Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 839433 canlyniad

Disgrifiad archifol
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

'Y parc llafur'

Amlen wreiddiol yn cynnwys drafft teipysgrif gyda diwygiadau mewn llawysgrif o 'Y parc llafur (= Y cae yd)' gan Dr T. J. Jenkin, ynghyd â drafft o 'Y Twrci' gan T. Ifor Rees.

'Y galon friw'

Drafft teipysgrif o 'Y galon friw: cyfieithiad a chyfaddasiad o "Torn sails" gan Allen Raine', gyda diwygiadau yn llaw T. Ifor Rees. Ymddengys mai Megan Morgan yw'r cyfieithydd, a chyhoeddwyd y gwaith o dan y teitl 'Calonnau briw' yn 1968.

'Y Ffôadur'

Copi llawysgrif o 'Y Ffôadur (darn o hunan-gofiant o ddechrau'r ganrif o'r blaen)' gydag enw D. J. Davies wedi'i nodi ar frig y dudalen gyntaf.

Amrywiol

Amlen wreiddiol wedi'i nodi â "Bolivia and Mexico Talks and Articles" yn cynnwys copïau yn dwyn y teitlau canlynol: 'A few memories'; 'Geni llosgfynydd'; 'La Paz' (sgript ar gyfer y BBC); 'Omar Khayyam ym Mexico'; 'Aviacion y el beni'; 'Mieri lle bu mawredd: hen wareiddiad y Maya a'r Inca'; 'Mawredd a chwymp: hanes rhyfedd y Maya'; 'Latin America'; 'Omar Khayyam and Mexican Oil'; 'Glimpses of the Maya and Inca cultures'; 'Bolivia'; 'Peru'; a 'The City of Our Lady of La Paz'; ynghyd â llythyr at olygydd y Sunday Times ar 'Britons', ac adolygiadau amrywiol.

'Rubaiyat, Omar Khayyam'

Drafftiau teipysgrif o 'Rubaiyat, Omar Khayyam: sef trosiad i'r Gymraeg o gyfieithiad (neu aralleiriad os mynner) adnabyddus Edward Fitzgerald', ynghyd â chopi sampl o'r gyfrol a argraffwyd yn Ninas Mecsico yn 1939 (heb gloriau a darn o'r wynebddalen wedi'i dorri i ffwrdd) a gohebiaeth yn ymwneud â'r gyfrol [ymddengys bod llythyrau'n ymwneud a'u gyhoeddiadau eraill wedi'u ffeilio ynghyd â'r rhai yma].

Canlyniadau 21 i 40 o 839433