Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Mai 2001; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2000-2001 (2001), ac adroddiad ariannol, 2000-2001 (2001); agenda a chofnodion cyfarfod Hydref 2001; copi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 4 (2001); copi o Ordinant Gweinyddol 11 Cyngor Prifysgol Cymru (2001); ac adroddiad blynyddol a rhaglen flynyddol y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Cymru (2001). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2001-2002), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; Gwyn Thomas; Derec Llwyd Morgan; Sioned Davies; Alwena Morgan; a Joy Whyte.
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Chwefror 2001; amcangyfrifon ariannol, 2001-2002 i 2004-2005 (2001); agenda, Mai 2001; a chofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil, Mawrth 2001. Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2001), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Branwen Jarvis; R. Geraint Gruffydd; Ruth ab Ieuan; Dafydd Johnston; Beryl Jenkins; Andrew Green; Sara Lee Branch; Elin Mair Humphreys; a Glenys Howells; a nodyn oddi wrth Geraint H. Jenkins.
Gohebiaeth, 2001, yn ymwneud â, ac yn cynnwys, cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli, Chwefror 2001, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Derec Llwyd Morgan; Ruth ab Ieuan; ac Aled G. Jones.
Gohebiaeth, 2001, yn ymwneud â threfnu cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Chwefror 2001; yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Sioned Davies; Gruffydd Aled Williams; Branwen Jarvis; Sara Lee Branch; Andrew Green; Richard Wyn Jones; Dafydd Johnston; Aled G. Jones; Pat Lewis; a Beryl Jenkins.
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ionawr 1986; agenda a chofnodion cyfarfod, Medi 1986; nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1986; adroddiad i’r Pwyllgor, Medi 1986; copi o amcanion y Ganolfan (1984-1985); amcangyfrifon ariannol 1985-1986 i 1989-1990 (1985); a chopi o’r adroddiad blynyddol, 1985-1986 (1986). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1985-1986), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Wyn Evans; R. Geraint Gruffydd; J. A. Cannon; Ieuan Gwynedd Jones; Hywel Wyn Jones; ac M. A. R. Kemp.
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2000; agenda’r Pwyllgor, Chwefror 2001; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1999-2000 (2000); cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil, Rhagfyr 2001; a chopi o brosbectws Prifysgol Cymru (c.2000). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2001), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Richard Bullen; Geraint H. Jenkins; Elin Humphreys; Aeres Davies; a Lynn Williams.
Agendâu, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ionawr 2000 a Mai 2000; cofnodion cyfarfod, Hydref 1999; adroddiad ariannol, 1999-2000 (2000), ac adroddiad blynyddol, 1999-2000 (2000); agenda a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Hydref 2000; dyraniadau cyllid (2000); cofnodion cyfarfod yr Is-bwyllgor Ymarferiad Asesu Ymchwil, Medi 2001; a manylion prosiect ‘The Welsh Romantic Tradition’ (2000). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1999-2000), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Myrddin ap Dafydd; Geraint H. Jenkins; Ruth ab Ieuan; Aeres Davies; Yvonne Hawkins; Ian George; Sara Lee Branch; Branwen Jarvis; Derec Llwyd Morgan; Roy Evans; John King; R. H. Williams; Gillian Birch; a John Andrews.
Agenda, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Chwefror 1999; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1998-1999 (1999); cofnodion cyfarfod, Medi 1998; ac agenda a Chyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Hydref 1999; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1997-1998 (1998); adroddiad ariannol y Ganolfan, 1998-1999 (1999); copi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 2 (1999); a phoster cynhadledd ‘Cymru a’r Cymry 2000’ (1999). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1998-1999), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Geraint H. Jenkins; Branwen Jarvis; Keith Robbins; M. Wynn Thomas; Derec Llwyd Morgan; a John Andrews.
Agendâu, Cyfarwyddyd I’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli, Ebrill 1998 a Medi 1998; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1997-1998 (1998); adroddiad ar ariannu’r Ganolfan, Mawrth 1998, a manylion incwm a gwariant y Ganolfan 1991-1997 (1998); adroddiad drafft o gyfarfod y Pwyllgor a sefydlwyd gan y Cyngor i adolygu sefyllfa’r Ganolfan (1998); a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 1 (1998). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1998), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Lynn Williams; Geraint H. Jenkins; Jeffrey Pritchard; Gwyn Thomas; Frances Good; a Tony Linforth.
Agenda, Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 1997; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1996-1997 (1997), ac adroddiad ariannol (1997); a ffigyrau ariannol Prifysgol Cymru 1997-1998 (1998). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1997-1998), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Lynn Williams; Ian George; Derec Llwyd Morgan; R. Brinley Jones; Geraint H. Jenkins; Ruth ab Ieuan; Lionel Madden; Patrick Sims-Williams; ac Aeres Davies.
Agenda, cofnodion cyfarfod, a’r Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 1996; cofnodion cyfarfod, Medi 1995; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1995-1996 (1996); datganiad ariannol y Ganolfan (1996); a chopi o’r Cynllun Strategol y Gofrestrfa a Gwasanaethau Canolog y Brifysgol, 1996-1997 i 2000-2001 (1996). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1996-1997) yn cynnwys llythyrau oddi wrth Ruth ab Ieuan; Gareth Wyn Evans; Branwen Jarvis; Geraint H. Jenkins; a Derec Llwyd Morgan.
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, a’r Cyfarwyddyd i’r Cadeirydd, Medi 1995; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1994-1995 (1995), a datganiad ariannol (1995). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1995-1996), oddi wrth Geraint H. Jenkins a Gareth Wyn Evans.
Agenda, nodiadau’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 1994, yn cynnwys adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1993-1994 (1994), ac adroddiad ariannol (1994); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1994), oddi wrth J. Beverley Smith; K. Rees; J. D. Pritchard; Lionel Madden; Geraint H. Jenkins; a Gareth Wyn Evans.
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Medi 1992; agenda a chofnodion cyfarfod, Medi 1993, yn cynnwys adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1992-1993 (1993), ac adroddiad ariannol (1993). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1993), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Kenneth O. Morgan; R. Geraint Gruffydd; J. D. Pritchard; J. Gwynn Williams; Gareth Wyn Evans; John Andrews; a Syr John Meurig Thomas.
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 1991; agenda, nodiadau’r Cadeirydd, a chofnodion cyfarfod, Medi 1992; adroddiad ariannol y Ganolfan, ac adroddiad blynyddol y Ganolfan, 1991-1992 (1992). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1992), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Wyn Evans; R. Geraint Gruffydd; Peter Roberts; Miranda Aldhouse-Green; Gareth Wyn Evans; Hugh Jones; Llinos Roberts-Young (fel yr Ysgrifennydd); M.A.R. Kemp; Derec Llwyd Morgan; Kenneth O. Morgan; a Hywel Wyn Jones.
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ebrill 1985, gyda nodiadau yn llaw R. Geraint Gruffydd; agenda, Ionawr 1986; nodiadau ([1985]) ar amcangyfrifon ariannol y Ganolfan, 1985-1986 i 1989-1990; copi o amcanion y Ganolfan (1985); papurau (1986) yn cynnwys gwybodaeth am seminarau a chyflog; a lythyrau (1986) oddi wrth Bobi Jones ac M.A.R. Kemp.
Copi o ddeiseb, 1977, wedi llofnodi gan aelodau'r Ysgol Astudiaethau Celtiadd, Aberystwyth; a gohebiaeth cysylltiedig, 1974-1977, yn trafod gwrthwynebu cau’r Adran Astudiaethau Celtaidd yn Prifysgol Lerpwl, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Pat Williams; N.J.A. Williams; J.E. Caerwyn Williams & R. Geraint Gruffydd; Roger Wright; Glanville Price; F.W. Walbank; Thomas Parry; Thomas Parry, T.J. Morgan, A.O.H. Jarman, J.E. Caerwyn Williams, ac R. Geraint Gruffydd; a James Cross.
Papurau a gohebiaeth, 1989, yn ymwneud â nawfed Fforwm y Ganolfan, ‘Tafodieithoedd’, yn cynnwys rhaglen; rhestr o fynychwyr; slipiau ateb; rhestr o aelodaeth Cylch Astudiaethau Tafodieithol Urdd y Graddedigion; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Llinos Young; Richard Crowe; a Peter Wynn Thomas.
Gohebiaeth a phapurau, 1988, yn ymwneud ag wythfed Fforwm y Ganolfan, ‘Gwaith Prydydd y Moch’, yn cynnwys slipiau ateb; rhaglen; rhestr o fynychwyr; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Gwynfor Evans; Morfydd E. Owen; ac R. Geraint Gruffydd.
Papurau a gohebiaeth, 1988, yn ymwneud â seithfed Fforwm y Ganolfan, ‘Y Fforwm Cernywaidd’, yn cynnwys y rhaglen; rhestr o fynychwyr; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth Brian Murdoch; Oliver Padel; Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Jack Arnell; Gwenan Creunant; Terence McCaughey; E. Evans; Tim Saunders; Bedwyr Lewis Jones; Lauran Toorians; Myrna Harris; a Charles Thomas.