Showing 3783 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Papurau teuluol

Llyfr nodiadau, 1909, yn cynnwys telynegion 'Tymhorau bywyd' yn llaw Wil Ifan [fe'u hargraffwyd yn Dros y nyth: caniadau William Evans, Penybont ar Ogwr (Y Fenni, 1913)]. Ceir englynion eu tad y Parch D[an] E[vans] ar ben-blwydd eu mam, [1918]-[1924] ac adroddiad o'r wasg ar achlysur dathlu eu priodas aur yn 1923; cerdd 'Clymu' gan J. T. Job ar achlysur priodas Siân a D. J. Williams yn 1925; ynghyd â chofnod o'r marciau a gafodd mewn cwrs coginio gan Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1902; a manylion a gopïwyd ganddi o Feibl ei thad am y teulu, 1798-1903.

Wil Ifan, 1883-1968

'Dyn mawr, dyn bach, dewin a doctor' - teipysgrif

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif 'Dyn mawr, dyn bach, dewin a doctor', ynghyd â rhai nodiadau cefndir a pheth gohebiaeth berthynol, 1991. Hon oedd un o'r dramâu a gynhyrchwyd o ganlyniad i'r flwyddyn a dreuliodd Angharad Tomos yn Awdur Preswyl gyda thri chwmni Theatr Mewn Addysg yn ystod 1991, y tro hwn ar gyfer Arad Goch - Cwmni Theatr Dyfed.

Llyfrau nodiadau

Llyfr nodiadau, 1903, yn cynnwys adysgrifau o gerddi Cymraeg a Saesneg poblogaidd. Llyfr nodiadau, 1905-[1951], yn cynnwys eitemau rhydd gan mwyaf gan gynnwys adroddiad am dysteb i'w thad y Parch. Dan Evans, Hawen, 1928, a theyrngedau iddo ar ei farwolaeth yn [1934]; 'Penillion i Miss Evans, ysgolfeistres ar achlysur ei phriodas', [1925] a 'Llinellau priodasol' iddynt gan 'Briallydd'; torion o gerddi gan Wil Ifan; ac adysgrifau o gerddi.

'Cyffes' - teipysgrif

Mae'r ffeil yn cynnwys amlen ac ynddi sgript deipysgrif a rhai nodiadau llawysgrif ar gyfer darn byr o ddeialog ar gyfer dwy ferch, yn dwyn y teitl 'Cyffes', a gomisiynwyd ym 1993 ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau, 1994.

Tystysgrifau

Copi, 1907, o dystysgrif geni Siân Williams, 4 Awst 1884, Llanwinio, Sir Gaerfyrddin; tystysgrif Band of Hope, 1892; tystysgrif ysgoloriaeth, 1896, i Ysgol Sir Port Talbot a thystysgrifau addysgol eraill, 1899-1900.

'Y Pris'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau o'i nofel anghyhoeddedig, 'Y Pris', [?1982]-[1984].

Gohebiaeth ariannol ac apêl Y Faner.

Mae'r ffeil hon yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud yn bennaf ag apêl Y Faner ynghyd ag ymrwymiadau ar ffurflenni parod, a dorrwyd allan o'r cylchgrawn, yn addo cyfrannu tuag at yr apêl, 1988-1992.

Llyfrau cyfrifon

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llyfrau cyfrifon yn ymwneud â Gwasg y Sir, Ymddiriedolaeth Y Faner, Gweithgor Y Faner, llyfrau, rhoddion, lluniau a nwyddau, 1988-1992.

Results 141 to 160 of 3783