Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

Llyfr log, 7 Chwef. 1843-23 Ebrill 1845,

Yn cynnwys 'Remarks on Board the Schooner Six Brothers of Portmadoc', wedi'i gadw gan y mêt William Owen [taid EW]. Cofnodir teithiau rhwng Porthmadog a Southampton, Caerloyw, Lerpwl, a lleoedd eraill yn Lloegr, a New Ross, Iwerddon. 131 ff.

Llyfr nodiadau bychan.

('Elizeus Williams. Copy or dyn ffwdanus, a phethau eraill' ar y clawr) yn cynnwys traethawd ar 'Y dyn ffwdanus' (ff. 1-9), a cherddi amrywiol (ff. 9v-12).

Cerddi ar gyfer Cylchwyl Lenyddol Salem, Porthmadog,

Cerddi llawysgrif a gyfansoddwyd ar gyfer Cylchwyl Lenyddol Salem, Porthmadog, Dydd Calan 1885, fel a ganlyn. 10 ff. Ff. 1-4: Hir-a-thoddeidiau (4) 'Beddargraff Mr Owen Morris', gan "Calon Ddrylliog", "Cydymdeimlydd", "Goronwy", a "Gwylaidd". Ff. 5-6: 'Boreu Sabbath', gan "Ystyriol". F. 7: 'Anerchiad Barddonol. "Cyfiawnder"'. 2 fersiwn. F. 8: 'Englynion (Anerchiad) i'r Llywydd Cynhaiarn'. Ff. 9-10: 'Organ Newydd Salem (rhoddedig gan Miss Morris, er coffadwriaeth am ei hanwyl frawd Mr Owen Morris)', gan "Caniedydd Israel" a "Hoff ohoni".

Copïau o gerddi nas cynhwyswyd yn un o'r casgliadau cerddi,

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gerddi Cymraeg a Saesneg nas cynhwyswyd yn un o'r casgliadau cerddi. Fe'u ffeiliwyd yn fras yn nhrefn yr wyddor yn ôl teitl neu linell gyntaf. Teipysgrif oni nodir yn wahanol. Ar f. i ceir rhestr, yn llaw EW, o 34 o'r cerddi. i, 70 ff. F. 1: 'Yr Aelwyd Gymreig' (soned), gan "Mab y Bwthyn". F. 2: ['Yr Allwedd']. Englyn yn dechrau 'I gloi drws, diogel ei dro...', gan "Llaes Gymun" ['omit' wedi'i nodi mewn pensil]. Ff. 3-4: 'Anlwc Rhys'. Printiedig. 2 gopi. F. 5: 'Anthem Goffa', 1921 (gweler rhif 142). F. 6: 'Ar Wyl Crist yn dy drist dref...' sef 'Englyn a yrrwyd i Iolo Caernarfon pan gollodd ei briod, Nadolig 1910'. Llawysgrif [cf. rhif 4, f. 79v]. Ff. 7-8: 'Baner Amerig (Cân Genedlaethol)', gan "Cymro a'i câr". Ar gyfer Eisteddfod Utica, 1918. F. 9: 'A Birthday Present' [sef cyfarchiad i'w wraig ar ei phen-blwydd]. Ar y cefn ceir, ar ffurf derbynneb, 6 Awst 1910: "Received of Kind Providence, the sum of Forty years, with heartfelt gratitude, p. pro Nancy Wyn, Her sweetheart still, Eifion.". Ff. 10-11: 'Y Breuddwydiwr' (englynion). 2 fersiwn. Llawysgrif; teipysgrif. Ar f. 10v ceir copi printiedig hir-a-thoddaid 'Y Rhaiadr' gan "Cwmdyli", Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 1906. F. 12: 'Bu fyw yn ddoeth...'. F. 13: 'Cadw'r Nadolig'. Toriad papur [cf. rhifau 1, f. 19v; 3, f. 38; 4, ff. 65v-6v]. F. 14: 'Calennig', Calan 1915. Printiedig. F. 15: 'Cân bêr a phader y ffydd...' gan "Cyffeswr". F. 16: 'Cân Cadeirio'. Ff. 17-18: 'Canwn glod y diwrnod hwn...' (penillion i'w canu gyda'r delyn ar ddydd cyhoeddi Eisteddfod Corwen, 1918). Ff. 19-24: [Cyfarchion y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd; cf. rhif 4, f. 48]. F. 25: 'Y Diwygiad'; 'Yn Erw Duw (Garn, Nos Olaf 1904)'; 'My Christmas Guest'. Ff. 26-8: 'Dydd yr Eisteddfod', gan "Wil Bryan". F. 29: 'Y Dymhestl' (cywydd; Eisteddfod Gadeiriol Corwen, 1906), gan "Llyr". Ar f. 29v ceir englyn 'Yr Afr' [gweler O Drum i Draeth, t. 18]; a dau englyn 'Llythyr' gan "Fyth yr eiddoch" a "Hen Ffryndia". F. 30: 'Ei bryd ar ddiweirdeb roes...' gan "Mynach Du". F. 31: 'Y Geninen' (englyn), gan "Hoff o'i Gwisgo" a "Gwyllt Walia". F. 32: 'Y Geninen'; 'Y Ddraig Goch'. Dau englyn gan "Cymro Pur". F. 33: 'Glawog yw heddyw, ac ni chair...'. Ff. 34-5: 'Gwarcheidwaid yr Undeb', Hydref 1905. Teipysgrif; toriad papur ('Molawd i raslonrwydd gwarcheidwaid Cantre'r Gwaelod', gan "Craff Clywedog"; y gerdd wedi'i cham-briodoli i Garneddog). F. 36: 'Gwyllt Walia'. Printiedig. Ff. 37-9: 'Gyda Christ ("Yn iach heb boen na braw")', Chwefror 1916. Llawysgrif; teipysgrif [cf. rhif 1, f. 28v]. F. 40: 'Gymru Wen' ('Alaw: "Mentra Gwen"'). Cyfaddasiad. Printiedig. F. 41: 'Yr Hedyn Mwstard'. Teipysgrif a llawysgrif [cf. rhif 4, f. 69]. F. 42: '"Hedd Wyn" (ar gyfer y Cyfarfod Coffa yn Nhrawsfynydd)'. Toriad papur. F. 43: 'Yr Hen Drugareddau' ('Tôn: "Triumphant"'). Toriad papur [cf. rhif 7, f. 12]. F. 44: 'Yr Hen Nadolig' [cf. rhifau 1, f. 19v; 3, f. 38; 4, ff. 65v-6v]. Ff. 45-6: 'Huno y Mae' [cf. rhif 1, f. 29v]. F. 47: 'Hwyrddydd Haf' (soned), gan "Bardd y Bryn". F. 48: 'Llawdden'; 'Dewi Ogwen'. Dau hir-a-thoddaid. Printiedig [cf. rhif 8, f. 9]. Ff. 49-52: 'Y Llif'. Teipysgrif; printiedig. F. 53: 'Llygad y Dydd' (englyn; Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead, 1917), gan "Y Feinir Fach". F. 54: 'Mot'. Printiedig. F. 55: 'Y Murddyn' (soned), gan "Tan yr Allt". Printiedig. Ff. 56v-7v: 'Ni Bydd Nos Yno' (buddugol yn Eisteddfod y Temlwyr Da, Lerpwl, 26 Rhag. 1895). Printiedig. Ff. 58-9: 'The Old Seafarer' (soned), gan "Twm Pen Ceunant". F. 60: 'Y Rhyd'. F. 61: 'Su y Môr' [cf. rhifau 1, f. 16v; 3, f. 33]. F. 62: 'Unwaith eto yn eich cartre'...' ('Alaw : "Unwaith eto Nghymru annwyl"'). Printiedig. Ar f. 62v ceir nodyn gan J. W. J[ones], Blaenau Ffestiniog 'Rhoddodd David Williams eich cyfaill hwn yn fy llaw heno, ei fab oedd yn filwr wedi ei brintio. Mae "mynd" arnynt ym mhob cyfarfod croesaw yma'. F. 63: 'Y Wawr'; ceir darn o'r delyneg 'Hwiangerdd Sul y Blodau' (gweler Telynegion Maes a Môr, t. 10) ar y cefn. Printiedig. Ff. 64-5: 'Wedi'r Angladd' (soned (2); Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1926), gan "A ddwg angau, nid adfer" a'r "Trawiad Plwm". F. 66: 'Y Wlad Annwyl Hon (Alaw: "Glân Medd'dod Mwyn")', Medi 1912. F. 67: 'Yr Wylan' (englyn; Eisteddfod Bae Colwyn), gan "Dafydd ab Gwilym". Llawysgrif [ceir nodiadau ar weddi, etc., ar y cefn]. F. 68: 'Yr Ynys Wen', Mai 1916. F. 69: Cyfres o englynion a phenillion [? a luniwyd gan EW ar gyfer cyfarch bardd cadeiriol Eisteddfod Ieuenctid Dyffryn Madog, c. 1922]. F. 70: Englynion (6) yn coffáu aberth y rhai a laddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Copïau o gyfieithiadau gan EW,

Copïau llawysgrif, teipysgrif a phrintiedig o gyfieithiadau gan EW. 17 ff. Ff. 1-2: 'Cymru: Annerch (cyfieithiad mydryddol "Wales, a Greeting" William Watson)'. Teipysgrif (ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1912); printiedig. Ff. 3-4: 'Y Ddinas Sanctaidd (cyfieithiad o'r "Holy City")'. Teipysgrif. Ff. 5-6: 'Cyfieithiadau o chwe epigram o waith John Owen, yr Ysgolor Lladinaidd', 1906. Teipysgrif. Ff. 7-9: Cyfieithiadau o'r Saesneg i'r Gymraeg ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Wyddgrug, 1923: 'Macbeth, Act V, Scene 5, lines 19-28' a 'The Tempest, Act IV, Scene 1, lines 148-58', gan "Gwell na'i waeth". Teipysgrif. F. 10: 'Mawl rof im Duw'; cyfieithiad [1922] o'r emyn Saesneg 'Thanks be to God' ar gyfer "W. Thomas Griffith, Llundain, gynt o Port" [gweler rhif 146]. Llawysgrif [ceir y geiriau Saesneg ar y cefn]. F. 11: 'Nes daw'r llanciau'n ôl (cyfieithiad o "Keep the home-fires burning")'. Teipysgrif. Ff. 12v-13: 'Sarn y Gwae (cyfieithiad o "Wreck of the Hesperus")'. Printiedig. F. 14: 'Beholding His grief in the night...'; cyfieithiad o'r emyn 'Wrth gofio'i riddfanau'n yr ardd'. Teipysgrif. Ff. 15-16: 'How sweet it is to think at times...'; dau gyfieithiad, gan "In His Steps" a "Faith's Pilgrim", o'r emyn 'Mae'n hyfryd meddwl ambell dro'. Teipysgrif. F. 17: 'The Stars'; cyfieithiad o gerdd EW 'Y Sêr' (gweler Telynegion Maes a Môr, t. 78). Teipysgrif.

'Tafolog' [Richard Davies], Worthen,

Beirniadaethau'r Gadair, Eisteddfod Lerpwl; yn amgau nodyn a dderbyniasai gan un o'i gyd-feirniaid, 'Berw' [Robert Arthur Williams; nid yw'r nodyn hwn yn y casgliad].

J [ ] Jones, Dinas Mawddwy,

Yn danfon cydnabyddiaeth fechan am feirniadu yn yr eisteddfod - bu'n llwyddiant mawr er iddi fethu'n ariannol. Awdl swynol 'Y Bugail'. Wedi cynnig am Gadair Eisteddfod Annibynwyr Ffestiniog ond 'does fawr o gamp ar ei awdl.

Results 81 to 100 of 318