- A5/1
- ffeil
- 1918
Llawysgrif traethawd MA Griffith John Williams, 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'.
Llawysgrif traethawd MA Griffith John Williams, 'The verbal forms in the Mabinogion and Bruts'.
Bwndel o nodiadau, y tudalennau wedi eu rhifo E1-372, yn ymwneud â hanes y beirdd, yr Orsedd, ayyb.
'Eisteddfodau'r Gwyneddigion, II'
Llawysgrif ail erthygl G. J. Williams ar eisteddfodau'r Gwyneddigion. Gweler hefyd Y Llenor, XV (1936).
Bwndel o nodiadau amrywiol ac anghyflawn yn ymwneud yn bennaf ag eisteddfodau unigol.
'Mudiadau llenyddol, crefyddol, eisteddfodol a chymdeithasol ...'
Llawysgrif darlith yn dwyn y teitl 'Mudiadau llenyddol, crefyddol, eisteddfodol a chymdeithasol yng Nghymru o'r fl. 1790-1820', ynghyd â nodiadau perthynol.
Llawysgrif darlith yn dwyn y teitl 'Eisteddfod y Cymry'.
Nodiadau darlithoedd ar yr Eisteddfod.
'Gorsedd y Beirdd a'r Seiri Rhyddion'
Nodiadau ar gyfer erthygl yn dwyn y teitl 'Gorsedd y Beirdd a'r Seiri Rhyddion'. Gweler hefyd Llên Cymru, VII (1966).
'Yr Eisteddfod yn y 18G a'r 19G'
Llawysgrif darlith yn dwyn y teitl 'Yr Eisteddfod yn y Ddeunawfed Ganrif a'r Bedwaredd ganrif ar Bymtheg'.
Bwndel o nodiadau ac adysgrifau o lawysgrifau'r Llyfrgell Brydeinig.
Llawysgrif erthygl yn dwyn y teitl 'Yr Eisteddfod a'r Orsedd'; ynghyd â phapurau perthynol amrywiol. Gweler hefyd Y Llenor, I (1922).
Nodiadau byr, gan fwyaf, ar unigolion megis Theophilus Evans, Edward Samuel, Silvan Evans, Thomas Richards, Edward Kyffin, John Walters (ynghyd ag amlen yn cynnwys 'John Walters a'i feibion, a Rhys Thomas, yr argraffydd'), aelodau teulu'r Myddleton, Ieuan Fardd, Angharad Llwyd, Thomas Edwards ('Twm o'r Nant'), Thomas Evans ('Tomos Glyn Cothi'), John Penri, Syr John Wynn o Wydir, Thomas Pennant, Goronwy Owen, Griffith Jones, Llanddowror, a Dr William Parry.
Owain Myfyr a'r Dr William Owen Pughe
Darlithoedd ar Owain Myfyr a William Owen Pughe, gan gynnwys 'Cymry Llundain yng nghyfnod Owain Myfyr a'r Dr William Owen[-Pughe]' a 'Hanes Cyhoeddi'r Myvyrian Archaiology'; ynghyd â phapurau perthynol amrywiol.
Papurau'n cynnwys 'Atodiad. Llythyrau eraill at Ddafydd Jones o Drefriw', 1757-1778. Gweler 'Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw', wedi eu copïo a'u golygu gan G. J. Williams yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1943), Atodiad, Cyfres III, rhif 2.
Papurau'n ymwneud ag astudiaeth G. J. Williams o waith Charles Edwards, gan gynnwys copi llawysgrif o'i ragymadrodd i'r gyfrol Y Ffydd Ddi-ffuant, ..., gan Charles Edwards (1936), a llythyrau perthynol, 1935.
Papurau'n ymwneud ag astudiaeth G. J. Williams o waith Edward Lhuyd, gan gynnwys llawysgrif o Ddarlith O'Donnell a draddodwyd ganddo, 5 Mai 1959. Ceir hefyd nodiadau, adysgrifau a chyfeiriadau at ohebiaeth a llawysgrifau Edward Lhuyd mewn gwahanol ffynonellau, yn arbennig yn Rhydychen.
Papurau G. J. Williams, [1930x1945], ar 'Ramadeg Cymraeg' Gruffydd Robert. Maent yn cynnwys nodiadau, adysgrifau, darlithoedd, erthygl, sgript radio, ac ychydig lythyrau.
Darlith yn dwyn y teitl, 'Hanes Geiriaduron Cymraeg'.
Darlithoedd ac erthyglau, yn cynnwys 'Y Wasg Gymraeg Ddoe a Heddiw' (a 'The Welsh Press, Yesterday and Today'); 'Cyhoeddi Llyfrau Cymraeg yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg'; 'Stephen Hughes a'i Gyfnod' (gw. Y Cofiadur, 4 (1926)); ynghyd â nodiadau ar gyhoeddiadau ddiwedd yr ail ganrif-ar-bymtheg.