Showing 121 results

Archival description
National Assembly for Wales Archive Cyfres / Series Welsh
Print preview View:

Y Pwyllgor Ariannu Ysgolion (A-DEB-44),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, dogfennau print a gohebiaeth.
Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd adolygu holl ffynonellau incwm, pa fodd bynnag y caiff ei gynhyrchu, sy'n creu cyllid ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd a gynhelir; adolygu'r modd y caiff arian ei ddosbarthu rhwng ysgolion a gynhelir, cynradd ac uwchradd ac unedau cyfeirio disgyblion; ystyried effaith cynlluniau'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y DU ar gyllid ysgolion; gwneud argymhellion i Gynulliad Cenedlaethol ynghylch symleiddio'r system a'i gwneud yn gliriach. Archwilio ac adolygu pa mor ymarferol fyddai cyflwyno system ariannu dair blynedd ar gyfer ysgolion.

Y Pwyllgor ar Seilwaith y Rheilffyrdd a Gwella Gwasanaethau i Deithwyr (A-DEB-46),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig. Cylch gorchwyl y Pwyllgor oedd llunio rhaglen o welliannau i seilwaith y rheilffyrdd a gwasanaethau i deithwyr, a hynny mewn perthynas â Chymru. Bydd y rhain yn gyraeddadwy ac wedi'u costio; gwneud argymhellion i'r Cynulliad ynghylch y gwelliannau hynny.

Pwyllgor ar Fesur Llywodraeth Cymru (A-DEB-47),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Diben Mesur Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 8 Rhagfyr 2005, oedd rhoi’r cynigion a amlinellwyd yn y Papur Gwyn, Trefn Lywodraethu Well i Gymru (2005) ar waith. Roedd y Mesur yn darparu ar gyfer newid strwythur, pwerau deddfu a threfniadau etholiadol y Cynulliad. Sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru bwyllgor arbennig, o dan Reol Sefydlog 8.1, i ystyried darpariaethau’r Mesur. Cylch gwaith y pwyllgor oedd ystyried y cynigion a nodwyd yn y Mesur ac i ystyried unrhyw faterion eraill sy’n codi o’r Mesur a bennir gan y Pwyllgor.

Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (A-DEB-15),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Roedd portffolio’r Gweinidogion yn cynnwys Iechyd a'r GIG yng Nghymru; Gwasanaethau cymdeithasol; Gofal cymdeithasol; a Diogelwch bwyd.

Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio (A-DEB-20),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn yn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Roedd y Pwyllgor Penderfyniadau Cynllunio yn gwneud penderfyniadau ar Apelau o dan Adran 78 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (yn yr achosion hynny lle bydd y Cynulliad wedi adfeddiannu awdurdod ar gyfer penderfynu'r apêl oddi wrth yr Arolygydd penodedig); Ceisiadau am ganiatâd cynllunio sydd wedi'u galw i mewn gan y Cynulliad ar gyfer penderfyniad o dan Adran 77 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; a Cheisiadau am gadarnhau Gorchymyn a wnaed o dan Ddeddf Trafnidiaeth a Gwaith 1992.

Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio (A-DEB-28),

Ffeiliau Ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor. Gall y ffeiliau hyn cynnwys yr agenda ar gyfer y cyfarfodydd, cofnodion, adroddiadau, gohebiaeth, gwahoddiadau a mynychwyr, ac eitemau printiedig.
Roedd cylchwaith y Gweinidogion yn ymwneud â rhaglen y llywodraeth i adfywio cymunedau Cymru, yn enwedig y rheini sy'n dioddef yr anfanteision mwyaf. Roedd yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf; mentrau gwrth-dlodi; yr economi gymdeithasol; y sector gwirfoddol; diogelwch cymunedol a chysylltiadau â'r heddlu; y gwasanaeth tân; camddefnyddio cyffuriau ac alcohol; a cyfiawnder ieuenctid a thai.

Results 81 to 100 of 121