau wedi tynnu treth ohonynt. Holi am restr o freindaliadau 1952-4. Saesneg/English.