Print preview Close

Showing 132 results

Archival description
Papurau Iorwerth C. Peate, file
Print preview View:

Maes-y-coed

Papurau, gohebiaeth yn bennaf, 1969-1982, yn ymwneud â chartref Iorwerth Peate, sef Maes-y-coed, St Nicholas, sir Forgannwg, yn eu plith dogfennau yn gwrthwynebu datblygiadau cynllunio yn yr ardal.

Plaid Genedlaethol Cymru : Cangen Caerdydd

Llyfr cofnodion Cangen Caerdydd a'r Cylch o Blaid Genedlaethol Cymru, 1930-1934, gyda rhestr aelodau yng nghefn y gyfrol. Ffurfiwyd y Gangen yn 1930, a bu Iorwerth Peate yn Is-lywydd, a Nansi Peate yn Ysgrifennydd yn 1932.

Lewis, Saunders, 1893-1985

Dyddiadur : 1880

Dyddiadur yr Annibynwyr a T. J. & J. Smith's Commercial Scribbling Diary, 1880.

Peate, George H. (George Howard), 1869-1938

Capel Llanbrynmair

Cyfrol yn dwyn y teitl 'Ysgolion Lyfr . . . Neu Lyfr i gadw Cyfrifon y chwech ysgol a berthyn ir Cappel issaf yn Llanbrynmair', 1822-1830 a 1834; a sy'n cynnwys 'Cyhoddiadau y Capel', 1849-1850. Yng nghefn y gyfrol ceir 'Cyfraniadau tuagat orphen talu Dyled y Capel a'r Ysgoldai'.

Llythyrau

Llythyrau, 1890-1933, at George H. Peate, yn eu plith rhai gan David Adams; Richard Bennett (6); Beriah Gwynfe Evans; D. Emlyn Evans; Owen Evans (9); Thomas Gee (2, mae un yn lythyr cydymdeimlad ar achlysur marwolaeth David Peate); W. Goscombe John (3); J. R. Jones (Lima, Ohio); Thomas H. Jones (Lima, Ohio) (9); J. E. Lloyd (2); T. Talwyn Phillips (11); Eifionydd (5); a Rowland Williams (Hwfa Môn). Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys toriad o deyrnged i George H. Peate, cerdyn yn diolch i bobl ar ran y teulu am eu cydymdeimlad, 1938, a rhestr deipysgrif o'r rhai i anfon atynt.

Adams, D. (David), 1845-1923

Tystysgrifau

Tystysgrifau ysgol a choleg, 1917-1920 a 1923. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys taflen Machynlleth County School Annual Speech Day, 1920, sy'n nodi fod Annie Davies wedi derbyn Tystysgrif Uwch yn arholiadau Bwrdd Canol Cymru.

Papurau amrywiol

Papurau amrywiol, 1873-1978, yn ymwneud â theulu Iorwerth Peate. Maent yn cynnwys llythyrau yn bennaf sydd wedi eu cyfeirio at amryw o'r teulu, ac yn eu plith ceir llythyrau gan berthnasau yn yr Unol Daleithiau, megis Maurice Pate (3); brawd Iorwerth Peate, Dafydd; ei dad George H. Peate; David Peate; a llythyr, 1930, gan Iorwerth Peate at ei chwaer Morfudd gyda chopi o'r gerdd 'Adar To yn Chwefror'. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys cytundeb, 1873, rhwng David Peate ac Evan Davies ynglŷn â gosod Glanllyn; ewyllys ei fam Elizabeth Peate, 1939; a thaflenni gwasanaethau coffa ac angladd aelodau'r teulu, 1974, 1977-1978.

Pate, Maurice, 1894-

Llythyrau D

Llythyrau, 1925-1982, gan gynnwys rhai oddi wrth Kevin Danaher (5); Glyn Daniel (3); Aled Lloyd Davies; Alun Creunant Davies (7, rhai ohonynt yn ymwneud â Rhwng dau fyd); Alun Oldfield-Davies (3); Alun Talfan Davies (4); Catrin Puw Davies; Idris Davies (2); Ithel Davies (4); Eirian Davies (4); Jennie Eirian Davies (7); J. Glyn Davies (3); Pennar Davies (2); a Tomas de Bhaldraithe (3). Ymhlith yr ohebiaeth mae llythyrau yn ymwneud ag ewyllys Iorwerth Peate, a thir yn ymyl ei gartref, Maes-y-coed.

Danaher, Kevin

Llythyrau E

Llythyrau, 1926-1982, gan gynnwys rhai oddi wrth Alun R. Edwards; J. M. Edwards; W. J. Edwards; Islwyn Ffowc Elis (5, yn cynnwys ei feirniadaeth ar gyfer cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, 1965); Mari Ellis; Osian Ellis; Sam Ellis (16); Sigurd Erixon; Huw Ethall (3); A. W. Wade-Evans (12); Emlyn Evans; George Ewart Evans (164); Gwynfor Evans (8); a Meredydd Evans (3).

Edwards, Alun R. (Alun Roderick), 1919-1986

Llythyrau M

Llythyrau, 1917-1979, gan gynnwys rhai oddi wrth S. F. Markham (2, yn cynnwys copi o'r daflen Museums and war-time publicity); Howard Wight Marshall; Basil Megaw (3); Huw Menai; Meuryn (4); H. Harries Meyler (6, yn cynnwys dau lythyr at Nansi Peate); D. Eirwyn Morgan (2); Derec Llwyd Morgan; Dyfnallt Morgan (3); Herbert Morgan (4); John Morgan (21, yn eu plith rhai gan Elena Puw Morgan); Kenneth O. Morgan (4); Prys Morgan (8); T. J. Morgan (5); Carey Morris; E. Ronald Morris (4); R. Hopkin Morris (2); a J. Middleton Murry (31).

Markham, S. F. (Sydney Frank), b. 1897

Llythyrau O

Llythyrau, 1928-1981, gan gynnwys rhai oddi wrth Tomás Ó Cléirigh (2); Séamus Ó Duilearga (73, yn cynnwys teyrnged iddo gan Iorwerth Peate); Seán P. Ó Ríordáin; Magne Oftedal (22); Peter Opie; Harold Orton (2); Bob Owen (7); Emrys Bennett Owen (6); J. Dyfnallt Owen (5); R. G. Owen (10); a Trefor M. Owen (28).

Ó Cléirigh, Tomás

Llythyrau S

Llythyrau, 1923-1982, gan gynnwys rhai oddi wrth Stewart Sanderson (24); Anders Sandvig; H. N. Savory (2); R. U. Sayce; Elfyn Scourfield (yn cynnwys geirda gan Iorwerth Peate); Glyn Simon (2); Robin Simon (2); P. Smith (3); Alf Sommerfelt (11); Axel Steensberg (2); Meic Stephens (6); a Dag Strömbäck (3).

Sanderson, Stewart

Results 81 to 100 of 132