Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 691 canlyniad

Disgrifiad archifol
Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Barddoniaeth,

Pryddest neu ddilyniant o gerddi: 'Awelon'; englyn: 'Dewi Sant'; englyn ysgafn: 'Syrffio'; telyneg: 'Pwll'; cywydd: 'Y meistr'; 'deg epigram'; emyn: 'Plygain'; soned: 'Drws'; ymson ddoniol rhwng etholwr a gwleidydd; molawd neu ddychangerdd; a cherdd ddi-odl.

Rhyddiaith,

Stori fer: yn seiliedig ar unrhyw ddihareb; portreadau o dri chymeriad lleol ar gyfer papur bro; sgwrs rhwng dau ar 'Deg o'm cas bethau' yn null Room 101; erthygl hyd at 5000 o eiriau: datblygiad chwyldroadol mewn unrhyw faes o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen; ysgrif ar ymdeimlad o le; tywys-daith o amgylch tref neu ddinas; tair ymson gan dri unigolyn yn ymateb i'r un sefyllfa ddirdynnol; a llyfr o deithiau mewn ardal arbennig.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Trefniannau lleisiol neu offerynnol o un alaw neu gainc werin Gymraeg draddodiadol; emyn-donau; unawd piano neu delyn; darn byr i organ bib; gosodiad o salm i gôr merched; carol Nadolig; gosodiad Cymraeg o'r Magnificat a'r Nunc Dimitis ar gyfer côr cymysg SATB; symudiad byr (heb fod yn hwy na 7 munud) ar gyfer cerddorfa lawn; un symudiad ar gyfer ensemble offerynnol; Tlws y Cerddor; ffolio o waith amrywiol i gynnwys dim mwy na 5 o ddarnau (cystadleuaeth i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau trydyddol dan 19 oed); a chyfansoddi cân (Adran Dinistr).

Dysgwyr,

Dyddiaduron wythnos; sgyrsiau dros y ffens; llythyrau cwyno; cerddi: 'Yfory'; straeon arswyd; cywaith grŵp (y profiad o ddysgu Cymraeg); gêm fwrdd ar gyfer teuluoedd sy'n dysgu Cymraeg; paratoi cardiau fflach; a pharatoi tâp sain ar gyfer gwrando arno yn y câr.

Rhyddiaith

Straeon byrion (hunanddewisiad); portread o gymeriad ardal; casgliad o dair sgwrs ar dâp yn arddull a hyd 'Dros fy sbectol' ynghyd â chopi o'r sgript; cyfres o lythyrau dychanol rhwng person hanesyddol a pherson cyfoes; cyfrs o ymsonau yn seiliedig ar brofiadau personol; casgliad o bytiau yn ymwneud â llysenwau i lenwi bylchau mewn papur bro; nofel i blant hŷn wedi'i gosod mewn coleg; a llyfr ffeithiol, diddorol yn portreadu trosedd neu drychineb enwog a ddigwyddodd yn yr hanner canrif ddiwethaf.

Barddoniaeth,

Awdlau: 'Dadeni'; Dilyniant o gerddi: 'Muriau'; englynion: 'Camera'; englynion ysgafn: 'Codi sgwarnog'; telynegion mewn mydr ac odl: 'Carreg ateb'; cywyddau o 18 llinell: 'Arwr'; Haicw: 'Casgliad rhwng 20 a 40 mewn nifer; salmau cyfoes (hunanddewisiad); cerddi ar batrwm un o ugeinedau Euros Bowen (hunanddewisiad); cerddi ysgafn/crafog: 'Opera sebon'; chwech o dribanau: 'Troeon trwstan'; a chasgliad o englynion a/neu benillion ar gyfer cardiau cyfarch.

Cyfansoddiadau cerddorol,

Emyn-donau; unawdau ar gyfer merch neu fachgen dan 19 oed gyda chyfeiliant piano a fyddai'n addas ar gyfer cystadlaethau'r dyfodol; ensemble offerynnol ar gyfer rhwng 4 ac 8 o rannau; trefniant o ddwy gân werin wrthgyferbyniol ar gyfer cerddorfa ysgol; gosodiad o ran o'r 'Gwynfydau'; cyfres neu gadwyn o ganeuon ar thema neu stori sy'n addas i blant Cyfnod Allweddol 2; darn byr i biano neu organ; beirniadaeth ar y darn byr i unrhyw offeryn cerddorfaol; cyfansoddiadau gwreiddiol ar gyfer SATB neu TTBB (Tlws y cerddor) a chyfansoddi cân i rai dan 30 oed.

Rhyddiaith,

Nofelau heb eu cyhoeddi (Gwobr Goffa Daniel Owen); cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn Ariannin (atgofion personol bywyd a gwaith); casgliad o ryddiaith mewn unrhyw gyfrwng : 'Teulu dyn'; nofelau cyfoes byr a chasgliad o straeon am ysbrydion.

Canlyniadau 121 i 140 o 691