Dangos 53350 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

621 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Trawsgrifiad o gyfweliad gyda Emyr Humphreys / Transcript of an interview with Emyr Humphreys

Trawsgrifiad o gyfweliad ag Emyr Humphreys gan Mieke Stewen (Mai 1996), yn trafod gweithiau Emyr Humphreys gan gynnwys 'A Toy Epic', 'The Little Kingdom', a 'The Taliesin Tradition: A Quest for the Welsh Identity'. / A transcript of an interview with Emyr Humphreys by Mieke Stewen (May 1996), discussing Emyr Humphreys' works including 'A Toy Epic', 'The Little Kingdom', and 'The Taliesin Tradition: A Quest for the Welsh Identity'.

Mapiau o'r Eidal o gyfnod yr Ail Ryfel Byd / WWII era maps of Italy

Pymtheg map ffordd o'r Eidal, dyddiedig 1943 ac a gyhoeddwyd gan y 'U.S. Army Map Service', Washington. O bosib yn gysylltiedig â gwasanaeth Emyr Humphreys yn yr Eidal yn ystod yr Ail Ryfel Byd. / Fifteen road maps of Italy, dated 1943 and issued by the U.S. Army Map Service, Washington. Possibly related to Emyr Humphreys' service in Italy during the Second World War.

Llyfrau nodiadau poced / Pocket notebooks

Dau ar bymtheg o lyfrau nodiadau poced (1991-2006), yn cynnwys nodiadau llawysgrif a ysgrifennwyd yn bennaf yn llaw Emyr Humphreys gydag ambell law arall, yn cynnwys dyddiadau ac amseroedd, enwau a chyfeiriadau, drafftiau, syniadau, a barddoniaeth; ynghyd â nodiadau pellach wedi eu hysgrifennu ar napcyn, a llythyr oddi wrth Emyr Humphreys (heb ei ddyddio). / Seventeen pocket notebooks (1991-2006), containing manuscript notes written mainly in the hand of Emyr Humphreys with the occasional other hand, including dates and times, names and addresses, drafts, ideas, and poetry; together with further notes written on a napkin, and a letter from Emyr Humphreys (undated).

Graddau er anrhydedd / Honorary degrees

Rhaglenni graddio a phapurau eraill yn ymwneud â Graddau er Anrhydedd a Chymrodoriaethau a dderbyniwyd gan Emyr Humphreys, gan gynnwys rhaglenni ar gyfer Prifysgol Abertawe (Cymrodoriaeth Coleg Er Anrhydedd 1987), a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1990, Doethuriaeth er Anrhydedd mewn Llenyddiaeth); copi o gylchgrawn 'Hon' (1963), yn cynnwys cyfweliad ag Emyr Humphreys; a llythyr oddi wrth Walford Davies (1978), ynglŷn â'r cynulliad blynyddol, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhaglen ar gyfer hanner canmlwyddiant Côr Meibion Trelawnyd (1983), gan gynnwys llythyr gan Ednyfed Williams; a gwahoddiad am sgwrs yn y BBC (1950). / Graduation programmes and other papers related to Honorary Degrees and Fellowships received by Emyr Humphreys, including programmes for Swansea University (1987 Honorary College Fellowship), and the University College of Wales, Aberystwyth (1990, Honorary Doctorate in Literature); a copy of 'Hon' magazine (1963), featuring an interview with Emyr Humphreys; and a letter from Walford Davies (1978), re the annual assembly, University College of Wales Aberystwyth. The file also contains a programme for Côr Meibion Trelawnyd 50th anniversary (1983), including a letter from Ednyfed Williams; and an invitation for a talk at the BBC (1950).

Cymrodoriaeth a chynhadledd Gregynog / Gregynog fellowship and conference

Papurau'n ymwneud â Chymrodoriaeth a chynhadledd Gregynog, gan gynnwys rhaglen ac adroddiad cynhadledd (1972), a llythyrau (1972; 1974-1975) at Emyr Humphreys oddi wrth Glyn Tegai Hughes, Gregynog (4), Ben Jones (1), ac Arthur Johnston (1). Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau pellach oddi wrth J. Beverley Smith (1985) a Dafydd Rogers (1991); a theipysgrifau (1982; heb ddyddiad) o ddrafftiau o weithiau o’r enw ‘Saesneg ar oriau Cymraeg y Sianel’, ‘Hunan les neu hunan laddiad?’, a ‘Lle pwysig yw theatre’. / Papers relating to the Gregynog Fellowship and conference, including a conference programme and report (1972), and letters (1972; 1974-1975) to Emyr Humphreys from Glyn Tegai Hughes, Gregynog (4), Ben Jones (1), and Arthur Johnston (1). The file also contains further letters from J. Beverley Smith (1985) and Dafydd Rogers (1991); and typescripts (1982; undated) of drafts of works titled 'Saesneg ar oriau Cymraeg y Sianel’, 'Hunan les neu hunan laddiad?’, and ‘Lle pwysig yw theatre’.

Gweithredoedd Ymddiriedolaeth / Trust deeds

Dau gopi o weithred ymddiriedolaeth Ymddiriedolaeth Taliesin (1989), ynghyd â dau lythyr oddi wrth y gyfreithwyr Morgan, Bruce & Hardwickes. / Two copies of the trust deed for The Taliesin Trust (1989), together with two letters from Morgan, Bruce & Hardwickes Solicitors.

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol eraill / Various other event programmes

Rhaglenni digwyddiadau amrywiol a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys rhaglenni ar gyfer cynhyrchiad theatr ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Abertawe (2003); ‘25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Orielau Celf Dinas Sheffield (1978); copi o ‘Fine print: A Review for the Arts of the Book’, cyf.7.2 (1981); a chopi o glawr ‘Wales’ rhif 1 1937 (dyddiedig 1969). / Various event programmes collected by Emyr Humphreys, consisting of programmes for a theatre production ‘Noboalfabeto’, Teatro delle Albe (2001); ‘Dylan Thomas: A Memorial Catalogue’, Swansea (2003); ’25 Paintings from the Festival of Britain 1951’, Sheffield City Art Galleries (1978); a copy of ‘Fine Print: A Review for the Arts of the Book’, vol.7.2 (1981); and a copy of the cover of ‘Wales’ no.1 1937 (dated 1969).

Canlyniadau 61 i 80 o 53350