Cynhadledd Ryngwladol ar Lên Gwerin Celtaidd
- A5/1
- ffeil
- [1945x1960]
Rhestr enwau o'r rhai a fynychodd Gynhadledd Ryngwladol ar Lên Gwerin Celtaidd, [1945x1960].
Cynhadledd Ryngwladol ar Lên Gwerin Celtaidd
Rhestr enwau o'r rhai a fynychodd Gynhadledd Ryngwladol ar Lên Gwerin Celtaidd, [1945x1960].
Cynhadledd Ewropeaidd ar Leiafrifoedd Ieithyddol, 1967
Gohebiaeth, 1966-1967, a phapurau, yn cynnwys copïau o anerchiadau, yn ymwneud â Chynhadledd Ewropeaidd ar Leiafrifoedd Ieithyddol (European Conference of Lingual Minorities), Oslo, 1967.
British Association for the Advancement of Science
Papurau, 1974-1982, yn ymwneud â Phwyllgor Adran H (Anthropoleg) British Association for the Advancement of Science, yn cynnwys cofnodion, rhestri aelodau'r pwyllgor adrannol, a llythyrau gan yr Ysgrifennydd Gwyn I. Meirion-Jones (18). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys copïau teipysgrif o anerchiad llywyddol Iorwerth Peate, 'The study of folk life and its part in the defence of civilization', 1958.
Meirion-Jones, Gwyn I.
Llyfrau nodiadau Iorwerth Peate, [1917-1948] (1921-1922 yn bennaf). Ymddengys fod y rhan fwyaf ohonynt wedi'u creu pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ac maent yn ymwneud â phynciau megis llenyddiaeth Gymraeg, daearyddiaeth, y gyfraith, a hanes. Ceir hefyd llyfr 'Daily Gleanings From the World's Treasures' a gasglwyd ynghyd ganddo, a chyfrol 'Field surveys'. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys papurau arholiad, 1919-1923; a phapurau amrywiol, 1917-1923, yn eu plith llawysgrif o'r bryddest 'Y Briffordd' ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, 1921, a'r soned 'Y diweddar Syr O. M. Edwards', ynghyd â nodiadau ar gyfer dosbarthiadau allanol, 1926-1927.
Dau ddyddiadur, 1874, sef Dyddiadur yr Annibynwyr a Blackwood's Shilling Scribbling Diary.
Blackwood's Shilling Scribbling Diary, 1876.
N. J. Powell & Co.'s Shilling Diary, 1879. Mae'n cynnwys nodiadau am Lanbrynmair.
Y Dyddiadur Annibynol a Park & Son's Commercial Scribbling Diary, 1882.
Y Dyddiadur Annibynol a dyddiadur heb gloriau, 1886.
Y Dyddiadur Annibynol a dyddiadur heb gloriau, 1890. Mae'r olaf yn anghyflawn; nid oes cofnodion dyddiadur, ond mae'n cynnwys cyfeiriad Morris Peate yn Iowa.
Y Llawlyfr Anibynol a W. Straker's Scribbling Diary, 1895.
Llyfr cyfrifon, 1863-1877 a 1895-1896, yn rhestru a chofnodi costau mân ddefnyddiau megis hoelion a phinau.
Tri geirda, 1904 a 1910, ar gyfer George H. Peate.
Night book yn cynnwys cyfraniadau aelodau o'r Loyal Brynmair Lodge, 1906-1907, yn eu plith George H. Peate.
Loyal Brynmair Lodge
Tri llyfr lloffion yn cynnwys torion printiedig yn bennaf, 1860-1937, y mwyafrif ohonynt yn ymwneud ag ardal Llanbrynmair. Mae rhai o'r torion yn cyfeirio at aelodau'r teulu, yn cynnwys Iorwerth Peate, ac mae sawl cerdd ganddo yn eu plith. Ymddengys mai George H. Peate sydd wedi casglu'r torion ynghyd yn y cyfrolau. Mae nifer o'r papurau'n rhydd.
Dau lythyr, 1926, ynglŷn â thraethawd ymchwil Nansi Peate; ynghyd â thystysgrifau treth, 1983. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys dau lythyr, 1927-1928, wedi'u cyfeirio at Mr Davies, tad Nansi Peate o bosib.