Llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon yn ymwneud â changen Rhondda Fach o Undeb Dirwestol Merched y De. = Notebook containing some accounts relating to Rhondda Fach branch of Undeb Dirwestol Merched y De.
Llythyrau a phapurau eraill, 1913-1918, sy'n cynnwys rhai'n ymwneud â'r anghydfod rhwng E. W. Evans a Chyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd ynglŷn â phryniant a chyhoeddi'r Goleuad.
Emyn-donau 'Cwm Rheidol' a 'Bronystwyth' gan Gwynfryn Y. Jones, organydd yn Eglwys Sant Paul, Aberystwyth, ynghyd â llythyr, 1972, ato gan Dyfnallt Morgan a drosodd eiriau gwreiddiol Morswyn o'r Gymraeg i'r Saesneg iddo ('Rock of Ages').
Casgliad o bapurau Llyfni Huws, yn ymwneud â'r delyn a chanu penillion, sef llythyrau oddi wrth O. M. Edwards, ac 'Eifion Wyn'; darlith deipiedig a draddodwyd yn Tylorstown ; llythyr teipiedig yn dwyn y teitl "Adloniant Hen Delynor"; llun 'Dewi Havhesp'; a thorion o'r Cymro yn cynnwys lllythyrau gan Llyfni Huws ar y delyn a cherdd dant.
Sgôr llawysgrif mewn pensel ac inc o Dan y Wenallt, trosiad T. James Jones o'r ddrama adnabyddus Under Milk Wood gan Dylan Thomas, wedi'i gosod i gerdd dant gan Bethan Bryn ar gyfer côr lleisiau cymysg. Perfformiwyd y gwaith yn y Neuadd Fawr, Aberystwyth, i ddathlu pen-blwydd Cymdeithas Cerdd Dant Cymru yn 75 oed, Mehefin 2009. = A manuscript score in pencil and ink of the well-known drama Under Milk Wood by Dylan Thomas translated into Welsh by T. James Jones as Dan y Wenallt and arranged to harp accompaniment by Bethan Bryn for mixed voice choir. This work was performed at the Great Hall, Aberystwyth, as part of the Cerdd Dant Society's 75th anniversary celebrations, June 2009.