Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 828500 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau Ieuan Wyn Jones

  • GB 0210 IEUWYN
  • fonds
  • 1964-2015

Papurau gwleidyddol Ieuan Wyn Jones, 1964-2015, gyda'r rhan fwyaf o'i gyfnodau fel Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad dros Ynys Mon, gan gynnwys gohebiaeth ar bynciau gwahanol, papurau etholaethol, papurau yn ymwneud a Phlaid Cymru, arweinyddiaeth Plaid Cymru llywodraeth clymblaid Cymru'n Un.

Jones, Ieuan Wyn

Papurau mewnol Plaid Cymru

Papurau gan gynnwys gohebiaeth, nodiadau a chofnodion ynglyn ag ailstrwythuro staffio Plaid Cymru, trefniadau mewnol Plaid Cymru, cyflwr adeilad y brif swyddfa, urddo Dafydd Elis-Thomas i Dy'r Arglwyddi a pharatoadau ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1992.

Deunydd amrywiol

Papurau amrywiol gan gynnwys deunydd ar ffioedd myfyrwyr prifysgol, cydweithio rhwng Phrifysgolion, codi arian o Gymry tu allan i Gymru i Blaid Cymru, trefniadau ymgyrchu, penodiad Dafydd Trystan yn Brif Weithredwr Plaid Cymru, araith yr yr Iaith Gymraeg a phapur newydd Cymraeg arfaethedig.

Paratoadau Etholiad y Cynulliad

Papurau ynglyn ag ymgyrch etholiad y Cynulliad yn 2003 gan gynnwys canlyniadau canfasio, dogfennau cyfarfodydd ymgyrchu a deunydd ar Iraq a chyllid llywodraeth leol.

Areithiau, papurau cynhadledd a gwaith Cynulliad

Areithiau gan Ieuan Wyn Jones, trafodaethau ar bolisiau Plaid Cymru gyda'r Gwasanaeth Sifil cyn etholiadau 2007, trefniadau a digwyddiadau ymgyrch etholiad y Cynulliad, gohebiaeth a chwestiynau ar ddatblygu economaidd a Bwrdd yr Iaith Gymraeg, datblygu maniffesto Plaid Cymru ar gyfer 2007, taith gerdded Ieuan Wyn Jones trwy Gymru ac anghytundeb rhwng Dafydd Elis Thomas fel Llywydd y Cynulliad a John Marek, Dirprwy Lywydd.

Eirian Llwyd

Deunydd am Eirian Llwyd yn dilyn ei marwolaeth gan gynwwys copiau o gylchgronnau gyda chofiannau iddi ac erthyglau am y cronfa a sefydlwyd er cof amdani a thaith cerdded Ieuan Wyn Jones ar hyd Clawdd Offa.

Gohebiaeth a gwaith mewnol Plaid Cymru

Papurau amrywiol gan gynnwys copi o Hansard 20 Hydref 1996 lle mae cwestiwn ar wledydd yn cael annibynniaeth o Brydain, nodiadau, papur y Ceidwadwyr ar gryfhau'r Deyrnas Unedig, Cymru a'r Undeb Ewropeaidd a chopi o ariath Nelson Mandela yn y Senedd adeg ei ymweliad a Phrydain.

Canlyniadau 1 i 20 o 828500