Copi o sgript y ffilm 'Hedd Wyn' a luniwyd gan Alan Llwyd a'i gyfarwyddo gan Paul Turner, 1991-1992. Collodd Hedd Wyn ei fywyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym mrwydr Cefn Pilkem, Gwlad Belg. = A copy of the film script 'Hedd Wyn' by Alan Llwyd directed by Paul Turner, 1991-1992. Hedd Wyn was killed in the First World War at the battle of Pilkem Ridge, Belgium.
Drafftiau o sgriptiau i'r 12 pennod o Dihirod Dyfed, [1987]-[1991], yn ogystal â theipysgrifau a llawysgrifau o rai penodau o'r llyfr o'r un enw, [1991]; torion papur newydd yn ymwneud â'r gyfres gyntaf,1987-1989, a llungopi o'r llyfryn Dihirod Dyfed a gynhyrchwyd gan S4C,1988 = Drafts of scripts for the 12 episodes of Dihirod Dyfed, [1987]-[1991], as well as typescripts and manuscripts of some of the chapters from the book of the same name, [1991]; newspaper cuttings relating to the first series, 1987-1989; and a photocopy of the booklet Dihirod Dyfed produced by S4C, 1988.
Copïau teipysgrif o dair sgript sef 'Shemi Wâd' (sgwrs gan Bili John a D. J. Williams), 1936, 'Storïau'r Môr' (gan dri hen forwr o Abergwaun), 1936, a 'Dychangerddi Letys Het' (D. J. Williams a Bili John), [fe'i cyhoeddwyd yn y County Echo yn 1939]; cawsant eu recordio yn Stiwdio'r BBC yn Abertawe.
Casgliad o sgriptiau rhaglenni nodwedd a luniwyd gan Eluned Phillips ar gyfer y BBC yn ystod y 1950au a 1960au, gan gynnwys 'Yd y wlad', 'Rheolwr y banc' a 'Diwrnod ffair'.
Mae'r casgliad yn cynnwys sgriptiau ffilm a baratowyd yn ystod y 1980au a'r 1990au gan Eurwyn Williams fel aelod o amrywiol griwiau ffilm, yn bennaf ar gyfer Ffilmiau Eryri. Ceir hefyd nifer o daflenni gan gynnwys amserlenni ffilmio, lleoliadau a rhestri o actorion, y mwyafrif yn ymwneud â'r ffilm 'Owain Glyndwr: Prince of Wales' = The collection consists of film scripts prepared during the 1980s and 1990s by Eurwyn William as a member of various film crews, mainly for Ffilmiau Eryri. There is also a number of leaflets including filming schedules, locations and lists of actors, most of these relating to the film 'Owain Glyndwr: Prince of Wales'.
Dwy sgript o waith Gwenlyn Parry, sef 'Poen yn bol', [1963], a 'Ty ar y tywod', [1968], a gyflwynwyd gan yr awdur i dad y rhoddwr. Sgript ymarfer ar gyfer darllediad ar y teledu yw un 'Ty ar y tywod' wedi'i llofnodi gan y dramodydd. = Two scripts by Gwenlyn Parry, namely 'Poen yn bol' [1963], and 'Ty ar y tywod' [1968], presented by the author to the donor's father. The 'Ty ar y tywod' script is a practice script for a television broadcast and bears the signature of the dramatist.
Sgriptiau dramâu Gwynne D. Evans, 1946-[1979], gan gynnwys rhai a ddanfonwyd i gystadleuthau yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac a ddarlledwyd ar y radio ac ar y teledu; sgriptiau 'Pobol y Cwm'; ynghyd â phapurau’n ymwneud â’i waith fel cynhychydd Under Milk Wood a Dan y Wenallt.
Sgriptiau, 1950-1970, a ddarlledwyd gan y BBC ac a luniwyd gan yr Athro Emeritws R. Geraint Gruffydd yn bennaf, ynghyd â rhai gan ei wraig Luned Gruffydd, neu rhai y buont ynghlwm wrthynt. = Scripts, 1950-1970, transmitted by the BBC, written mainly by Professor Emeritus R. Geraint Gruffydd, together with some by his wife Luned Gruffydd or scripts they were involved with.
Adysgrif, [2013], o sgwrs rhwng Llyr Gwyndaf, mab y rhoddwr, a'r dramodydd Gwenlyn Parry, a gyflwynodd fel rhan o'i gwrs drama yn Ysgol Glantaf, Caerdydd, ar ffurf casét yn 1985.