Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 5982 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil / File
Rhagolwg argraffu Gweld:

Campau Cymru 82

Copi o Campau Cymru 82, llythyrau wedi eu hanfon gan aelodau'r Urdd i ddangos eu campau. Hysbysebu aelodau i gymryd rhan.

Taith Mistar Urdd

Cyflwyno Mistar Urdd yn fyw: Poster digwyddiad 'Helo Mistar Urdd' Ionawr 24 1979; trefn y prynhawn o safbwynt rhaglen, sgript a pherfformiad a rhestr o wahoddedigion. Taith Mistar Urdd 1979: poster, trefniadau staffio, trefn a dyddiadau'r daith. Shew Hewl: trefn a dyddiadau'r daith, a chyfrifoldebau staffio.

Gŵyl Werin yr Urdd

Gohebiaeth Gŵyl Werin Aberystwyth. Gohebiaeth Gŵyl Werin Merthyr Tudfil gan gynnwys Rhaglen yr Ŵyl. Rhaglen gwasanaeth Gŵyl Werin Gwent.

Taith Canada 1955

Argraffiadau Taith Canada - drafftiau cyntaf ac yna'r drafft terfynol: Adroddiad ar yr Ymweliad â Chanada, Awst 18 - Tachwedd 18, 1955. (gwaith dwyieithog).

Y Fordaith Gymraeg 1933

Dyddiadur wedi ei dderbyn yn rhodd i'r Urdd gan nith Miss Myfi Edwards, am ei chyfnod ar Fordaith yr Urdd ar yr Orduna i Norwy. Hanes y daith a lluniau.

CND Cymru

Aberystwyth Peace Network Letter. Posteri a thaflenni'r Ymgyrch Wybodaeth gan y CND. 'Yr Urdd a'r Ymgyrch Diarfogi Niwclear'. 'Yr Urdd a'r Bom'. Goheibiaeth rhwng yr Urdd a CND Cymru..

Teledu ac S4C

Ymdrechion yr Urdd i gyfrannu i'r frwydr o gael sianel deledu Gymraeg ar y teledu, gan gynnwys datganiad i'r wasg, toriadau allan o bapurau newydd, copi o'r ddeiseb a luniwyd gan yr Urdd: 'Sianel Deledu i Gymru'. Llythyrau i'r BBC yn gofyn iddynt ddarlledu mwy o faes yr Eisteddfod. Llythyr gan Ffred Ffransis o'r carchar yn trafod yr ymgyrch. 'Second Report from the Committee on Welsh Affairs: Broadcasting in the Welsh Language and the Implications for Welsh and Non-Welsh Speaking Viewers and Listeners. (cyhoeddwyd 24/07/81)

Canlyniadau 121 i 140 o 5982