Showing 477 results

Archival description
Papurau'r Academi Gymreig / The Welsh Academy Papers, file
Print preview View:

Cyfres y cyfieithiadau: cyfieithu i Gatalaneg

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a phapurau amrywiol yn ymwneud â chyfieithu blodeugerdd o farddoniaeth Gymraeg i Gatalaneg. Mae'n cynnwys gohebiaeth â'r golygydd, ynghyd â manylion bywgraffyddol am y beirdd oedd i'w cynnwys yn y gyfrol a chyfieithiadau Saesneg o'u cerddi, 1982-1986. Detholwyd y cerddi gan Sian Ithel eu cyfieithu gan J. V. Garcia Raffi a Carme Manuel, a'u cyhoeddi dan y teitl Poesia Gallesa Actual (Valencia, 1992), gyda rhagymadrodd gan R. Gerallt Jones.

Cynadleddau celfyddydol: Gweled

Gohebiaeth a chofnodion, 1983-1987, yn ymwneud â pherthynas yr Academi ac unigolion oedd yn gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ym maes y celfyddydau gweledol cyn ac ar ôl sefydlu Gweled ym 1984 dan gadeiryddiaeth John Meirion Morris, gyda Peter Lord yn is-gadeirydd iddo, Marian Delyth yn ysgrifennydd a John G. Rowlands yn drysorydd.

Lord, Peter, 1948-

Cynadleddau celfyddydol: sefydlu Gweled

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth a pheth deunydd hysbysebu yn ymwneud â gwaith yr Academi a rhai artistiaid Cymraeg eu hiaith yn trefnu cynhadledd i sefydlu cymdeithas i Artisitiaid Gymraeg, ym mis Tachwedd 1984. O'r gynhadledd hon y deilliodd Gweled dan gadeiryddiaeth John Meirion Morris, gyda Peter Lord yn is-gadeirydd iddo, Marian Delyth yn ysgrifennydd a John G. Rowlands yn drysorydd.

Lord, Peter, 1948-

Results 141 to 160 of 477