Dangos 59941 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Profedigaethau Enoc Huws I

Llyfr nodiadau yn cynnwys cychwyn drafft pensil, [1886x1890], yn llaw Daniel Owen o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891). Ceir yma'r Rhagarweiniad a phenodau I-XIX (hyd at waelod t. 114 yn yr argraffiad cyntaf), ond wedi eu trefnu yma yn ddeuddeg pennod yn unig. Ysgrifennwyd y testun ar y rectos yn gyntaf (tt. 1-93), a'i barhau o'r cefn ar y versos (tt. 94-187, testun â'i wyneb i waered). = A notebook containing the beginning of an autograph pencil draft, [1886x1890], by Daniel Owen of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891). The volume contains the introduction and chapters I-XIX (to the end of p. 114 in the first edition), here arranged as twelve chapters only. The text begins on the rectos (pp. 1-93) and is then continued from the end on the versos (pp. 94-187, inverted text).
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys barddoniaeth yn llaw Daniel Owen (tt. i, 93a, a thu mewn i'r cloriau (testun â'i wyneb i waered)), a llythyr drafft (f. i, testun â'i wyneb i waered). = The volume also contains poetry in the hand of Daniel Owen (pp. i, 93a, and inside both covers (inverted text)), and a draft letter (p. i, inverted text).

Daniel Owen.

Profedigaethau Enoc Huws II

Llyfr nodiadau yn cynnwys ail ran drafft pensil, [1886x1890], yn llaw Daniel Owen o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891). Ceir yn y gyfrol y testun o ddiwedd pennod XIX hyd at gychwyn XXXIII (heblaw pennod XXIV), ond wedi eu trefnu yma yn ddeg pennod yn unig (a'u rhifo XII-XXI). Ysgrifennwyd y testun ar y rectos yn gyntaf (tt. 188-277), a'i barhau ar y versos (tt. 278-332, 334-347 (versos yn unig heblaw am t. 346), testun â'i wyneb i waered). = A notebook containing the second part of an autograph pencil draft, [1886x1890], by Daniel Owen of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891). The volume contains the text from the end of chapter XIX through to the beginning of XXXIII (except for chapter XXIV), here arranged as ten chapters only (numbered XII-XXI). The text begins on the rectos (pp. 188-277), and is then continued from the end on the versos (pp. 278-332, 334-347 (versos only except for p. 346), inverted text).
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys draft o 'F'ewyrth Hugh', a gyhoeddwyd yn Y Drysorfa, Mai 1888, 171-177, ac a addaswyd wedyn yn bennod XXIV o Enoc Huws (tt. 1-18, testun â'i wyneb i waered); darnau ar grefydd (tt. x-xii, 1, testun â'i wyneb i waered); a barddoniaeth (tt. i, iv-ix a thu mewn i'r cloriau, testun â'i wyneb i waered). = The volume also contains a draft of 'F'ewyrth Hugh', which was published in Y Drysorfa, May 1888, 171-177, before being rewritten as chapter XXIV of Enoc Huws (pp. 1-18, inverted text); fragments on religion (pp. x-xii, 1, inverted text); and poetry (pp. i, iv-ix and inside the covers, inverted text).

Daniel Owen.

Profedigaethau Enoc Huws III

Llyfr nodiadau yn cynnwys trydedd rhan drafft pensil, [1890x1891], yn llaw Daniel Owen o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891). Ceir yma ddiwedd pennod XXXIII a'r cyfan o benodau XXXIV-XLVII (wedi eu rhifo yma yn XXI-XXVII ac wyth heb rif). Ysgrifennwyd y testun ar y rectos yn gyntaf (tt. 348-386, 389-442), a'i barhau ar y versos (tt. 443-534, testun â'i wyneb i waered). = A notebook containing the third part of an autograph pencil draft, [1890x1891], by Daniel Owen of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891). The volume contains the end of chapter XXXIII and chapters XXXIV-XLVII (here numbered XXI-XXVII with a further eight un-numbered). The text begins on the rectos (pp. 348-386, 389-442), and is then continued from the end on the versos (pp. 443-534, inverted text).
Mae'r gyfrol hefyd yn cynnwys englynion i 'Mr Thos. Wynne, Cilcen' ac i 'Meredydd' (t. i, testun â'i wyneb i waered) a phennill (t. 442a, testun â'i wyneb i waered). = The volume also contains englyns to 'Mr Thos. Wynne, Cilcen' and to 'Meredydd' (p. i, inverted text) and a verse (p. 442a, inverted text).

Daniel Owen.

Awdl er côf am y Parchedig John Prichard

'Awdl er côf am y Parchedig John Prichard, Frondirion, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, Amlwch...' gan Robert Parry (Robyn Ddu Eryri), Mawrth 1891 (ff. 1-3). = An awdl in memory of the Rev. John Prichard, Frondirion, Calvinistic Methodist minister in Amlwch, by Robert Parry (Robyn Ddu Eryri), March 1891 (ff. 1-3).

Robyn Ddu Eryri, 1804-1892

Letter book of Dewi Dawel,

Letter book, [1841]-1891, of David Evans (Dewi Dawel), also used by him as a minute book for the Glynsanan Benefit Society, Llanfynydd.
The volume contains accounts, minutes and resolutions, [1841]-1870, of the Glynsanan Benefit Society (ff. 1-17, 134 verso, 137-139, 154 verso); summaries, copies and drafts, 1871-1891, of letters sent by David Evans, relating to family matters and his work as a tailor, publican and rate-collector, as well as a few letters by his son, Thomas Morgan Evans (ff. 23-136 verso, 137 verso-147, 148-149); miscellaneous memoranda and accounts, 1869-1886 (ff. 17-22); parts of an essay on the history of Talyllychau, [1890] (ff. 147 verso-148, 150 verso-152; see also NLW MS 9510E); various verses in Welsh, 1890-[1891] (ff. 147, 149 verso-150, 152 verso-154); and a memorandum relating to a ploughing match in Cwm-du, 1878 (ff. 5, 6). Part of a draft letter of condolence, [1876], to the family of the late John Johnes, Dolaucothi, is loose between ff. 17-18.

Anerchiad gan Cranogwen

  • NLW MS 23895A.
  • Ffeil
  • [?1891]

Llyfr nodiadau, [?1891], yn cynnwys rhan o anerchiad gan Sarah Jane Rees (Cranogwen) ar yr Ysgolion Sul Cymreig a'r diffygion ymddangosiadol yn y dulliau dysgu a arferwyd ynddynt. = Notebook, [?1891], containing part of an address by Sarah Jane Rees (Cranogwen), on Welsh Sunday Schools and perceived deficiencies in the teaching methods employed in them.
Mae rhan cyntaf y testun ar gefn y dail yn unig (ff. 1-9), wedi hynny mae wedi ei ysgrifennu ar draws pob agoriad (ff. 9 verso-16 verso); mae'r diwedd, ac o bosib y dechrau, yn eisiau. = The first half of the text is on the rectos only (ff. 1-9), thereafter it is written across each opening (ff. 9 verso-16 verso); the end, and possibly the beginning, is missing.

Cranogwen, 1839-1916

Llawysgrifau 'Tremlyn'

Papers, [c. 1860]-[c. 1890], of David Davies ('Tremlyn'), a clerk at Pen yr Orsedd quarry, Nantlle, Caernarvonshire, comprising notes on early British history, local history and genealogy, and on figures such as 'Eben Fardd' (Ebenezer Thomas) and 'Dic Aberdaron' (Richard Robert Jones), together with compositions by 'Tremlyn', entered at local eisteddfodau. Papers found loose inside the volume have been filed separately (MS 23630iiE).

Davies, David, -1901

Tystysgrifau enillwyd gan John Edwal Williams

Tystysgrifau enillwyd gan John Edwal Williams yn ystod ei yrfa addysgiadol; yn ogystal ag amlen wag wedi'i chyfeirio at 'Mr J. Edwal Williams 8 Darley St[reet] Winter St[reet] Sheffield'. Ar ddechrau ei yrfa, bu John Edwal yn dysgu yn Ysgol Fwrdd Firs Hill, Sheffield (gweler Tystlythyrau John Edwal Williams dan bennawd John Edwal Williams).

Arysgrif yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal Williams, ar amlen wedi'i chyfeirio at John Edwal Williams yn '12 Park Street, Upper Bangor': 'RHIFYN OLAF Y DEYRNAS TYSTYSGRIFAU DAD (J.E.W.)'. Am rifyn olaf Y Deyrnas, gweler The Welsh Outlook / Y Geninen / Y Deyrnas dan bennawd John Edwal Williams.

Cerdyn coffa Mary Llewellyn

Cerdyn coffa ('In Memoriam') Mary Llewellyn, Denver, Colorado, Unol Daleithiau, a fu farw ychydig ddyddiau wedi genedigaeth ei merch, Gwladys Mary Llewellyn (gweler Gwladys Llewellyn dan bennawd Aelodau eraill teulu Waldo Williams).

Llawysgrifau Daniel Owen

  • GB 0210 MSDANIOW
  • Fonds
  • [1885]-[1895]

Llawysgrifau Daniel Owen, [1885]-[1895], yn cynnwys drafftiau o'r rhan fwyaf o'i nofel Profedigaethau Enoc Huws (Wrecsam, 1891), a rhannau o'r cyfrolau Y Siswrn (Yr Wyddgrug, 1886), Gwen Tomos (Wrecsam, 1894) a Straeon y Pentan (Wrecsam, 1895). = Manuscripts of Daniel Owen, [1885]-[1895], including drafts of most of his novel Profedigaethau Enoc Huws (Wrexham, 1891), along with parts of the volumes Y Siswrn (Mold, 1886), Gwen Tomos (Wrexham, 1894) and Straeon y Pentan (Wrexham, 1895).

Owen, Daniel, 1836-1895.

Straeon y Pentan

Llyfr nodiadau yn cynnwys drafftiau, [1894]-[1895], mewn pensil, gan Daniel Owen, o nifer o ysgrifau, yn arbennig y mwyafrif o'r straeon a gyhoeddwyd yn Straeon y Pentan (Wrecsam, 1895). = A notebook containing autograph drafts, [1894]-[1895], in pencil, of a number of prose works by Daniel Owen, in particular the majority of the stories published in Straeon y Pentan (Wrexham, 1895).
O'r pedair ar bymtheg stori yn Straeon y Pentan ceir deuddeg yma (ff. 39-95 (rectos yn unig); 1 recto-verso, 2 verso-8 verso (versos yn unig), 51 verso-65 verso (versos yn unig), 96 recto-verso, a thu mewn i'r cloriau), gan gynnwys 'Nid wrth ei Big mae Prynu Cyffylog' (tu mewn i’r clawr cefn, ff. 96 verso, 96 recto, tu mewn i’r clawr blaen), ac 'Y Daleb' (ff. 3 verso, 2 verso, 1 verso, 1, 5 verso, 4 verso, 6 verso, 7 verso, 8 verso). Yn ogystal ceir drafftiau o'r rhagair 'At y darllenydd' (ff. 9 verso, 10 verso) a'r rhan fwyaf o'r ddwy bennod olaf, hyd y diwedd (ff. 2-23, rectos yn unig), o Gwen Tomos (Wrecsam, 1894); a'r tair ysgrif olaf ar gyfer 'Nodion Ned Huws', a ymddangosodd yn Y Cymro, 19 Ebrill-3 Mai 1894 (gw. E. G. Millward, 'Ysgrifau 'Anhysbys' Daniel Owen', Llên Cymru 14 (1983-4), 253-276 (tt. 272-276)) (ff. 24-38, rectos yn unig). Cafodd testun 'darlithoedd' Wil Bryan (ff. 66 verso-95 verso, versos yn unig) ei gyhoeddi gyntaf yn Daniel Owen, Y Ddynol Natur: Cyfres o ddarlithiau gan Wil Bryan, gol. gan G. C. Ballinger (Caerdydd, 1995); mae ambell i ddarn o farddoniaeth yn y gyfrol, mae'n debyg heb eu cyhoeddi (ff. 11 verso, 50 verso, 95). = Of the nineteen stories in Straeon y Pentan twelve are present here (ff. 39-95 (rectos only); 1 recto-verso, 2 verso-8 verso (versos only), 51 verso-65 verso (versos only), 96 recto-verso, and inside the covers), including 'Nid wrth ei Big mae Prynu Cyffylog' (inside back cover, ff. 96 verso, 96 recto, inside front cover), and 'Y Daleb' (ff. 3 verso, 2 verso, 1 verso, 1, 5 verso, 4 verso, 6 verso, 7 verso, 8 verso). In addition there are drafts of the foreword, 'At y darllenydd' (ff. 9 verso, 10 verso), and most of the final two chapters, to the end (ff. 2-23, rectos only), of Gwen Tomos (Wrexham, 1894); and the final three pieces for 'Nodion Ned Huws', which appeared in Y Cymro, 19 April-3 May 1894 (see E. G. Millward, 'Ysgrifau 'Anhysbys' Daniel Owen', Llên Cymru 14 (1983-4), 253-276 (pp. 272-276)) (ff. 24-38, rectos only). The text of the 'lectures' of Wil Bryan (ff. 66 verso-95 verso, versos only) was first published in Daniel Owen, Y Ddynol Natur: Cyfres o ddarlithiau gan Wil Bryan, ed. by G. C. Ballinger (Cardiff, 1995); a few fragments of poems in the volume are apparently unpublished (ff. 11 verso, 50 verso, 95).

Daniel Owen.

Cerddi

Cerddi heb ddyddiad yn llaw Iago ab Iago [recte Ieuan] o f. 58 ymlaen.

Llawlyfr cyfarwyddiadol i ganu Penillion

  • NLW MS 16595C
  • Ffeil
  • [?1890au]

Adysgrif, [?1890au], gan John Williams (Wyr yr Eos), o'r traethawd 'Llawlyfr Cyfarwyddiadau i ganu Penillion ac Awdlau gyda'r Tannau' a ysgrifennwyd yn y 1870au gan ei daid John Williams (Eos Môn). = A transcript, [?1890s], by John Williams (Wyr yr Eos), of an essay on penillion singing, 'Llawlyfr Cyfarwyddiadau i ganu Penillion ac Awdlau gyda'r Tannau', written in the 1870s by his grandfather John Williams (Eos Môn).
Cynhwysir hefyd lythyr, 22 Medi 1955, gan y rhoddwr, yn disgrifio hanes y llawysgrif (f. i). = Also included is a covering letter, 22 September 1955, from the donor, describing the history of the manuscript (f. i).

Wyr yr Eos, 1870-1929

Barddoniaeth

Tri englyn 'I Miss R. Davies Caerdydd' [sef Rebecca David] gan Robyn Ddu Eryri, 28 Mai 1850 (f. 1), a chopi, [19 gan., ail ½], o 'Ffair Aberdâr' gan Thomas Tayler, Merthyr Tudful (ff. 2-4). = A series of three englyns to 'Miss R. Davies Caerdydd' [Rebecca David] by Robyn Ddu Eryri, 28 May 1850 (f. 1), and a copy, [19 cent., second ½], of Thomas Tayler's 'Ffair Aberdâr'.
Cyhoeddwyd 'Ffair Aberdâr' yn Thomas Morgan, Hanes Tonyrefail (Caerdydd, 1899), tt. 105-108. = 'Ffair Aberdâr' was published in Thomas Morgan, Hanes Tonyrefail (Cardiff, 1899), pp. 105-108.

Robyn Ddu Eryri, 1804-1892

Dyddiadur Chile,

  • NLW MS 23912D.
  • ffeil
  • [?1890au]

Copi yn llaw Watkin William Pritchard Williams, Nueva Imperial, Chile, [?1890au], o rannau o'i ddyddiaduron ar gyfer y blynyddoedd 1889 a 1891. = A transcript by Watkin William Pritchard Williams, Nueva Imperial, Chile, [?1890s], of parts of his diaries for the years 1889 and 1891.
Mae'r dyddiaduron yn cynnwys hanes, [2]-5 Rhagfyr 1889, taith ar fwrdd agerlong i Concepción, y brifddinas ranbarthol, i gyfarfod gyda swyddog mewnfudo (ff. 1-3 verso, 4 verso), a dyddiadur yn cofnodi bywyd bob dydd ar y fferm deuluol yn Nueva Imperial, 17 Awst-16 Hydref 1891 (ff. 5-16 verso). Ceir cyfieithiadau o'r dyddiaduron i'r Saesneg (heblaw am f. 11 recto-verso) yn Huw Watkin Williams, The Watkin Path to Patagonia (Castell-nedd, 2006), tt. 97-101, 105-119. Ceir nodiadau ynglŷn â Phatagonia mewn Sbaeneg, a hynnu mewn llaw wahanol, ar f. 4 (testun â'i wyneb i waered). = The diaries comprise an account, [2]-5 December 1889, of a trip on board a steamship to the regional capital, Concepción, to meet with the immigration supervisor (ff. 1-3 verso, 4 verso), and a diary detailing everyday life on the family farm at Nueva Imperial, 17 August-16 October 1891 (ff. 5-16 verso). English translations of the diaries (f. 11 recto-verso excepted) can be found in Huw Watkin Williams, The Watkin Path to Patagonia (Neath, 2006), pp. 97-101, 105-119. There are also notes on Patagonia in Spanish, and in a different hand, on f. 4 (inverted text).

Williams, W. W. P. (Watkin William Pritchard), 1832-1912

Barddoniaeth

Papurau rhyddion yn awr wedi eu rhwymo yn gyfrolau ydyw Evan James MSS 8-15. Yn Evan James MSS 8-11, sef y rhai sy'n cynnwys barddoniaeth Ieuan, gwelir ar gefnau rhai dalennau y nodiad 'copied to book', yn llaw Iago; Evan James MS 3 ydyw'r llyfr hwn. Ar eraill gwelir 'copied to the music book', yn llaw Iago eto; nid yw'r llyfr hwn yn y casgliad. Gwelir fod nifer o'r cerddi wedi bod trwy'r post, rhai yn llythyrau at aelodau o'i deulu, eraill i eisteddfodau. Mae ychydig o waith Tomos ab Iago yn gymysg ag eiddo ei frawd oherwydd defnyddio'r un ddalen gan y ddau; mae'n bosibl hefyd fod nifer o'r cerddi dienw, neu â ffugenwau yn unig, yn waith Tomos - tebyg iawn i'w gilydd yw'r ddwy ysgrifen. Mae peth ansicrwydd hefyd ynglyn ag awduriaeth y cerddi yn Evan James MS 10, ff. 58-65.

Nodiadau T. E. Ellis ar Morgan Llwyd

  • NLW MS 24073B
  • Ffeil
  • 1893, [c. 1897]

Copi personol Thomas [Edward] Ellis, wedi ei ryngddalennu, o Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Lerpwl: Isaac Foulkes, 1893), yn cynnwys nodiadau ac arnodiadau helaeth, yn Saesneg a Chymraeg, yn llaw Ellis, [c. 1897]. Ellis oedd golygydd cyfrol gyntaf Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), lle'r atgynhyrchwyd testun argraffiad cyntaf Llyfr y Tri Aderyn (1653) (tt. 151-266). = Thomas [Edward] Ellis's personal interleaved copy of Morgan Llwyd, Llyfr y Tri Aderyn (Liverpool: Isaac Foulkes, 1893), containing copious notes and annotations, [c. 1897], by Ellis in English and Welsh. Ellis was the editor of the first volume of Gweithiau Morgan Llwyd o Wynedd (Bangor, 1899), in which was reproduced the text of the first edition of Llyfr y Tri Aderyn (1653) (pp. 151-266).
Mae'r gyfrol yn cynnwys mân arnodiadau ar y testun gwreiddiol gyda nodiadau ychwanegol ar y rhyngddalennau (ff. 28 verso-141 verso passim). Ceir nodiadau a dyfyniadau mwy sylweddol, ar bynciau megis y Rhyfel Cartref a'r Werinlywodraeth, Oliver Cromwell, John Milton, diwinyddiaeth Gatholig, y Bumed Frenhiniaeth a'r Piwritaniaid Cymreig, ar y dalennau ychwanegol ar gychwyn a diwedd y gyfrol (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), gan ddyfynnu amrywiaeth o ffynonellau. = The volume contains minor annotations to the original text with further notes supplied on the interleaves (ff. 28 verso-141 verso passim). More substantial notes and quotations, on subjects including the Civil War and Commonwealth, Oliver Cromwell, John Milton, Catholic theology, the Fifth Monarchy and the Welsh Puritans, have been written on the additional leaves at the beginning and end of the volume (ff. 1 verso-15, 25 verso-26, 145-150), quoting various sources.

Ellis, Thomas Edward, 1859-1899

Marwnad Richard Hughes

Copi o 'Marwnad Richard Hughes' gan Thomas Edwards o'r Nant (Twm o'r Nant), [19 gan.]. = A copy of an elegy, 'Marwnad Richard Hughes', by Thomas Edwards o'r Nant (Twm o'r Nant), [19 cent.].

Edwards, Thomas, 1739-1810

Canlyniadau 121 i 140 o 59941