Print preview Close

Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

H. Idris Bell, Llanfairfechan,

Ymateb i feirniadaeth W. J. Gruffydd yngl?n â bwriad y Cymmrodorion i gyhoeddi'r Dwb [Y Bywgraffiadur Cymreig] yn Saesneg. Y prif ystyriaethau yn rhai ariannol dros wneud hyn. Bydd yn fodd i gyflwyno Cymru i'r byd. Mae galw am lyfrau Saesneg ar Gymru. Dadleuon dros gyhoeddi fersiwn Saesneg.

Euros Bowen, Llangywair,

Mae'n credu bod gan 'Efnisien' ddehongliad o'r Creadur. Trafod ffasiwn mewn llenyddiaeth a 'ffasiwn diflanedig' yn arbennig. Mae ymglywed â ffasiwn cerdd 'Efnisien' yn gymorth i'w deall. Mae Euros Bowen yn fodlon iddo gael y Goron fel y dywedodd yn ei lythyr cyntaf at W. J. Gruffydd.

[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,

Cydnabod derbyn rhif 167 uchod. Gobeithia gael gair gyda Mr Young ynglyn ag agwedd y Gymanwlad at addysg yng Nghymru. Mae Dr [Thomas] Richards, Llyfrgellydd [Coleg] Bangor yn gweithio ar hyn eisoes. W. J. Gruffydd yn bwriadu anfon crynodeb o'i dystiolaeth i'r pwyllgor at W. N. Bruce pan ddaw copi i law. Mae W. J. Gruffydd yn anfodlon ar gyfansoddiad y pwyllgor a'r modd yr etholwyd ef. Y mae'n ofid ganddo fod cyn lleied o academyddion ar gyrff Cymreig. Hwy ddylai wybod beth yw anghenion addysg yng Nghymru. Copi teipysgrif.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Diolch am ei lythyr a'r crynodeb; y mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth yntau. Nid oes dim ynddynt sy'n gwrth-ddweud ei gilydd. Prif fwriad W. N. Bruce yw pwysleisio'r angen am lyfrau gosod. Y mae'n deall ofnau W. J. Gruffydd ynghylch cyfansoddiad y Cyngor Ymgynghorol. Nid trwy bleidlais y mae gweld gwir gryfder corff fel hwn. O ddewis yr elfen academaidd yn ofalus gall ei ddylanwad fod gystal â deg gwaith ei nerth pleidleisio.

R. A. Butler, Llundain,

Ymddiheuro am golli araith W. J. Gruffydd y diwrnod cynt. Bu'n rhaid i R. A. Butler adael am ychydig funudau i gynnal trafodaeth gyda'r Wrthblaid. Y mae wedi darllen yr araith yn Hansard, fodd bynnag, ac yn gwerthfawrogi'r hyn a ddywedodd.

The Cardigan & Tivy-side Advertiser, Aberteifi,

Mae'r papur wedi derbyn llythyr oddi wrth gyfreithwyr Selfridge, Llundain, yn dilyn adroddiad araith gan W. J. Gruffydd yn Aberteifi pan ddywedodd fod hysbyseb yn ffenestr y siop honno yn dweud 'no Welsh girls need apply'. Ymddengys bod yr haeriad yn anghywir a bod Y Ddraig Goch eisoes wedi ymddiheuro am ddweud yr un peth. Mae'r papur yn gresynu cael ei dynnu i'r fath helynt annymunol. Bydd yn dda gan y perchennog dderbyn sylwadau W. J. Gruffydd ar yr helynt.

Alfred T. Davies, Llundain,

Mae'n falch iawn o glywed bod W. J. Gruffydd yn ymgymryd â'r gwaith o ysgrifennu cofiant i O. M. [Edwards]. Mae'n cynnig cynorthwyo trwy anfon nodiadau ar y gwrthrych.

D. T. Davies, Pontypridd,

Ysgrifennu yngl?n â helynt y Gymraeg yn ysgolion sir Gaernarfon. Nid oedd W. J. Gruffydd yn cyfeirio o gwbl at yr ymchwil a wnaethpwyd gan y Bwrdd Addysg y flwyddyn flaenorol. Y mae'r Pwyllgor Addysg (yn bennaf Mr William George) yn camddeall a chamddehongli yr hyn a ddywed yr adroddiad. Yr oedd yr ysgolion yn chwannog i ddechrau dysgu plant rhwng 7 ac 11 i ddarllen Saesneg yn llawer rhy gynnar a hynny heb geisio seilio'r darllen ar unrhyw allu i ddeall a llefaru'r iaith. Dylid dechrau gwneud y gwaith llafar gyda'r babanod fel bod y plant yn gyfarwydd â'r iaith erbyn dosbarth un.

E. Tegla Davies, Manceinion,

Esbonio sut y daeth i wybod am gerdd Jane Simpson, 'Star of Peace', sut y bu iddo gysylltu â Thomas Parry ac yna ysgrifennu at W. J. Gruffydd gan fod cerdd 'Islwyn' yn Y Flodeugerdd Gymraeg. Esbonio pwy yw'r Parch. Richard Jones, B.A., a fu'n gyfrifol am adolygu cofiant [O .M. Edwards] yn Yr Eurgrawn.

E. Tegla Davies, Manceinion,

Gwybodaeth yngl?n â Jane Cross Simpson (1811-86), yr emynyddes. Ysgrifennwyd 'Star of Peace' ganddi yn 1830, cyn geni 'Islwyn'. E. Tegla Davies yn holi pa le y daethpwyd o hyd i gân 'Islwyn'.

Evan Davies (cyfreithiwr), Caerdydd,

Mae Evan Davies wedi ateb llythyr y Parch. [Wynne] Griffith ac wedi derbyn ateb oddi wrth ei gyfreithwyr. Mae'n amgau copi o'r llythyr hwnnw [rhif 206 isod] ac yn gofyn am sylwadau W. J. Gruffydd.

Gwynoro Davies, Abermaw,

Llawenhau o ddarllen yn y Western Mail for Owen Edwards i gael cofiant o'r diwedd. Cafodd Gwynoro Davies lawer o lythyrau ganddo ac y mae nifer go dda wedi eu cadw. Bu'n cydletya ag ef yng Ngholeg Aberystwyth. Ef a fu'r cyfrwng i ddwyn Gwynoro Davies yn fugail i Lanuwchllyn. Mae'n cynnig benthyg y llythyrau i W. J. Gruffydd.

Gwynoro Davies, Abermaw,

Mae'n anfon 28 llythyr a deg cerdyn post at W. J. Gruffydd. Ysgrifennai [O. M. Edwards] mewn Saesneg yn y llythyrau cynnar er mwyn gloywi tipyn ar yr iaith. Ni fedrai O. M. Edwards na Gwynoro Davies fwy nag 'yes' neu 'no' nes eu bod yn ddeuddeg oed. Cerdyn post.

Results 161 to 180 of 982