Showing 2492 results

Archival description
Papurau Kate Roberts Welsh
Advanced search options
Print preview View:

20 results with digital objects Show results with digital objects

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Diolch am gopi o'r llyfr. "Mae'r print yn lân a'r papur yn dda a'r siaced yn hyfryd". Bydd yn ddiddorol gweld beth a ddywed yr adolygwyr. Nid oes ganddo feddwl uchel o'r beirniaid llenyddol Cymraeg at ei gilydd. Diolch i KR hefyd am agor ei lygaid ar H. T. Edwards. Roedd yn ei farnu wrth adroddiadau'r papurau newydd. Mae'n ystyried ysgrifennu drama radio. Gofynnodd Cwmni Garthewin am ddrama lwyfan ar gyfer 1950. Mae'n darllen Pascal yn awr. Mae Siop Jack Edwards, Aberystwyth, yn cwyno bod gwerthiant llyfrau Cymraeg wedi mynd i lawr ac nad yw athrawon ysgol yn prynu llyfrau fel y buont, a bod angen mawr am nofelau newydd. Mae'n cytuno ynglyn â glastwreiddiwch Plaid Cymru. Fe awgrymodd y peth fwy nag unwaith yng 'Nghwrs y Byd', ond dyna'r unig fudiad sydd i'w gael a rhaid glynu wrtho. Byddai'n dywyll ar Gymru hebddo er mor ofalus barchus yw ei bropaganda. Gweld nad oedd obaith i'r Blaid ddilyn esiampl y tân yn Llyn a wnaeth iddo fynd allan o fywyd cyhoeddus yn llwyr a'r ffaith na all fforddio aros mwyach yn y llywyddiaeth. Mae'r ddadl ynghylch statws gweriniaeth neu ddominiwn yn bwnc hollol academig ac anymarferol.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], [Llanfarian],

Mae newydd orffen darllen proflenni Stryd y Glep. "Mae'r stori hon yn gampwaith. Y mae mawredd sicr, mawredd dwys ynddi." Ei chymharu â Symphonie Pastorale André Gide - argyfwng enaid yn ymddatguddio drwy awgrymiadau cynnil. Mae KR wedi cyrraedd i ddeall dyfnach. Ni chywirodd ddim ar y proflenni er bod amryw gamgymeriadau ynddynt. Nid yw yn hoffi Stryd y Glep na Chapel y Twb - awgrymant ddychan poblogaidd, mae'r nofel yn rhy gyfrwys i hynny. Awgrymu gwelliant. Mae wedi glân feddwi ar y stori, "o'r diwedd dyma ddyfnder seicolegol ac aeddfedrwydd nofelydd mawr yn y Gymraeg". Cynnig anfon Efrydiau Catholig yn rhodd iddi. Twpdra Saesneg yw galw Stryd y Glep yn 'stori fer hir', nouvelle yw gair y Ffrancwyr. Y peth gorau fyddai 'stori' heb ychwanegu dim, hyd yn oed y geiriau "ar ffurf dyddiadur".

Llythyr oddi wrth Countess Hermynia Zur MÜEHLEN, yn Radlett, Herts,

Ni fyddai'n beiddio cyhoeddi ei chyfieithiad o stori gan KR heb enwi [Ll. Wyn] Griffith. Anfonodd ef gopi o A Summer's Day ati a chafodd bleser mawr o ddarllen y gyfrol. Mae'n edrych ymlaen i glywed stori KR yn cael ei darlledu y dydd Mercher canlynol. Gofyn pa un ai 'Begw' ai 'Margiad' y dylai alw enw'r cymeriad. Hanes y trafferth a gafodd gyda'r enw 'Twm' mewn nofel Gymraeg a gyfieithodd unwaith. Holi beth yw ystyr enw'r ty [Y Cilgwyn]. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Mae'n disgwyl yn awyddus am stori KR sydd ar fin ymddangos. Mae'n gweithio'n galed ar Efrydiau Catholig 1949. Bydd yn rhifyn llenyddol yn bennaf. Trafod y cynnwys. Trafod sgwrs radio J. R. Jones ar Ann Griffiths. "Un o'r pethau godidocaf a glywais i erioed ar y radio, a'r peth gorau o gwbl oll ar Ann Griffiths mewn beirniadaeth lenyddol. Gwyn ei byd yn cael cip ar Bob Barry [R. Williams Parry]. "Mae achos i dybio ei eni ef heb bechod gwreiddiol, 'dydy' o ddim yn debyg i'r hil ddynol gyffredin, ond yn aros yn y diniweidrwydd cyn y cwymp".

Llythyr oddi wrth Daisy [Vészy], yn Rolle [Y Swistir],

Diolch i KR am fod mor barod i'w chynorthwyo. Ni all ddychwelyd i Hwngari hyd oni ddaw ei phasport i ben yn 1951 ac ar hyn o bryd y mae'r sefyllfa wleidyddol yno yn ddrwg. Trafod ei dyfodol. Mae bywyd yn galed ond y mae ganddi ewyllys gref i lwyddo. Anfon fioled at KR ac un arall at ei rhieni. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Budapest],

Nid oedd yn disgwyl i KR dalu am addysg Daisy yng Nghymru. Mae gan ei gwr gwsmeriaid yn Lloegr sydd ag arnynt arian iddo. Byddai hynny yn talu am ei haddysg. Dim ond gofyn am gefnogaeth KR iddi yr oedd hi. Mae'n pwyso ar Daisy i basio ei arholiadau cyn symud. Cafodd ei chyffwrdd gan ofal KR dros Daisy a'i dyfodol. Hoffai iddi astudio Saesneg ym Mhrydain am ddwy flynedd cyn mynd i brifysgol yn Hwngari. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Silas Evans, yn Ystalyfera,

Diolch am gopi o O Gors y Bryniau. Campus. Gallai yntau ysgrifennu stori fer am hanes ei ymweliad ef a'i ffrindiau i Baris yr haf blaenorol. Gellid meddwl o ddarllen Y Darian bob wythnos mai KR oedd Prif Gwnstabl Aberdâr. Mae tysteb i Ben Davies [Pant-teg] ar waith. Mae'n cynnwys hanesyn am Ben Davies yn mynd i bregethu i Ddefynnog yr haf cynt.

Llythyr oddi wrth D[afydd] E[lis], [Penyfed, Corwen], CPGC Bangor,

Nid oes llawer o awydd gweithio arno. Bu'n darllen rhai o gywyddau yr hen feirdd. Mae un cwpled wedi aros ar ei gof:. "Ofer yw byw yn y byd. Un ni welo'i anwylyd". Bu wrth y pentan dros y Pasg heb fynychu unrhyw oedfa. Ond bu yn y dre yn gwrando ar gôr yn perfformio "The Creation". Mae R. J. Jones yn dod i aros atynt dros y Sul gan ei fod yn pregethu yn eu capel hwy. Bydd yn disgwyl bod KR wedi ysgrifennu "haid o straeon" ar gyfer ei ddifyrru yn ystod y tymor dilynol. Cyhoeddwyd y llythyr hwn yn David Jenkins, op.cit., tt 159-60.

Llythyr oddi wrth Countess Hermynia Zur MÜEHLEN, yn Radlett, Herts,

[?Llythyr at Ll. Wyn Griffith]. Gofyn caniatâd i gyfieithu un o storïau KR i'r Almaeneg. Ffoadur o Tsiecoslofacia yw hi. Gwnaeth lawer o gyfieithu gan gynnwys llyfrau Jerome K. Jerome a John Galsworthy. Bu'n gweithio i bapurau yn Y Swistir, Yr Almaen ac Awstria cyn cyfnod y Natsïaid. Cyhoeddodd bedwar llyfr Saesneg. Trafod telerau. Nid yw papurau'r Swistir yn talu cystal â rhai Lloegr. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Budapest],

Maent wedi rhannu eu fflat yn ddwy ran. Mae Daisy yn sefyll arholiad i fod yn athrawes Ffrangeg. Tybed a fyddai gwaith iddi hi fel au pair i ddysgu Ffrangeg yn Lloegr. Y mae ei gwr yn well. Nid yw'n meddwl y bydd am fod yn aelod seneddol yn hir. Hoffai hi petai'n rhoi'r gorau i'r swydd ar unwaith. Cofio am ei hymweliad â Chymru. Nid yw'n meddwl y caiff fyth ddychwelyd eto gan fod teithio wedi mynd yn anodd iddynt bellach. Mae mwy o siwgwr i'w gael yn awr yn Hwngari. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Dorothy [Rees], Mottingham SE9,

Diolch i KR am gydymdeimlo â hi ar farwolaeth ei chwaer, May. Nid oedd gwella iddi gan fod ei gwythiennau'n caledu. Nifer o'i chydnabod yn Aberdâr yn marw. Diolch am ddarlun o KR a dderbyniodd. Nid yw yn dangos ei thynerwch a'i llygaid meddal, dim ond ei chryfder cymeriad a'i chenedlaetholdeb ysol. Hoffai fedru darllen gwaith KR yn Gymraeg. Bydd yn dda i Winnie, ei chwaer, gael cwmni Ray Evans yn y ty, er bod iechyd honno yn fregus. Mae gan Winnie [Winifred Rees] ynni dihysbydd. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Daisy Vészy, yn Rolle [Y Swistir],

Diolch am help KR ynglyn ag Ysgol Howells, Dinbych. Mae hi angen cyngor ynglyn â nifer o bethau. Trafod ei hysgol bresennol. Nodi ei dymuniad i ddysgu nifer o ieithoedd ac i astudio cyfraith ryngwladol er mwyn ymuno â'r gwasanaeth diplomyddol. Nodi bod ei gwybodaeth o'r Saesneg yn wan. Mae'n edrych ymlaen i gyfarfod â KR. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

'Cwrs y Byd' yw hunllef ei fywyd. Pan gaiff destun fel Henry James bydd yn ymgysuro tipyn. Yr wythnos wedi iddo ysgrifennu arno 'roedd ysgrif yn y Times Literary Supplement ar lyfr newydd Leavis. Ef yw'r beirniad llenyddol gorau yn Lloegr. Nid yw wedi darllen llyfr Rebecca West ar Iwgoslafia - fe'i cyfrifir eisoes yn glasur yn ei faes. Bu'n arolygu'r Gymraeg a'r Saesneg yn hen ysgol KR yn Aberdâr bythefnos ynghynt. "Y drwg yno yw eu bod yn dysgu gormod ar y merched, yn eu dysgu, dysgu, nes lladd y wreichionen fach o feddwl gwreiddiol a fo yn neb o'r genethod". Cafodd dridiau yn Abergwaun hefyd a chwmni D. J. [Williams] yno.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Budapest],

Trafod y posibiliadau o gael addysgu Daisy, ei merch, yn Ninbych. Holi am gyfrol KR sydd ar fin ei chyhoeddi [Stryd y Glep]. Iechyd ei gwr. Gwrthodwyd y nofel yr oedd wedi ei chyfieithu o'r Ffrangeg gan y Swyddfa Sensoriaeth ond ni wyr pam. Er hynny addawodd y golygydd dalu peth o'r tâl iddi am ei hymdrech. Nodi ei hawydd i Daisy gael mynd i Ysgol Howells, Dinbych. Byddai'n hapus iawn o wybod y byddai KR wrth law i ofalu amdani. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Mae ei fodryb yn gwella. Da ganddo glywed bod gan KR lyfr arall ar ymddangos [Stryd y Glep]. Mae pawb yn dyheu am gael rhagor o'i gwaith creadigol. Mae Saunders Lewis yn gweithio ar gyfer Efrydiau Catholig 1949. Sôn am Gwyr Llên. Canmol [D.] Myrddin Lloyd - mae'n "gydwybodol a dyfal ac yn ddeallus". Mae'n tyfu i fod yn athronydd campus heblaw beirniad llenyddol da. Mae'n cymharu KR yn ormodol â Katherine Mansfield. Nid oes ganddo glust fain i arddull. Syniadau yw ei fyd ef. Ond mae Saunders Lewis yn ei hoffi'n fawr - un o'r cywiraf o ddynion.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yng Nghastell-nedd,

Mae'n gofalu am ei fodryb. Fe gafodd hi godwm noswyl Nadolig a bu'n tendio arni ers hynny. Dymuno blwyddyn newydd dda i KR a dweud cymaint o bleser a gafodd o ddarllen y stori "Y Cyfarwydd". Darllenodd hi deirgwaith. "Y mae'r cwbl o'r terfyn yn feistraidd ac yn rhoi ystyr i'r cyfan". Hoffodd hi'n fawr iawn. Mae cerdd B. T. Hopkins ar yr un tudalen yn wych iawn. [Y Faner, 22 Rhagfyr 1948, t 8; teitl cerdd B. T. Hopkins oedd "Ein Tir"].

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Diolch i KR a Toss am eu llun. Anfon gair o gyfarchion Nadolig gan nad ydynt yn anfon cardiau. Cyfeirio at hunangofiant Theophilus Griffiths, brodor o Abergorlech sy'n byw yn y Beddau ger Pontypridd. Mae camp ar ei waith er bod angen llawer o gywiro sillafu a gramadeg arno. Mae'n ddogfen gymdeithasol bwysig o fywyd top sir Gaerfyrddin yn hanner olaf y ganrif ddiwethaf a dechrau'r ganrif hon. Mae'n adrodd stori mewn tafodiaith yn dda ac mae ei wyleidd-dra yn swynol. Gan fod D. J. Williams mor gyfarwydd â'r cefndir mae'n gofyn i KR tybed a fyddai hi'n barod i ddarllen drwy'r gwaith i weld os yw hi'n cytuno y dylid cyhoeddi'r gwaith. Mae'n barod i ysgrifennu pwt o ragair iddo. Awgrymodd "Y Llanc o Lannau Cothi" yn deitl i'r gwaith. Ceir disgrifiad o Ffair Gwyl Barna, Llandeilo, ganddo. Daeth gair oddi wrth Gwynfor [Evans] yn dweud na ellid cyhoeddi llyfryn D. J. Williams ar Mazzini gan y Blaid erbyn hyn oherwydd bod pethau eraill ar waith. Diolch i KR am y stori ddiweddar yn Y Faner ["Y Cyfarwydd", 22 Rhagfyr]. Y mae ganddi ddawn y dewin i greu stori fyw, gofiadwy. Bu Waldo [Williams] yno neithiwr a chanmolai ef y stori hefyd.

Results 101 to 120 of 2492