Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 3783 canlyniad

Disgrifiad archifol
ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

4 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Gohebiaeth gyffredinol 1989,

Llythyrau, ymhlith pynciau eraill, yn ymwneud â sefydlu cwmni 'Cyfathrebau Pow Wow', dirwy oddi wrth Llys yr ynadon yng Nghaerdydd, llyfr Rhiannon Ifans Chwedlau Arthur; Cwrt y Gŵr Drwg; a llyfr Colin Palfrey The Unofficial Guide to Wales.

Nodiadau ar y stori fer

Mae'r ffeil hon yn cynnwys drafft o erthygl yn dwyn y teitl 'Ysgrifennu Stori Fer' wedi ei hysgrifennu ar gefnau siacedi llwch.

Gohebiaeth gyffredinol 1990-1992,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Dafydd Parri yn trafod Cailo 5 a llythyrau yn trafod Gwobr Goffa Daniel Owen, 1990, Leopold Kohr, Angharad Tomos a Bobby Freeman ac ymateb Robat Gruffudd i Strategaeth Genedlaethol y Celfyddydau, 1991-1992. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys ail-gyhoeddi cyfrol Gwynfor Evans, Land of my Fathers, cyflwyno gwaith ar ddisg yn electronig, cytundeb gyda Cwmni Ffilmiau Elidir i wneud rhaglen deledu o Rala Rwdins a'i marchnata, a phenblwydd y Lolfa yn 25 mlwydd oed, 1992. Ceir copïau o lythyrau oddi wrth Robat Gruffudd yn ymwneud â chael cystadleuaeth i ddewis pwy fydd yn cyhoeddi cyfrol y Fedal Ryddiaith.

Nodiadau ar lenyddiaeth

Mae'r ffeil hon yn cynnwys erthygl ar 'Drefn yr elfennau Brawddegol yn 'Branwen'', nodiadau ar 'G.F. Williams a Ballinger', copi teipysgrif o 'At y Cymru' gan Davis Jones, 1779, ynghyd â llyfryddiaeth. Y mae hefyd nodiadau amrywiol yn ymwneud â llenyddiaeth, darlith ar ryddiaith O.M. Edwards a thrafodaeth ar englynion y misoedd.

Gohebiaeth gyffredinol 1993,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Cynog Dafis ar y Mesur Iaith ac Angharad Tomos ynghylch animeiddio cyfres Rwdlan. Mae pynciau eraill a drafodir yn cynnwys problemau ariannol y Lolfa a'r angen i bobl dalu eu ffioedd yn fuan, colli cytundeb cylchgronau Urdd Gobaith Cymru, y posibilrwydd o ailddechrau calendr Cymru Fydd, a'r nofel Genod Neis.

Nodiadau amrywiol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys ffotogopi a dau gopi llaw o ddogfen Ladin o ganol y ddeuddegfed ganrif a deitlwyd 'Unde ffloreum Illiricum' ac sydd yn sôn am Galfridus; nodiadau ynglŷn â Maredydd ap Rhys; erthygl yn dwyn y teitl 'Religious Dissent in Wales on the eve of the Methodist revival' gan y Parch. Noel Evans; esboniadau beiblaidd; nodiadau yn ymwneud â Peter Williams, 1723-1796, nodiadau ieithyddol; ac erthygl yn dwyn y teitl 'Deng Mlynedd' yn ymwneud â'r Methodistiaid Wesleaidd rhwng 1811 ac 1820.

Gohebiaeth gyffredinol 1994,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys John Rowlands ar ei nofel enllibus, ac Angharad Tomos yn trafod ei nofel, Titrwm. Mae pynicau eraill a drafodir yn cynnwys cyhoeddi cyfrolau buddugol yr Eisteddfod Genedlaethol a diffyg ymateb y BBC i achos llys saith person a niweidiodd sedd barnwr. Ceir hefyd ohebiaeth gyda Cantref ynghylch torri cysylltiadau dŵr a charffosiaeth pan gafodd gwaith adeiladu ei wneud.

Canlyniadau 161 i 180 o 3783