Dangos 188 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth, nodiadau, a drafftiau

Gohebiaeth, 1988, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig Martin Cleary ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Martin Cleary ac R. Geraint Gruffydd. Mae’r llythyrau yn cynnwys torion a nodiadau; drafft, wedi’i theitlo ‘Working List of Welsh Secular Priests, 1574-’; drafft, wedi’i theitlo ‘Welsh Jesuits and Jesuits in Wales 1561-1829’; a drafft wedi’i theitlo ‘A Welsh Recusant Directory’.

Gohebiaeth, nodiadau, a drafftiau

Gohebiaeth, 1989, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Martin Cleary ac R. Geraint Gruffydd. Mae’r llythyrau yn cynnwys drafftiau o’r cyflwyniadau; nodiadau a drafftiau o benodau; map braslun o ardal Gwent; a chopïau o fap Arolwg Ordnans o ardal Trefynwy.

Grantiau a chymrodoriaethau ymchwil eraill

Papurau, 1983-1984, yn ymwneud â cheisiadau grantiau a chymrodoriaethau ymchwil amrywiol, yn gynnwys copïau o ffurflenni cais a chanllawiau ar gyfer ceisiadau grantiau Yr Academi Prydeinig, y 'Social Science Research Council', y ‘Twenty-Seven Foundation’; a chymrodoriaethau Prifysgol Cymru, y ‘Lister Institute of Approved Medicine’, a Prifysgol Casnewydd; a llythyrau yn trafod y ceisiadau grantiau oddi wrth G. J. Roderick; G.S. Dawes; ac Emrys Wynn Jones. Yn ogystal, ceir copi o gylchlythyr Coleg Prifysgol Cymru, ‘News and Views’ (1983); a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983).

Gwobrau Syr David Hughes Parry

Papurau, 1973, yn ymwneud â cheisiadau am wobrau ariannol Syr David Hughes Parry, Coleg Prifysgol Cymru, ar gyfer prosiectau ymchwil yn ymwneud â Chymru, yn cynnwys copi o reolau’r Ysgoloriaeth, a llythyrau cysylltiedig yn trafod yr ysgoloriaeth oddi wrth John Fitzgerald; D.O. Thomas; Juliette Thomas; R.J. Whittington; ac R. J. Colyer.

'Llysiau a Meddygaeth’

Papurau a gohebiaeth, 1993, yn ymwneud â phymthegfed Fforwm y Ganolfan, ‘Llysiau a Meddygaeth’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Dafydd Dafis; E. Evans; Jane Cartwright; Carole Hough; Christine Fell; Pierre-Yves Lambert; R. D. Berryman; Morfydd E. Owen; a Mary Davies.

Llythyrau a nodiadau

Llythyrau oddi wrth Martin Cleary, 1991, yn trafod ymchwilio ac ysgrifennu’r gwaith arfaethedig ‘Welsh Recusants and Catholics 1559-1791: A Directory’, yn cynnwys nodiadau ar strwythur y gwaith; rhaglen cynhadledd ‘Catholic Family History in Wales’ (Hydref 1991); a rhaglen cynhadledd y ‘Catholic Record Society’ (Gorffennaf 1991).

Llythyrau at ac oddi wrth y Cofrestrydd

Gohebiaeth, 1985-1990, y rhan fwyaf yn cynnwys llythyrau at ac oddi wrth y Cofrestrydd, Prifysgol Cymru, yn trafod anrhydeddau staff, cyflog, materion staffio, a gweithgareddau’r Ganolfan, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; M.A.R. Kemp; Emrys Wynn Jones; Delyth Prys; Sheila Seekings-Foster; yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos; Bedwyr Lewis Jones; Ronnell B. Townsend; I. Moelwyn Hughes; Peter Swinnerton-Dyer; ac N.T. Hardyman. Yn ogystal, ceir papurau cysylltiedig, yn cynnwys copi o’r adroddiad ‘Planning for the Late 1980s: University of Wales Registry’ (1985); a memoranda (1985-1990).

Canlyniadau 121 i 140 o 188