Dangos 256 canlyniad

Disgrifiad archifol
Disgrifiadau lefel uchaf yn unig fonds Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

CMA: Cofysgrifau Eglwys Ffynhonnau, Llanefydd

  • GB 0210 FFYNHON
  • fonds
  • 1854-1996

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud â gweinyddu'r capel, yr Ysgol Sul ac a gweithgareddau diwylliannol. Mae yn cynnwys llyfrau'r eglwys, 1951-1969, llyfrau casgliad y Weinidogaeth, 1905-1975, llyfrau'r Eisteddleoedd, 1908-1996, llyfrau cyfrifon,1861-1984, llyfrau casgliad chwarterol,1940-57,llyfr banc, 1928-1953, llyfr llythyrau aelodaeth,1945-1985 a chofrestr aelodau cymdeithas ddirwestol y capel, 1905-1956. Ceir hefyd lyfrau cofnodion a chyfrifon yr Ysgol Sul, 1854-1985, a llyfr cofnodion pwyllgor yr Eisteddfod, 1964-1967.

Capel Ffynhonnau (Llannefydd, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Libanus, Y Borth

  • GB 0210 LIBORT
  • fonds
  • 1895-1958

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion a chyfrifon yr eglwys, 1895-1958, llyfr ysgrifennydd yr Ysgol Sul, 1933-1941, a chofnodion y Gymdeithas Ddrama, 1948-1953.

Eglwys Libanus (Borth, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Maentwrog Isaf

  • GB 0210 MAENIS
  • fonds
  • 1872-1976

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion y Capel, 1872-1976, a chofnodion yr Ysgol Sul, 1925-1964, gan gynnwys gwybodaeth am gyfraniadau ariannol, enwau aelodau a phregethwyr.

Capel Maentwrog Isaf (Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Moreia, Morfa Nefyn

  • GB 0210 MORNEF
  • fonds
  • 1859-1994

Mae'r fonds yn cynnwys cofysgrifau Eglwys Moreia, Morfa Nefyn, 1859-1994, megis cofrestr bedyddiadau, 1859-1882, llyfr cofnodion a chyfrifon y Capel Coed a'r Capel Newydd, 1881-1909, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1898-1985, llyfrau'r eisteddleoedd, 1903-1977, a llyfrau cofnodion cyfarfodydd y swyddogion, 1931-1994; ynghyd â llyfrau cyfrifon a llafur yr Ysgol Sul, 1887-1989.

Eglwys Moriah (Morfa Nefyn, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Moriah, Miscyn,

  • GB 0210 MORMIS
  • fonds
  • 1901-1949 /

Cofysgrifau Eglwys Moriah, Miscyn, Morgannwg, yn cynnwys llyfrau cyfrifon amrywiol, 1904-1949, llyfrau casgliad y weinidogaeth, 1919-1947, cofnodion cyfarfodydd eglwysig, 1901-1929, a chofrestr bedyddiadau, 1906-1947.

Moriah (Church : Miskin, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Moriah, Ynyshir,

  • GB 0210 MORYN
  • fonds
  • 1902-1966 /

Cofysgrifau Eglwys Moriah, Ynyshir, yn cynnwys llyfrau cyfrifon yr Eglwys, 1902-1932, llyfrau cofnodion y blaenoriaid, 1936-1966, ystadegau blynyddol, 1931-1950, a llyfr llythyron, 1943-1959.

Moriah C.M. Chapel, Ynyshir.

CMA: Cofysgrifau Eglwys Nasareth, Morfa Bychan, Porthmadog

  • GB 0210 MORBYCH
  • fonds
  • 1880-1997

Mae'r casgliad yn cynnwys cofysgrifau yn ymwneud ag Eglwys Nasareth, Morfa Bychan, gan gynnwys llyfrau'r Trysorydd, 1942-1997; llyfrau'r Eisteddleoedd, 1880-1972; hanes y Capel; llyfr casgliad chwarterol y Gronfa Ganolog, 1931-1957; a llyfr casgliad y Weinidogaeth, 1906. Ceir hefyd cofysgrifau'r Ysgol Sul yn cynnwys llyfrau cyfrifon unffurf, 1902-1977; llyfrau cyfrifon, 1908-1970; llyfr cofnodion, 1932-1960; a llythyrau aelodaeth, 1900-1906.

Eglwys Nasareth (Morfa Bychan, Wales)

CMA: Cofysgrifau Eglwys Nazareth, Aberdâr,

  • GB 0210 NAZDAR
  • fonds
  • 1861-1960 /

Cofysgrifau Eglwys Nazareth, Aberdâr, yn cynnwys cofnodion ariannol yr Eglwys, 1900-1952, cyfrifon yr Ysgol Sul, 1891-1918, cofrestr bedyddiadau, 1861-1862, a rhaglen gwasanaeth dathlu canmlwyddiant yr Eglwys, 1960.

Nazareth (Church : Aberdare, Wales)

Canlyniadau 61 i 70 o 256