Dangos 64 canlyniad

Disgrifiad archifol
CMA: Cofysgrifau Capel Dinorwig
Rhagolwg argraffu Gweld:

CMA: Cofysgrifau Capel Dinorwig

  • GB 0210 DINWIG
  • fonds
  • 1865-1866, 1870-1984

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion y Capel, 1865-1866, 1870-1984, a chofnodion yr Ysgol Sul, [1885]-1887, 1910-1960, gan gynnwys cofrestri, cyfrifon, cyfraniadau aelodau a chofnodion pwyllgorau a chymdeithasau yn ymwneud â'r Capel.

Dinorwig (Church : Dinorwic, Wales)

Cofnodion y Capel

Mae'r grŵp yn cynnwys cofnodion a phapurau, 1865-1866, 1870-1984, yn eu plith cofrestri, cyfrifon, manylion am gyfraniadau aelodau ynghyd â chofnodion Pwyllgor y Capel, Cymdeithas y Chwiorydd a Chymdeithas Lenyddol y Capel.

Cofrestr eglwysig

Mae'r gyfrol wedi ei rhannu'n ddwy adran, sef cymunwyr, 1888-1971 (gyda bylchau), a phlant yr eglwys, [1888]-1977 (gyda bylchau). Yn ogystal, ceir rhestr gwrandawyr, 1897-1958 (gyda bylchau), yng nghefn y gyfrol.

Llyfr casgliad y Weinidogaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys cofnodion 'A' a 'B', 1918-1919. Rhestrir enwau a chyfeiriadau cyfranwyr dan 1920 ond ni cheir manylion am eu cyfraniadau yn ystod y flwyddyn honno. Ceir cyfrifon, 1918-1922, ynghyd â llofnod yr archwilwyr, 1923.

Canlyniadau 1 i 20 o 64