Showing 130 results

Archival description
Papurau David Bowen a Ben Bowen,
Print preview View:

1 results with digital objects Show results with digital objects

Golygu Ben Bowen

Mae'r gyfres yn cynnwys copïau o lythyrau gan Ben Bowen, gwaith 'anghyhoeddiedig' Ben Bowen yn Seren yr Ysgol Sul, nodiadau bywgraffyddol a luniwyd gan David Bowen a deunydd gweinyddol yn ymwneud â chyhoeddi a gwerthu llyfrau gan Ben Bowen ac amdano.

Bowen, Ben, 1878-1903

Cerddi a rhyddiaith amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys cerddi a rhyddiaith gan awduron amrywiol, nifer ohonynt wedi eu hysgrifennu ar gyfer Seren yr Ysgol Sul a chyhoeddiadau eraill ar bynciau crefyddol neu ddiwylliannol.

Papurau addysgol

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau nodiadau Ben Bowen tra roedd yn dilyn cyrsiau yn Academi Pontypridd, [1897]-[1899], Prifysgol Caergrawnt, [1898]-[1899], a Choleg Prifysgol Caerdydd, 1899-1900.

Ysgrifau crefyddol

Mae'r ffeil yn cynnwys ysgrifau crefyddol ar destunau yn cynnwys 'Cymundeb', 'Cymundeb Rhydd', a 'Spinther' sef amddiffyniad o'i erthygl wreiddiol ar y cymundeb a ysgrifennwyd yn Lisbon, Portiwgal, Gorffennaf 1902. Cyhoeddwyd yr atodiad i'r amddiffyniad yn Rhyddiaith Ben Bowen fel 'Cwestiwn yr Atgyfodiad'.

Barddoniaeth 1900-1901

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau a chopi terfynol o 'Y Diwygiwr' ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Merthyr Tydfil, 1901.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru (1901 : Merthyr Tydfil, Wales)

Barddoniaeth 1902

Mae'r ffeil yn cynnwys copi gorffenedig o 'Goleuni'r Byd' a ysgrifennwyd yn Ne Affrica ac a enillodd Gadair Eisteddfod Llundain yn 1902, ynghyd â'r feirniadaeth ohoni gan Elfed; copi o 'Ymadawiad Arthur' ar gyfer Eisteddfod Bangor a cherddi eraill.

Lewis, H. Elvet (Howell Elvet)

Cyhoeddiadau y Bedyddwyr, Cymdeithasau a Phersonol

Mae'r ffeil yn cynnwys erthyglau Myfyr Hefin yn bennaf, gan gynnwys cyfres ganddo 'Mamau Cymru a'r Beibl' a'i fwletinau i Urdd y Seren Fore. Ceir hefyd dysteb i Myfyr Hefin, 1936, rhai toriadau personol a thoriadau yn ymwneud â'r Cymdeithasau Cymreig. Daw'r toriadau fwy na heb o Seren yr Ysgol Sul, Seren Cymru a'r Llanelli Mercury.

Welsh Baptist Union. Welsh Baptist Young People's Union. Urdd y Seren Fore

Dyddiaduron

Mae'r gyfres yn cynnwys 'Dyddlyfr David Bowen', gyda thoriadau papur newydd amdano ef a'i deulu. Sonnir am ddigwyddiadau personol ynghyd â'r cyfarfodydd crefyddol a diwylliannol a fynychai.

Results 101 to 120 of 130