Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau T. J. Morgan, Berry, R. G. (Robert Griffith), 1869-1945
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llythyrau a drafftiau

19 llythyr a 24 drafft, gan fwyaf o erthyglau, a phapurau amrywiol yn cynnwys cyfraniadau oddi wrth Idris Bell, 1930, Dilys Cadwaladr, 1931, M. G. Dawkins, 1939, T. I. Ellis, 1941, ac R. G. Berry, heb ei ddyddio. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhestr 'Erthyglau' wedi eu dyddio 1931 a rhwng 1936-1941, ond nid yw rhan helaeth o'r eitemau yn y ffeil wedi eu cynnwys yn y rhestr.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

Papurau R. G. Berry

Mae'r grŵp yn cynnwys papurau, nodiadau a sgriptiau T. J. Morgan yn ymwneud ag R. G. Berry, yn enwedig ar gyfer rhaglen nodwedd ar R. G. Berry, 1954, a darlith, 1962. Mae'r grŵp hefyd yn cynnwys chwech o bregethau llawysgrif R. G. Berry, heb eu dyddio, a llythyrau yn ymwneud â'r rhaglen nodwedd, 1954. Ceir gwahanol gopïau a drafftiau o'r sgriptiau a nodiadau yn ymwneud â hwynt ar draws y grŵp.

Berry, R. G. (Robert Griffith), 1869-1945