Rhestr o'r lleoedd yr ymwelodd TGJ â nhw, bore a phrynhawn 26 Hydref,
- B524.
- Ffeil
- 1937.
Rhestr o'r lleoedd yr ymwelodd TGJ â nhw, bore a phrynhawn 26 Hydref 1937.
36 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Rhestr o'r lleoedd yr ymwelodd TGJ â nhw, bore a phrynhawn 26 Hydref,
Rhestr o'r lleoedd yr ymwelodd TGJ â nhw, bore a phrynhawn 26 Hydref 1937.
Er Cof, englynion a sonedau coffa, etc. [1914-45]. Ceir soned i Edward Anwyl ['Syr Edward Anwyl', The Welsh Gazette, 13 Awst 1914, t. 2]; Owen Edwards, 'Y Dewin' (Er Cof am Syr Owen Edwards) '[Cymru, LX, 1921, t. 46]'; Gwynfor, 'Yr Hen Actor' (aeth o yn berffaith ifanc) [Baner ac Amserau Cymru, 8 Hydref 1941, t. 1], ynghyd â llythyr oddi wrth ei weddw, Madge W. Jones, 8 Hydref 1941, yn nodi geiriau olaf ei gwr; 'In Memoriam D[avid] V[aughan] T[homas]'; 'Ar Fedd Stanton Roberts' (6 Ionawr 1940) a 'Prosser Rhys' ['Y Wên', Baner ac Amserau Cymru, 14 Chwefror 1945, t. 1].
Dyddiadur 1922 ond yn cynnwys cerddi a ysgrifennodd TGJ yn ystod y cyfnod 1923-29. Ysgrifennwyd nifer o'r cerddi yng Nghorc, Medi 1923, ynghyd â rhai sylwadau cyffredinol amdanynt. Ceir cyfieithiadau i'r Saesneg o 'Y Fun Fud' ac 'Atgof' i gerddoriaeth gan D[avid] de Lloyd ar gyfer cyngerdd yn Aberystwyth ac o englynion Robert ap Gwilym Ddu.
Barddoniaeth 1940-43. Yn eu mysg mae 'Mac (a laddwyd, 23 Gorff. 1940)' [Y Wawr, III, 3, tt. 50-1]; 'Bendith Ddewi', [Trysorfa'r plant, LXXXI, 1941, t. 60]; 'Ffordd yr holl ddaear' [Yr Efrydydd, VII, 1942, t. 6]; 'Blinder' [Llafar, III, 1, 1953, t. 4] ac 'Enlli' [Y Winllan, LXXIV, 1921, t. 186].
Darnau amrywiol o farddoniaeth. Yn eu plith mae 'Y lle bûm yn gware gynt', [Baner ac Amserau Cymru, 2 Hydref 1940, t. 4]; 'Ein Tad o'r Nef, doed arnom ni ...', emyn yng ngwasanaeth priodas Miss Nest Jones a Mr John Hughes Lewis, Y Capel Mawr, Dinbych, 31 Mawrth 1942, printiedig; Carol: Ewyllys Da, 'Ymryson oedd yn llenwi'r byd ...', y geiriau gan TGJ a'r gerddoriaeth gan Wm James, Llanbadarn Fawr, printiedig; ['Breuddwyd y Telynor, yn llanc yng Nghymru gynt ..., cyfansoddwyd ar gais W. S. Gwynn Williams, 1935], teipiedig; 'Symffoni annerch i D[avid] V[aughan] T[homas], Onid teg y cenit ti ...', 2 Gorff. 1922, ar gefn y ddalen olaf ceir englynion, etc. wedi eu copïo oddi ar gerrig beddau ym mynwent Gyffylliog; 'Kywydd Priodas a gant Gwynn vab Iwan brydydd o dref Gaernarfon i Wilym Sion Grvffydd athro o ddinas Gaer Dyf a Gwenda verch Ifan athrawes hithau o Gaer Dyf yn y vlwyddyn mil a naw cant o Oed Crist'.
Cyfieithiadau i'r Ffrangeg o rai o'i brif weithiau [cyn 1926]. Gofynnwyd iddo wneud y cyfieithiadau hyn oherwydd y bwriad o wneud cais am wobr Nobel iddo. Ond datgelodd rhywun y gyfrinach i'r Wasg ac oherwydd hynny gwrthododd gael ei enwebu ar gyfer y wobr. Ceir cyfieithiadau o 'Madog', 'Broséliáwnd' ('Brocéliand sef rhydd gyfieithiad gan Arthur ap Gwynn), 'Anatiomaros' a 'Pelydryn' ('Rayon'). Ffrangeg/French.
Gweith Argoed Llwyvein: darganfyddiadau'r Dr Dreistaub gan S. O. Brédasant, PhD Dulyn, Gwasg y Frân Ddu, 1943, 'sy'n enghraifft o ddawn nodedig Gwynn Jones i dynnu coes' (gweler David Jenkins (gol.), Bro a Bywyd, t. 71). Llawysgrif, gwahanlith a chopi printiedig, ynghyd â llythyr oddi wrth TGJ, 12 Gorffennaf 1943 at [W. Emyr Williams, Aberystwyth] a phroflenni wedi'u cywiro.
Llawysgrifau Dyddgwaith (1937), yn bennaf a rhai ysgrifau eraill,
Drafftiau etc. ar gyfer cofiant Thomas Huws Davies (1882-1940), a ymddangosodd yn Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion (1940). Saesneg/English.
Awdl i 'Tórna' (cymh. y gyfrol wedi'i rhwymo) 'Awdyl a gant, Fionn Mac Eoghain i Torna brivard Iverdon' a throsiadau o'r Wyddeleg.
Copïau o gerddi Angharad Llwyd, yn bennaf,
Introduction to Literature. Course Notes,
Chwedloniaeth Llyfr Taliesin - crynodeb,
Dychan ac Ymryson. Bravura, Madog Dwygraig, D. ap G., Iolo Goch (yn bennaf),
Saesneg/English.