Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

Beirniadaeth W. J. Gruffydd yng nghystadleuaeth y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi, 1942. Ceir nodyn yng nghyfrol Cyfansoddiadau ... yr ...,

Beirniadaeth W. J. Gruffydd yng nghystadleuaeth y Goron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberteifi, 1942. Ceir nodyn yng nghyfrol Cyfansoddiadau ... yr eisteddfod honno fel a ganlyn: 'Oherwydd gwaeledd ni allodd yr Athro W. J. Gruffydd baratoi ei feirniadaeth ar gyfer y gyfrol hon. Ond deallwn ei fod yn anghytuno â'i gydfeirniaid, a dywaid mewn llythyr ei fod yn ddi-sigl o'r farn (a) nad Aneirin yw'r gorau, (b) nad oes neb yn haeddu'r goron.' Barn yr Athro Gruffydd felly ydyw na ddylid coroni. Yn ôl rheol 14 yn y 'Rheolau ac Amodau' yn y Rhestr Testunau, 'barn y mwyafrif o'r beirniaid ar unrhyw gystadleuaeth a saif, a gwobrwyir yn unol â hynny.' [Y buddugol oedd Herman Jones, Deiniolen].

Memorandum ar gyfer Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ynglyn â defnyddio'r Gymraeg ar gyfer y Dictionary of Welsh Biography arfaethedig, yn ...,

Memorandum ar gyfer Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ynglyn â defnyddio'r Gymraeg ar gyfer y Dictionary of Welsh Biography arfaethedig, yn hytrach na'r Saesneg; ysgrif i'r cyfnodolyn Y Tir Newydd (1938) ar gyflwr politicaidd a chymdeithasol y cyfnod; ynghyd â manion eraill.

Cyfieithiadau teipysgrif o ddwy stori fer Gymraeg i'r Saesneg, sef: 'The Poet's Dream' a 'Dripping Leaves'. Cynhwysir hefyd fersiwn llawysgrif ...,

Cyfieithiadau teipysgrif o ddwy stori fer Gymraeg i'r Saesneg, sef: 'The Poet's Dream' a 'Dripping Leaves'. Cynhwysir hefyd fersiwn llawysgrif o'r stori 'The Poet's Dream' ynghyd â llythyr oddi wrth y cyfieithydd, Ll. Wynn Griffith, Berkhamsted, dyddiedig 28 Ionawr 1940. Yn ogystal ceir erthygl ar 'Daniel Silvan Evans' gan J. Seymour Rees, Seven Sisters, ar gyfer Y Llenor, ynghyd â llythyr dyddiedig 25 Mehefin 1952.

Nodiadau darlithiau: 'The Lyric in the Modern world', 'Hardy', 'Cenedlaetholdeb'; anerchiad ar gyfer Urdd y Graddedigion a oedd yn cyfarfod ...,

Nodiadau darlithiau: 'The Lyric in the Modern world', 'Hardy', 'Cenedlaetholdeb'; anerchiad ar gyfer Urdd y Graddedigion a oedd yn cyfarfod yn Llundain; adolygiad gan W. J. Gruffydd yn The Spectator, 3 Hydref 1947 ar lyfr A. J. Sylvester, The Real Lloyd George; a nodiadau darlith ar R[obert] W[illiams] P[arry].

Barddoniaeth amrywiol: 'The Odyssey of Man' gan Granville F. Bilbrough, Birmingham, ynghyd â llythyr, 7 Awst [19]52; cyfieithiadau o farddoniaeth ...,

Barddoniaeth amrywiol: 'The Odyssey of Man' gan Granville F. Bilbrough, Birmingham, ynghyd â llythyr, 7 Awst [19]52; cyfieithiadau o farddoniaeth a llythyr 28 Tachwedd [19]31 gan J. Ceinionydd Roberts, Manceinion; Englynion Coffa - 'Fy Nhad' o waith G. Prys Jones, Caergybi; 'Y Gwys Unig' gan W. R. Jones, Wrecsam; 'Yno' gan W. Francis Hughes, Beddgelert; 'Y Cwm Unig' gan J. M. Edwards; 'Y Wyddfa' gan Alun Lewis, Waenfawr; 'Y Tir Pell' gan J. M. Edwards; 'Anobaith' gan T. G. Jones, Rhydaman; 'Chwilota' gan E. P. Jones, Tumble; 'Hiraeth' gan W. Hughes, Cpc Aberystwyth; 'Cwm Silyn' gan Mathonwy Hughes; 'Rhinwedd' cyfieithiad gan T. I. Phillips, Aberystwyth; ac ysgrif 'Y Bws Bore' gan W. R. Owen, Caerdydd, Chwefror 1931.

Deunydd amrywiol: tystysgrif yn rhyddhau W. J. Gruffydd o'r Llynges, 1 Ionawr 1919; derbynebau, Mai 1929, gan Goleg yr Iesu ...,

Deunydd amrywiol: tystysgrif yn rhyddhau W. J. Gruffydd o'r Llynges, 1 Ionawr 1919; derbynebau, Mai 1929, gan Goleg yr Iesu a Phrifysgol Rhydychen; bwydlen cinio Clwb Rhyddfrydwyr Prifysgol Rhydychen, 31 Ionawr 1944, lle bu W. J. Gruffydd yn wr gwadd; torion papur newydd; tystebau gan yr Athrawon W. Lewis Jones, T. Hudson Williams a John Morris-Jones, Coleg y Gogledd, Bangor, ac E. Madoc Jones, prifathro Ysgol Ramadeg, Biwmares, 1904, yn cefnogi W. J. Gruffydd ar gyfer swydd prifathro Ysgol Sir y Drenewydd; erthygl ar Thomas Dekker; ysgrif deipysgrif '?The Late Sir Henry Jones and the University College of Wales, Aberystwyth' wedi ei chodi o'r Dragon, cyf. XLV (1922-3), tt. 178-80; a rhestr o feirdd ardal Dinorwig a Brynrefail yn rhestru eu nodweddion fel beirdd; nodiadau dosbarth gan G. W. Hughes, Blaenau Ffestiniog, o ddosbarth WEA 1937, &c.

Drafftiau o gerddi o waith W. J. Gruffydd ac eraill: 'Jonah Puw'; 'Emyn i Amynedd'; 'Yr ieuainc wrth yr hen' ...,

Drafftiau o gerddi o waith W. J. Gruffydd ac eraill: 'Jonah Puw'; 'Emyn i Amynedd'; 'Yr ieuainc wrth yr hen'; 'The Yew-Tree at Llanddeiniolen' (cyf. H. I. Bell); 'Gwerfyl Fechain' (cyf. A. P. Graves); 'A hearty old Vicar of Mount ...', 1942; 'O Fab y Dyn, Eneiniog Duw ...'; 'Cyffes Gweinidog Bethesda' a 'Y Murddyn' wedi eu copio'n gain, Mehefin 1941; 'Rhagluniaeth fawr y nef ...'; ysgrif ar 'Glan Padarn' (Thomas David Thomas); 'I'r Eos yn canu mewn mynwent'; 'Yr Hydref'; a 'Gwyll y Duwiau', &c.

Results 121 to 140 of 982