Dangos 123 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau'r Athro Griffith John Williams ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Gohebiaeth John Jones ('Tegid')

Pum llythyr, 1845-1850, oddi wrth John Jones ('Tegid') at y Parch. R. P. a Mrs Llewelyn, Llangynwyd, gan amgau dau lythyr at yr Archaiologia Cambrensis; ac un llythyr, 10 Mehefin 1846, oddi wrth y Parch. R. P. Llewelyn at 'Tegid'.

Gohebiaeth deuluol

Gohebiaeth deuluol amrywiol, 1868-1961, gan gynnwys llythyrau, 1868-1892 (9), a gyfeiriwyd at ei dad, mae'n debyg; llythyrau at G. J. Williams oddi wrth ei dad, [1911x1931]; cardiau post at GJW a'i wraig, [?1949]-1961 (3); cardiau post, 1922-1938, at ei rieni a'i frawd oddi wrth GJW a'i wraig (7); ac un cerdyn post at GJW oddi wrth Elizabeth, ei wraig.

Enwau priod ac enwau lleoedd

Darlithoedd a nodiadau ar enwau priod ac enwau lleoedd yng Nghymru yn bennaf. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys proflenni'r gyfrol Rhestr o enwau lleoedd (Caerdydd, 1958). Roedd G. J. Williams yn un o'r rhai a fu'n cynghori Elwyn Davies, golygydd y gyfrol, ynglŷn â'r gwaith.

Englynion a cherddi rhydd

Llawysgrif yn cynnwys englynion, carolau a cherddi rhydd gan Elis Roberts, Hugh Jones, Llangwm, Hugh Prichard, Llanbedr, John Jones, David Jones y Goelas, ac Evan Evans, Llanrwst. Fe'u casglwyd ynghyd gan Evan Evans, Llanrwst.

Edward Lhuyd

Papurau'n ymwneud ag astudiaeth G. J. Williams o waith Edward Lhuyd, gan gynnwys llawysgrif o Ddarlith O'Donnell a draddodwyd ganddo, 5 Mai 1959. Ceir hefyd nodiadau, adysgrifau a chyfeiriadau at ohebiaeth a llawysgrifau Edward Lhuyd mewn gwahanol ffynonellau, yn arbennig yn Rhydychen.

Dyddiaduron

Dyddiaduron poced, 1920, 1923, 1925, 1930, 1932, 1934, 1936, 1939, 1939-1940, 1943, 1952, 1956, 1957, 1958, 1959, 1961, yn cynnwys ychydig iawn o gofnodion, ac yn ymwneud yn bennaf â chofnodi dyddiad ac amser darlithoedd a chyfarfodydd pwyllgorau, etc.; ynghyd â llyfr nodiadau yn cynnwys cofnodion manwl am y cyfnod 26 Gorffennaf hyd 2 Awst 1920.

Darlithoedd ac erthyglau

Darlithoedd ac erthyglau'n ymwneud â hanes llenyddiaeth Gymraeg. Yn eu plith ceir y canlynol: 'Llenyddiaeth Gymraeg yn yr Ail Ganrif ar Bymtheg', 'Y Ddeunawfed Ganrif', 'Llenyddiaeth Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Rhyddiaith y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Yr Adfywiad Llenyddol yn y Ddeunawfed Ganrif', 'Traddodiad Llenyddol Sir Ddinbych', 'Traddodiadau Llenyddol Sir Aberteifi', 'Traddodiad Cymraeg Gwent', 'Y Ddysg Farddol a'r Dadeni Cymraeg yn yr 16G', 'Dafydd ap Gwilym', 'Telynegwyr y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', 'Yr Anterliwt Cymraeg II', 'Beirniadaeth Lenyddol', 'Llyfrau Prin', 'Diwylliant Cymreig', a 'Cyhoeddi Llyfrau'.

Darlithoedd

Darlith a draddododd G. J. Williams yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, yn seiliedig ar arddangosfa o bortreadau rhai o enwogion Cymru; darlith yn dwyn y teitl 'Tri Chan Mlwyddiant yr Annibynwyr', ynghyd ag ychydig nodiadau ar Undodiaeth yn Sir Aberteifi.

Dafydd Jones o Drefriw

Papurau'n cynnwys 'Atodiad. Llythyrau eraill at Ddafydd Jones o Drefriw', 1757-1778. Gweler 'Llythyrau at Ddafydd Jones o Drefriw', wedi eu copïo a'u golygu gan G. J. Williams yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (1943), Atodiad, Cyfres III, rhif 2.

Cyfieithiadau Mary Catherine Llewelyn

Llawysgrif yn cynnwys casgliad o gyfieithiadau Saesneg, [?1839]-1876, gan, ac yn llaw, Mary Catherine Llewelyn, gwraig y Parch. R. Pendrill Llewelyn, ficer Llangynwyd, Morgannwg, 1841-1891, o farddoniaeth gan Lewis Glyn Cothi, William Hopkin, Llangynwyd, a Thaliesin; ynghyd â chyfieithiadau o gerddi eraill a gyhoeddwyd yn y Myvyrian Archaiology, ac emynau gan William Williams, Pantycelyn. Ceir hefyd torion yn cynnwys cerddi Cymraeg, gyda chyfieithiadau Saesneg, a godwyd o The Cambrian, Central Glamorgan Gazette, y Western Mail a Notes and Queries.

Canlyniadau 81 i 100 o 123