Showing 174 results

Archival description
Sub-sub-fonds
Advanced search options
Print preview View:

Gohebiaeth David Owen Roberts

Llythyrau, &c., ynglyn â David Owen Roberts, brawd Kate Roberts - ei wasanaeth yn filwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ei glwyfo yn Salonika yn 1917 a'i farwolaeth ym Malta yn ddiweddarach y flwyddyn honno, ynglyn â'i fedd ym Mynwent Filwrol Pieta, Malta, a chais i gael pensiwn milwrol i'w fam. Gweler hefyd gerdd goffa i David Owen Roberts o waith y bardd 'Tryfanwy' wedi ei fframio yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau 600.

Llyfrau nodiadau a phapurau Griffith Jones / Griffith Jones notebooks and papers

Llyfrau nodiadau a phapurau (1906-1966) y Parch. Griffith Jones, Saron, Llanwnda, a gasglwyd gan ei fab-yng-nghyfraith Emyr Humphreys. Mae'r grŵp yn cynnwys pregethau, cofnodion casgliadau plwyf, nodiadau cwis, llyfrau tanysgrifio, a gohebiaeth. / Notebooks and papers (1906-1966) of the Rev. Griffith Jones, Saron, Llanwnda, collected by his son-in-law Emyr Humphreys. The group includes sermons, parish collection records, quiz notes, subscription books, and correspondence.

Yr Urdd yn Lleol

Deunydd yn ymwneud â gweithgareddau'r Urdd ar lefel leol, megis sefydlu Canolfannau'r Urdd a grwpiau a gweithgareddau rhanbarthol. Mae hefyd yn cynnwys deunydd yn ymwneud ag Eisteddfodau a gweithgareddau'r Aelwyd leol.

Gweithgarwch yr Urdd

Deunydd yn ymwneud ag amrywiol weithgareddau'r Urdd gan gynnwys cynadleddau, rhaglenni teledu, gwyliau gwerin, gwyliau drama, ac ymgyrchoedd.

Cylchgronnau ac Adnoddau'r Urdd

Deunydd yn ymwneud â chreu a darparu adnoddau yn ymwneud â rhaglenni a digwyddiadau'r Urdd. Mae'r eitemau'n cynnwys gohebiaeth, pecynnau gwybodaeth, canllawiau a chylchgronau.

Datganiadau breindal a chytundebau cyhoeddi / Royalty statements and publishing contracts

Papurau gweinyddol yn ymwneud â gweithiau cyhoeddedig Emyr Humphreys, yn cynnwys contractau a chytundebau cyhoeddi (1943-2005); a datganiadau breindal, datganiadau Hawliau Benthyca Cyhoeddus (PLR), a phapurau aelodaeth Undeb (1965-2009). / Administrative papers relating to published works by Emyr Humphreys, consisting of publishing contracts and agreements (1943-2005); and royalty statements, Public Lending Right (PLR) statements, and Union membership papers (1965-2009).

Sgriptiau / Scripts

Sgriptiau gan ac yn ymwneud â gwaith Emyr Humphreys ac eraill, ynghyd â phapurau cysylltiedig eraill megis nodiadau, drafftiau, gohebiaeth, cytundebau, a theipysgrifau, ac yn cynnwys sgriptiau ar gyfer teledu ([?1936]-[2006]); papurau a sgriptiau yn ymwneud â gweithiau a gynhyrchwyd gan gwmni Ffilmiau Bryngwyn (1882-1898; 1983-2010); sgriptiau ar gyfer dramâu llwyfan (1963-[c.1964]; 1998); nodiadau pellach (heb eu dyddio); a nifer o ffotograffau o gynyrchiadau o ddramâu teledu'r BBC (1959; 1961). / Scripts by and relating to the works of Emyr Humphreys and others, together with other related papers such as notes, drafts, correspondence, contracts, and typescripts, and consisting of scripts for television ([?1936]-[2006]); papers and scripts relating to works produced by the Ffilmiau Bryngwyn company (1882-1898; 1983-2010); scripts for stage plays (1963-[c.1964]; 1998); further notes (undated); and a number of photographs of productions of BBC television plays (1959; 1961).

Eitemau amrywiol / Miscellaneous items

Eitemau a phapurau amrywiol a gadwyd ac a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys llyfrau nodiadau personol a dyddiaduron (1926-2006); papurau yn ymwneud â graddau er anrhydedd a chymrodoriaethau (1950-2013); papurau'n ymwneud â'r llenor a'r gwleidydd Cymreig Saunders Lewis (1922-1999); papurau'n ymwneud â'r sefydliad llenyddol The Taliesin Trust ([1980]-1993); rhaglenni a phamffledi yn ymwneud â digwyddiadau llenyddol a'r celfyddydau (1969-2009); trawsgrifiad cyfweliad (1996); a chasgliad o fapiau o'r Eidal o'r Ail Ryfel Byd (1943). / Miscellaneous items and papers kept and collected by Emyr Humphreys, comprising personal notebooks and diaries (1926-2006); papers relating to honorary degrees and fellowships (1950-2013); papers relating to the Welsh writer and politician Saunders Lewis (1922-1999); papers relating to the literary organisation The Taliesin Trust ([1980]-1993); programmes and pamphlets relating to literary events and the arts (1969-2009); an interview transcript (1996); and a collection of WWII maps of Italy (1943).

Straeon byrion / Short stories

Llyfrau nodiadau a phapurau amrywiol ([?1938x?1948]-2014), yn cynnwys nodiadau llawysgrif, drafftiau rhannol a llawn, a nifer fechan o deipysgrifau, yn ymwneud â chasgliadau o straeon byrion cyhoeddedig a heb eu cyhoeddi gan Emyr Humphreys. / Various notebooks and papers ([?1938x?1948]-2014), including manuscript notes, partial and full drafts, and a small number of typescripts, relating to collections of published and unpublished short stories by Emyr Humphreys.

Results 1 to 20 of 174