Dangos 165 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cyfres Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Ariannol

Gohebiaeth a phapurau, 1972-1994, yn ymwneud â materion a gweinyddiaeth ariannol, yn cynnwys rhoddion, nawdd, cyflog, derbyniadau, taliadau, anfonebau, grantiau, a phryni eiddo. Yn ogystal, ceir catalog sêl ar gyfer Tŷ Canol (1891).

Datblygiad a Gwasanaethau

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1997 a 2002-2008, yn ymwneud â datblygu y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn a darparu gwasanaethau, yn cynnwys cynlluniau busnes; trefnu cyrsiau; datblygu’r safle; strategaethau; yr Ymddiriedolaeth; nawdd; rhaglen EWROSGOL, a gweithgareddau a digwyddiadau yn y Nant. Mae rhai o’r ffeiliau hefyd yn ymwneud â phrynu a datblygu Plas Pistyll.

Plas Pistyll

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1995, yn ymwneud â prynu, datblygu, a gwerthu Plas Pistyll, a’r achos enllib canlyniadol, yn cynnwys cynlluniau; cofnodion Bwrdd yr Ymddiriedolaeth; papurau ymgyfreitha a phapurau a gohebiaeth cyfreithwyr; manylion ariannol; ac adroddiadau.

Cyngherddau

Rhaglenni cyngherddau o'r dyddiau cynnar a gynhaliwyd ar draws y byd, 1964-2010.

Canlyniadau 101 i 120 o 165