Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- 1974-1975 (Creation)
Level of description
file
Extent and medium
0.5 cm.
Context area
Name of creator
Biographical history
Mae Edward Morley (Ned) Thomas yn awdur, darlithydd, newyddiadurwr, cyhoeddwr ac ymchwilydd i ieithoedd lleiafrifol. Ganwyd yn Little Lever, Sir Gaerhirfryn, ar 11 Mehefin 1936, i rieni o Gymru, a cafodd ei fagu yn Lloegr, Cymru, yr Almaen a'r Swisdir. Astudiodd llenyddiaeth Saesneg yn Rhydychen ac aeth ymlaen i ddarlithio ar Saesneg ym Mhrifysgol Salamanca, 1960-1964, ac ym Mhrifysgol Moscow, 1966-1967. Yn y 1960au hwyr yn Llundain gweithiodd i'r Times, ac am gyfnod ef oedd golygydd Angliya, cylchgrawn Rwsieg wedi ei ariannu gan lywodraeth Prydain.
Symudodd gyda'i deulu i Lwynypiod, sir Aberteifi, yn 1969, gan sefydlu'r cylchgrawn Planet: The Welsh Internationalist yno gyda'i wraig Sara. Yn yr un cyfnod cafodd swydd darlithydd yn yr Adran Saesneg ym Mrifysgol Cymru Aberystwyth. Roedd yn un o sylfaenwyr Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant yn Aberystwyth yn 1988. Symudodd i Gaerdydd yn 1990 i fod yn Gyfarwyddwr ar Wasg Prifysgol Cymru. Dychwelodd i Aberystwyth i fyw ar ôl ymddeol o'r swydd honno yn 1998.
Ei brif gyhoeddiadau yw Orwell (Caeredin, 1965), The Welsh Extremist (Llundain, 1971), Derek Walcott: Poet of the Islands (Caerdydd, 1980), Waldo (Caernarfon, 1985) a Bydoedd: Cofiant Cyfnod (Talybont, 2010).
Archival history
Immediate source of acquisition or transfer
Content and structure area
Scope and content
Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Ned Thomas a Harri Pritchard Jones, yn ymwneud â threfnu cynhadledd ar y cyd rhwng Cymdeithas Emrys ap Iwan a'r Academi i geisio creu sefydliad cyfieithu yng Nghymru. Gwahaoddwyd cynrychiolwyr amryw o gymdeithasau a sefydliadau eraill, 1974-1975.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Language of material
Script of material
Language and script notes
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Preferred citation: CCC1/1
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
GEAC system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
- Cymdeithas Emrys ap Iwan (Subject)
- Jones, Harri Pritchard (Subject)