Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

R. G. Berry, Gwaelod-y-garth,

Diolch am eirda. Cyfaddef fod ganddo barchedig ofn o farn W. J. Gruffydd 'yn ymylu ar y numinous mewn llenyddiaeth'. Mae'n ceisio llunio dwy sgwrs ar gyfer y BBC ar y ddrama.

R. G. Berry, Gwaelod-y-garth,

Gofyn i W. J. Gruffydd ysgrifennu golygfa ar gyfnod Morgan Llwyd ar gyfer pasiant sydd i'w drefnu erbyn cyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr yng Nghaerdydd, 1939. [Ni chynhaliwyd y pasiant wedi'r cwbl, gweler Adroddiad ... yr Undeb yng Nghaerdydd (1939), t. 19]. Mae Mr [Iorwerth C.] Peate yn bwriadu ysgrifennu dwy olygfa a chlymu'r oll ynghyd.

R. G. Berry, Gwaelod-y-garth,

Wrth ddiolch yn y cyfarfod diolchgarwch bu R. G. Berry yn diolch yn ddistaw bach fod W. J. Gruffydd yn fyw ac iach. Y mae'n dyfynnu barddoniaeth W. J. Gruffydd yn aml gan mai ef 'yw'r mwyaf o ddigon o'r holl frîd'.

Euros Bowen, Llangywair,

Mae'n credu bod gan 'Efnisien' ddehongliad o'r Creadur. Trafod ffasiwn mewn llenyddiaeth a 'ffasiwn diflanedig' yn arbennig. Mae ymglywed â ffasiwn cerdd 'Efnisien' yn gymorth i'w deall. Mae Euros Bowen yn fodlon iddo gael y Goron fel y dywedodd yn ei lythyr cyntaf at W. J. Gruffydd.

Euros Bowen, Llangywair,

Sylwa nad yw W. J. Gruffydd yn barod i roi'r Goron i un o'r cystadleuwyr. Dyna farn Euros Bowen hefyd, er ei fod yn fodlon gweld coroni 'Efnisien'. Y Parch David Jones yn awyddus i goroni, y ddau orau ganddo yw 'Perthi Llwydion' a 'Berddig'. Nid yw 'Perthi Llwydion' yn deall Vers Libre. Euros Bowen yn tybio mai stori fer sydd gan 'Arnallt'. Mae darnau o bryddest 'Efnisien' na all fod wrth fodd pawb, ond y maent yn cymryd eu lle yn briodol yn y gerdd. Mae effaith foesol derfynol y bryddest yn iach ac mae mwy o fedr barddonol ynddi nag sydd gan neb arall yn y gystadleuaeth.

Euros Bowen, Llangywair,

Nid yw Euros Bowen yn gosod pryddest 'Efnisien' gyda'r lleill. Fel y dywedodd, y mae'n fodlon iddo gael y Goron a phan aiff ati i lunio beirniadaeth y mae'n bwriadu dweud hynny.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Bydd yr ôl-nodiad i'r llythyr amgaeëdig [sydd ar goll] o ddiddordeb i W. J. Gruffydd. Y mae W. N. Bruce yn mynd i roi tystiolaeth gerbron Pwyllgor Ymgynghorol y Bwrdd Addysg. Y mae'n falch o glywed bod W. J. Gruffydd wedi cael ei alw hefyd. W. N. Bruce yn bwriadu codi mater cyhoeddi llyfrau gosod ar gyfer pob lefel addysgol, nid rhai yn Gymraeg yn unig, er mai rheiny ddylai gael y sylw yn gyntaf.

[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,

Cydnabod derbyn rhif 167 uchod. Gobeithia gael gair gyda Mr Young ynglyn ag agwedd y Gymanwlad at addysg yng Nghymru. Mae Dr [Thomas] Richards, Llyfrgellydd [Coleg] Bangor yn gweithio ar hyn eisoes. W. J. Gruffydd yn bwriadu anfon crynodeb o'i dystiolaeth i'r pwyllgor at W. N. Bruce pan ddaw copi i law. Mae W. J. Gruffydd yn anfodlon ar gyfansoddiad y pwyllgor a'r modd yr etholwyd ef. Y mae'n ofid ganddo fod cyn lleied o academyddion ar gyrff Cymreig. Hwy ddylai wybod beth yw anghenion addysg yng Nghymru. Copi teipysgrif.

[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,

Mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth. Nid yw wedi derbyn copi o dystiolaeth W. N. Bruce eto. Gobeithia nad yw yn gwrthddweud W. N. Bruce yn ei dystiolaeth. Copi teipysgrif.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Diolch am ei lythyr a'r crynodeb; y mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth yntau. Nid oes dim ynddynt sy'n gwrth-ddweud ei gilydd. Prif fwriad W. N. Bruce yw pwysleisio'r angen am lyfrau gosod. Y mae'n deall ofnau W. J. Gruffydd ynghylch cyfansoddiad y Cyngor Ymgynghorol. Nid trwy bleidlais y mae gweld gwir gryfder corff fel hwn. O ddewis yr elfen academaidd yn ofalus gall ei ddylanwad fod gystal â deg gwaith ei nerth pleidleisio.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Mae cyfiawnhad dros i W. J. Gruffydd ymgeisio am swydd Prifathro Coleg [Caerdydd]. Pe na bai W. N. Bruce ar y pwyllgor [dewis] byddai yn falch iawn o ysgrifennu tystlythyr iddo. Gan ei fod ar y pwyllgor y mae'n gorfod bodloni ar addo rhoi ystyriaeth deg i'r cais. Byddai wedi synnu ac yn siomedig pe na roddid enw W. J. Gruffydd ymlaen ar gyfer y swydd. Nid yw yn gwybod eto pa enwau eraill y byddant yn eu hystyried.

W. N. Bruce, Albury Heath,

Y mae wedi darllen erthygl W. J. Gruffydd yn y Western Mail ['The Case Against a National Council of Education for Wales', t. 11]. Dywed ei bod yn ddiddorol a dewr, er nad yw ef yn cytuno â'i safbwynt. Trafodir y syniad na ellir gweithredu cynllun W. N. Bruce heb greu swydd Ysgrifennydd Gwladol i Gymru. Yr ail bwynt i'w drafod yw sefydlu perthynas bendant rhwng arholiad ac archwiliad. Adroddir hanes argyfwng y Bwrdd Addysg wrth geisio dosbarthu arian i ysgolion uwchradd yng Nghymru flynyddoedd ynghynt. Yr oedd Owen Edwards ac Alfred Davies i gael defnyddio'r arian fel y mynnent. Mae W. N. Bruce yn gweld eisiau ei gysylltiad a'r Brifysgol yn fawr iawn ond bu'n rhaid iddo dorri'r cysylltiad oherwydd afiechyd.

G. E. K. Braunholtz, Rhydychen,

Y mae'n amgau erthygl [sydd yn eisiau] ar ran y Philological Society gan ofyn i W. J. Gruffydd fwrw golwg drosti a rhoi ei farn arni i weld a yw'n addas ar gyfer trafodion y gymdeithas. Gwahoddiad i alw pan fydd W. J. Gruffydd yn Rhydychen.

R. A. Butler, Llundain,

Diolch am lythyr W. J. Gruffydd yngl?n â rhyddid yr ysgolion gramadeg. Bydd R. A. Butler yn delio â'r pwynt hwn yn ei araith ar yr Ail Ddarlleniad. Mae'n diolch i W. J. Gruffydd am osod allan ei awgrymiadau ar gyfer y Ddeddf Addysg.

Results 121 to 140 of 982