Showing 159 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn Ffeil / File English
Advanced search options
Print preview View:

Cerddi cynnar

Cerddi gan Menna Elfyn a gyfansoddwyd cyn ymddangosiad ei chyfrol gyntaf gyhoeddiedig Mwyara ym 1976, rhai o'r cerddi heb eu cwblhau nac (yn ddiweddarach) eu cyhoeddi. Mae'r deunydd yn cynnwys cerddi a ddyddiwyd Medi a Hydref 1967; cerdd fuddugol a gynigiwyd gan Menna Elfyn i Eisteddfod Pantyfedwen 1968(?); cerdd yn dwyn y teitl Y Daith, sy'n disgrifio digwyddiad ym mis Mawrth 1969 ac a arnodir gan Menna Elfyn 'Fy ngherdd gyntaf ... darn ar goll' (er noder cerdd Eisteddfod Pantyfedwen, lle cynigir ganddi'r dyddiad cynharach 1968); cerddi a gyfranwyd gan Menna Elfyn i golofn Bord y Beirdd ym mhapur newydd Y Cymro, 1970; dau gopi o gerdd gan Menna Elfyn yn dwyn y teitl Sylwadau ar fywyd colegol (dim dyddiad, ond cymerir eu bod yn tarddu oddi ar gyfnod Menna Elfyn yn y Brifysgol); a beirniadaethau gan D. Jacob Davies, W. J. Gruffydd a W. R. Evans ar gerddi buddugol gan Menna Elfyn a gynigiwyd (dan ffugenw) ar gyfer yr Eisteddfod Ryngolegol yn Aberystwyth, 1973.

Cynhwysir yn yr adran hon ond y cerddi hynny sydd â dyddiad wedi'i nodi arnynt. Cynhwysir y cerddi hynny a all ddyddio o'r cyfnod cynnar ond sydd heb ddyddiad amlwg dan Barddoniaeth amrywiol.

Mwyara

Copi drafft cyntaf o Mwyara, sef y detholiad cyntaf o gerddi gan Menna Elfyn i'w chyhoeddi, hynny gan Wasg Gomer ym 1976. Ceir nodyn yn llaw Menna Elfyn ar glawr y gyfrol: 'Fy nghopi cynta' cyn cyhoeddi'. Nodir gan Menna Elfyn mai Eiris Davies deipiodd y cynnwys ac (mewn nodyn diweddarach)) ei bod wedi hepgor rhai o'r cerddi ac ychwanegu eraill cyn ei anfon yn derfynol i'r wasg.

Bondo

Dwy ddrafft o Bondo, cyfrol farddoniaeth ddwyieithog gan Menna Elfyn, a gyhoeddwyd gan Bloodaxe Books yn 2017. Arnodir 'Copy llawn' ar un drafft yn llaw Menna Elfyn, a'r dyddiad '14.07.2017'.

Gweler hefyd 'Bondo Barddoniaeth' dan Anerchiadau.

Pennod cyfrol: Serenity amidst the chaos

Copi teipysgrif o bennod yn dwyn y teitl 'Serenity amidst the chaos', sef cyfraniad Menna Elfyn i'r gyfrol [?]Welsh Writers, a gyhoeddwyd gan [?]yr Institute of Welsh Affairs yn [?]2012.

Optimist Absoliwt

Copi proflen o Optimist Absoliwt: Cofiant Eluned Phillips, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn 2016, yn dwyn rhai cywiriadau yn llaw Menna Elfyn; ynghyd â dwy ysgrif gan Menna Elfyn yn trafod bywyd a gwaith y bardd Eluned Phillips a'i pherthynas â'r bardd, llenor a'r gweinidog Annibynnol Dewi Emrys, a gohebiaeth ebost at Menna Elfyn oddi wrth Elinor Wyn Reynolds, Golygydd Llyfrau Cymraeg i Oedolion, Gwasg Gomer.

Cennad

Copi proflen, gyda chywiriadau yn llaw Menna Elfyn, o'i llên-gofiant, a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas yn 2018. Dyma'r drydedd gyfrol i'w chyhoeddi yng nghyfres boblogaidd Cennad, 'sy'n rhoi llwyfan i'n prif lenorion drafod eu bywyd a'r dylanwadau ar eu gwaith' (https://cantamil.com/products/cennad-menna-elfyn). Ynghyd â nodiadau teipysgrif, wedi'u harnodi yn llaw Menna Elfyn.

Gŵyliau, darlleniadau, cynhadleddau, seminarau a theithiau

Deunydd yn ymwneud â'r mynych ŵyliau (gan gynnwys Gŵyl y Gelli, Gŵyl Gregynog a Gŵyl Tŷ Newydd), cynhadleddau, seminarau a theithiau barddonol y bu Menna Elfyn yn rhan ohonynt yng Nghymru, Prydain a thramor, gan gynnwys copïau o'r cerddi a ddatganwyd, llyfrynnau a phosteri, sgriptiau, amserlenni teithio/perfformio, gohebiaeth (gan gynnwys ymatebion i ddarlleniadau barddonol), torion papur newydd a nodiadau. Un o'r elfennau mwyaf diddorol o fewn y deunydd yw cyfres o frasluniau a dynnwyd o Menna Elfyn ac eraill oedd yn cymryd rhan yng Ngŵyl y Gelli 1997 gan Heather Spears. Ceir hefyd fanylion am ddarlleniad barddonol gan Menna Elfyn ar y cyd â pherfformiad cerddorol gan ei merch Fflur Dafydd.

Awdur preswyl

Deunydd yn ymwneud â chyfnodau Menna Elfyn fel awdur preswyl yn Nyffryn Clwyd, Ysgol Dinas Mawddwy a Phrifysgol Cymru Aberystwyth (ynghyd ag Elin ap Hywel), gan gynnwys nodiadau ac amlinelliadau o gyrsiau/dosbarthiadau, rhaghysbysebion a gwybodaeth am gyfnodau preswyl, datganiadau i'r wasg, torion papur newydd ac enghreifftiau o waith plant ysgol a gymerodd ran mewn gweithdai ysgrifennu.

Caneuon

Geiriau 'Cân yr Alltud/The Exile's Song', rhan gyntaf y gwaith corawl/cerddorfaol 'In These Stones, Horizons Sing', a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr a'r offerynnwr Karl Jenkins, y geiriau Cymraeg/Saesneg gan Menna Elfyn, y bardd, awdur, golygydd, libretydd, adolygydd llenyddol a'r cyn-ohebydd Grahame Davies a'r bardd Gwyneth Lewis. Comisiynwyd y gwaith ar gyfer agoriad Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2004 a'i ddatgan gan y canwr bâs-baritôn byd-enwog Bryn Terfel. Gwyneth Lewis gyfansoddodd y testun a ymddengys uwchben Canolfan y Mileniwm.
Testun yr eitem wedi'i arnodi/gywiro yn llaw Menna Elfyn.

Am Menna Elfyn: Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg

Erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron oddieithr Menna Elfyn ond sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn, gan gynnwys: adolygiadau o'i chasgliadau barddonol megis Aderyn Bach Mewn Llaw (1990), Cell Angel (1996), Cusan Dyn Dall/Blind Man's Kiss (2001), Perffaith Nam/Perfect Blemish (2007) Merch Perygl (2011) a Murmur (Bloodaxe Books, 2012), The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry (2003), a gyd-olygwyd gan Menna Elfyn a John Rowlands, Y Forwyn Goch (1992), drama am yr aflonyddwraig, diwinydd ac athronydd Simone Weil, ac Ar Dir Y Tirion (1993), drama'r geni tra amgen, ill dwy a sgriptiwyd gan Menna Elfyn, a'i nofel i blant a phobl ifanc Madfall ar y Mur (1993)); hanes digwyddiadau a gŵyliau y bu Menna Elfyn yn cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys Binding the Braids, digwyddiad barddonol rhyng-Geltaidd a gynhaliwyd yng Nghaeredin ym 1992, Gŵyl Lenyddol Ilkley, Swydd Efrog, 1992, a 'Threave Poets', digwyddiad fel rhan o Ŵyl Gelfyddydau Dumfries a Galloway a gynhaliwyd yn Castle Douglas ym 1994; erthygl yn ymwneud â darlleniad o farddoniaeth yng Nghymraeg, Saesneg, Lithwaneg a Malteg i ddathlu digwyddiad o fewn yr Undeb Ewropeaidd; datganiadau i'r wasg sy'n ymwneud yn bennaf â llwyddiannau barddonol a llenyddol Menna Elfyn, gan gynnwys ei phenodiad fel Bardd Plant Cymru am 2002-2003 (y bardd benywaidd cyntaf i'w hanrhydeddu â'r swyddogaeth honno); ac erthyglau yn ymwneud â Menna Elfyn, ei bywyd a'i gwaith, gan gynnwys toriad o'r Western Mail, 1 Rhagfyr 1970, sy'n dangos llun o Menna Elfyn a rhai o'i chyd-fyfyrwyr o Goleg y Brifysgol Abertawe yn gwrthdystio yn erbyn yr hyn a welsant fel y mewnlifiad gormodol o fyfyrwyr Seisnig i'r Brifysgol.
Dwy erthygl yn ymddangos fel petaent yn anghyflawn.
Sawl eitem yn ddi-ddyddiad.
Am y gweithiau gan Menna Elfyn a grybwyllir, gweler dan y penawdau perthnasol o fewn yr archif.

Barddoniaeth gynnar

Llyfrau nodiadau Menna Elfyn yn cynnwys ymdrechion barddoni cynnar a drafftiau o gerddi, rhai ohonynt a gynhwyswyd yn ddiweddarach ar ffurf cyflawn mewn gweithiau cyhoeddiedig megis Mwyara (1976), 'Stafelloedd Aros (1978) a Tro'r Haul Arno (1982), ynghyd â barddoniaeth gan feirdd eraill ac amrywiol ddyfyniadau.

O'r Iawn Ryw

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd O'r Iawn Ryw (1991), a olygwyd gan Menna Elfyn, gan gynnwys adolygiadau ac erthyglau.

Trying the Line

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd Trying the Line, (1997), a olygwyd gan Menna Elfyn, gan gynnwys adolygiadau.

Ffŵl yn y Dŵr

Deunydd yn ymwneud â Ffŵl yn y Dŵr (1999), cyfrol o gerddi ar gyfer pobl ifanc a olygwyd gan Menna Elfyn, gan gynnwys adolygiad.

Bondo

Deunydd yn ymwneud â'r flodeugerdd ddwyieithog Bondo (2017), gan gynnwys drafft anodiadol o'r gyfrol a datganiad i'r wasg.

Cerddi amrywiol

Cerddi gan Menna Elfyn a gynhwysir yn ei chyfrolau cyhoeddiedig ond nad oeddent wedi'u cyplysu o fewn y casgliad ag unrhyw gyfrol(au) penodol.

Teyrngedau i Seamus Heaney

Teyrngedau i Seamus Heaney, gan gynnwys barddoniaeth a rhyddiaith gan Hayden Murphy ac arlunwaith gan Hugh Bryden a John Behan.

Deunydd amrywiol

Deunydd cyffredinol yn ymwneud â chyfieithu, gan gynnwys hanes sefydlu canolfan gyfieithu yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy, datganiad am y llenor Basgaidd Eli Tolaretxipi, cerddi yn yr iaith Arabeg a chyfieithiadau i'r Saesneg o hen benillion Cymraeg.

Results 121 to 140 of 159