Showing 3783 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y frwydr'; pryddestau : 'Wynebau'; cywyddau moliant i Faldwyn; englynion : 'Y ffynnon'; englynion ysgafn : 'Deryn'; sonedau : 'Mae gen i freuddwyd'; telynegion : 'Y bwrdd'; hir a thoddeidiau : 'Dolwar Fach'; cerddi yn y wers rydd : 'Muriau'; cyfres o wyth o limrigau gwreiddiol ar bynciau cyfoes; deg o epigramau ar ffurf cwpled; carolau plygain a darn i gôr adrodd.

Drama a dysgwyr,

Drama hir; dramâu byrion; gwaith dramatig addas i'w gyflwyno gan blant 8-10 oed; cyflwyniad dramatig i ddysgywr; sgriptiau sylfaenol i ffilm chwarter awr ar gyfer plant; drama fer wedi'i throsi o'r Ffrangeg neu'r Sbaeneg; gwaith arbrofol i'w gyflwyno yn Theatr Fach y Maes; dyddiaduron byr o waith cymeriad amlwg yn hanes Cymru a deuddeg erthygl amrywiol ar gyfer dysgwyr.

Rhyddiaith,

Casgliad o dair o straeon byrion; ysgrifau yn portreadu lle neu berson; cyfres o dair stori fer gydag oedran darllen 9-11 oed; straeon byrion (o dan 19 oed); llyfrau profiad a myfyrdod, wedi'u selio ar alwedigaeth; chwech o ysgrifau poblogaidd ar weithgareddau diddan amrywiol; casgliad byr o chwedlau o'r Gwledydd Celtaidd wedi'u haddasu ar gyfer plant 9-12 oed; dwy ysgrif : 'Taid' a 'Nain' a dwy bennod gyntaf ac amlinelliad byr o ddatblygiad nofel â chefndir cyfoes iddi.

Barddoniaeth,

Awdlau : 'Y petheu bychein' neu 'Allorau'; pryddestau : 'Llygaid'; englynion : 'Llaw'; englynion ffraeth : 'S4C'; hir a thoddeidiau : 'Carreg filltir'; sonedau : 'Soar-y-mynydd'; cerddi mewn tafodiaith; cylchoedd o gerddi yn y wers rydd ar thema 'difodiant'; telynegion i gystadleuwyr o dan 25 oed; casgliad o gerddi ysgafn gwreiddiol; trosiadau i farddoniaeth Gymraeg o waith bardd sy'n ysgrifennu yn un o ieithoedd Ewrop a blodeugerdd o gerddi gan awduron cyfoes i ieuenctid 15-19 oed.

Cystadlaethau amrywiol,

Cystadlaethau i ddysgwyr : gwaith ysgrifenedig creadigol : 'Heddwch' neu 'Hamdden'; cylchgrawn ar gyfer dysgwyr gan grŵp o ddysgwyr; cerddi : 'Y ffair/y môr/dysgwyr' a deialogau ar unrhyw thema gan ddechreuwyr. Deunydd ar gyfer dysgwyr : stori fer ar gyfer disgyblion 16+; pedair dramodig ysgafn ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd; cylchgrawn ar gyfer ieuenctid; cywaith i ddim mwy na thri pherson (rheoli diadell o ddefaid ar fferm deuluol yng Nghymru); erthygl addas ar gyfer Y Gwyddonydd ar unrhyw destun a dwy erthygl addas ar gyfer Cennad.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Alawon cerdd dant; anthem S.A.T.B. addas ar gyfer Côr Pensiynwyr; rhangan ddigyfeiliant i eiriau gan fardd cyfoes; cylch o bedair cân i unrhyw lais gyda chyfeiliant piano neu gitâr; pedwar symudiad cyferbyniol ar gyfer recorders a llinynnau; emyn-donau a chyfansoddi alaw â geiriau cyfoes yn y dull gwerin.

Results 141 to 160 of 3783