Showing 982 results

Archival description
Papurau W. J. Gruffydd
Print preview View:

[W. J. Gruffydd] at Syr John Morris-jones,

Anodd gwybod beth ddylai ymateb John Morris-Jones fod. Dylai ateb y llythyr ond peidio sôn am vendetta. Awgrymu drafft o lythyr yn amlinellu beirniadaeth Timothy Lewis o athrawon Prifysgol Cymru i gyd. Bwriada anfon llythyr at y Prifathro Stuart Jones. Copi teipysgrif.

Y Canon Maurice Jones, Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan,

Newydd ddychwelyd o'r Cyfandir a chlywed am farwolaeth John Morris-Jones a bod W. J. Gruffydd wedi cael ei wrthod fel Prifathro Coleg Caerdydd. Trychinebau cenedlaethol yn ôl Maurice Jones. Y mae'n dramgwydd anfaddeuol yn y Brifysgol a'r Eglwys i ddyn fod yn Gymro sy'n caru ei wlad a'i iaith. Cafodd yntau ei gosbi am y rheswm hwnnw hefyd. Bydd awgrym W. J. Gruffydd yngl?n â'r Orsedd yn cael ei drafod yn y Pwyllgor Gweinyddol adeg cyhoeddi Eisteddfod Llanelli.

[T.] Gwynn [Jones], Caernarfon,

Diolch am lythyr ac arian at dysteb Eames. Nid yw am fynd i ymgomfa Cymdeithas Gymreig y dref am ei fod yn brin o arian ac yn brysur iawn a'i fod i annerch yno rywbryd ar ôl y Nadolig. Nid oes ganddo arian eto i anfon prospectws ei lyfr allan ond cafodd rai archebion eisoes gan gynnwys un gan Muriel Price. [Mae'n dyfynnu ei harcheb a anfonwyd ato mewn Cymraeg Canol ac yn parhau ei lythyr mewn Cymraeg Canol]. Ni roddwyd Arthur ap Gwynn 'yng nghlos' eto.

[T.] Gwynn [Jones], Bow Street,

Gwasg Prifysgol Caergrawnt newydd gyhoeddi'r gyfrol gyntaf o ddwy ar Literary Criticism in Antiquity gan Atkins. Hoffai'r awdur gael gweld adolygiad yn Y Llenor. T. Gwynn Jones yn canmol y gwaith ac yn cynnig llunio nodyn ar gyfer Y Llenor, ond byddai cael sylw gan W. J. Gruffydd i'r gyfrol yn llawer amgenach. Petai W. J. Gruffydd yn cael copi o'r Gainc Olaf fe fyddai T. Gwynn Jones yn hoffi cael adolygiad ar honno hefyd gan W. J. Gruffydd ei hunan.

Thomas Artemus Jones, Llanrwst,

Amgau cyfraniad i'r Llenor gan ddweud ei fod yn darllen y cyfnodolyn yn gyson. [T. Artemus Jones, 'Deddf Harri VIII yng ngolau'r Gwreiddiol', Y Llenor, cyfrol XV (1936), tt. 232-7]. Cafodd sgwrs ag W. J. Gruffydd yng nghwmni Ellis Gruffudd yn smoke-room y National Liberal Club flynyddoedd yn ôl.

J. A. Lawton, Shawbury,

Ysgrifennu yngl?n â'r Bil Addysg. Mae'n trafod addysg o fewn y lluoedd arfog. Gwastraff amser oedd y 'General Education Scheme' - ychydig iawn a ddymunai fynychu dosbarthiadau nos. Dangos sut y methwyd â gwerthfawrogi athrawon gwyddoniaeth a'i llafur caled yn y gwaith o baratoi awyrenwyr. Mae wedi clywed eu bod am gael eu cadw ymlaen er bod y rhyfel yn dod i ben a mawr angen amdanynt yn y gymdeithas. Rhestrir nifer o enghreifftiau o wyr â graddau a gamddefnyddiwyd yn y lluoedd arfog.

Henry Lewis, Abertawe,

Anfon adysgrif o gerdd 'Iesu, nâd gamwaith ...' a ysgrifennwyd gan gyfaill o feddyg tra'n gwasanaethu yn yr R.A.M.C. yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Saunders Lewis, Abertawe,

Anfonodd siec W. J. Gruffydd at J. E. Jones i Swyddfa'r Blaid, Caernarfon. Mae newydd orffen rhyw fath o awdl ymddiddan tua 150 llinell o hyd. Gofyn os hoffai ei gweld i farnu os yw hi'n gymwys i'r Llenor. ['Mair Fadlen', Y Llenor, cyf. XIV (1935), tt. 73-8].

Saunders Lewis, Llanfarian,

Y mae wedi darllen y dramâu i gyd ddwywaith ac y mae'n bendant mai drama 'Arawn' sy'n haeddu'r wobr yn llawn. Hoffai dderbyn gair er mwyn iddo fedru ysgrifennu ei feirniadaeth.

Saunders Lewis, Llanfarian,

Ni wyddai ddim am y trefniant yngl?n â'r ddrama yn Ninbych. Fe'i syfrdanwyd gan haelfrydigrwydd W. J. Gruffydd. Mae'n diolch am y cynnig ac yn ei dderbyn.

Roger [S.] Loomis, Efrog Newydd,

Mae'r campws yn gwacáu oherwydd effeithiau'r Rhyfel. Mae ef a'i wraig ar wyliau ym Maine. Cafodd lwyddiant mawr gyda'i ymchwiliadau i'r Pedair Cainc. Sôn am gyfystyron neu adlewyrchiadau o Brân mewn chwedlau a thraddodiadau eraill. Mae'n mynd ymlaen i drafod stori Pwyll, Arawn a Hafgan. Mae'n cyfeirio at yr elfen o ymrysonau wrth y rhyd sy'n gyffredin i lawer testun Arthuraidd. Mae'n awgrymu mai chwedl dymhorol, un sy'n ymwneud â chylch y flwyddyn sydd yma, Arawn yn cynrychioli'r gaeaf a Hafgan yr haf. Gofyn cwestiynau am Pen Llwyn Diarwya, 'erchlas' a Breuddwyd Rhonabwy.

Roger [S.] Loomis, Paris,

Ei noson olaf yn Ewrop am rai blynyddoedd. Mae blwyddyn brysur yn ei wynebu yn Efrog Newydd. Rhaid cael Halma yn barod ar gyfer y Wasg. Gwasg Clarendon sydd yn debygol o ymgymryd â'r gwaith. Mae'n reit fodlon ar y penodau Cymreig - er fe hoffai petai W. J. Gruffydd yn hytrach nag [Idris] Foster yn ymgymryd â Chulhwch a Breuddwyd Rhonabwy. Hanes Cyngres Rennes. Rhai papurau 'gwyllt' yno, nodir syniadau yr Athro Carney o Ddulyn a'r Athro Draak o Amsterdam. Mae'n bwriadu dod i'r Gyngres nesaf ym Mangor os bydd amgylchiadau yn caniatáu iddo.

T. Harold Morgan, Llanisien,

Ysgrifennu at W. J. Gruffydd ar ran Cynghrair Cymreig y Prifathrawon i ddiolch iddo am ei waith da dros addysg Gymreig yn ystod y dadleuon yngl?n â'r Bil Addysg yn y Senedd. Ysgrifenna ar ran 550 o brifathrawon Cymru.

T. J. Morgan, Radur,

Mae eisiau barn W. J. Gruffydd ar ba swydd i'w dewis erbyn diwedd y rhyfel. Pe bai'n dod yn ôl i'r Coleg byddai'n derbyn £200 yn llai na'i swydd yn y Weinyddiaeth Lafur. Nid yw'n gweld bod cadair prifysgol i ddod i'w ran am gyfnod hir. Hoffai gael swydd yn ymwneud â Chymru a'r Gymraeg. Bu'n ystyried swydd fel Cofrestrydd un o'r colegau. Mae'n hoffi gwaith gweinyddol erbyn hyn. Bu'n ystyried cynnig am swydd gyda'r Bwrdd Addysg hefyd. Gwahodd W. J. Gruffydd draw i drafod y mater gan ychwanegu bod yno gnwd ardderchog o wynwyn, cennin a ffa Ffrengig yn ei ddisgwyl.

Gilbert Norwood, Toronto,

Mae'n ysgrifennu gan ei bod yn rhy boeth i weithio. Mae'n edrych ymlaen i weld W. J. Gruffydd eto. Bydd yn y Barry Hotel erbyn canol Mehefin. Yr oedd yn wrthun ganddo glywed bod Saunders Lewis wedi colli ei swydd. Sôn am lwyddiant P. M. Jones yng Nghaergrawnt. Holi am Llewelyn a Richardson.

Gilbert Norwood, Toronto,

Cafodd bleser mawr o dderbyn llythyr W. J. Gruffydd. Y mae arno gywilydd o fod yn Sais ar ôl yr hyn a wnaeth [Neville] Chamberlain. Y mae'n dechrau teimlo diflastod o gymryd dosbarthiadau. Mae'n dod ymlaen yn dda gyda'r rhagymadrodd i waith Pindar.

Results 81 to 100 of 982