Showing 318 results

Archival description
Papurau Eifion Wyn,
Print preview View:

EW at Cynon Evans,

Yn danfon y penillion [gweler rhif 9, f. 5] ar gyfer yr anthem gan ymddiheuro am yr oedi. Bydd hanner coron yn fwy na digon o dâl amdanynt - caiff fynd i flwch casglu Peredur. 2 Ddrafft.

J. R. Morris, Lerpwl,

Penderfynwyd danfon cydnabyddiaeth o dair gini yr un iddo ef a Pedrog am feirniadu yn Eisteddfod y Ddraig Goch. Beirniadaeth EW ar y 'Myfyrdraethau'. Wedi bwriadu danfon pryddest i Eisteddfod Y Bala.

EW at 'Gyfaill cu',

Dim amser ganddo i gyfieithu dim iddo - mae 'ceisiadau o bob math yn ymdywallt' ar ei ben. Yn dyfynnu ei gyfieithiad o'r gân 'Thanks be to God' [cf. rhif 12, f. 10]. 2 Ddrafft.

John Lloyd, Dolgellau,

Holi am wybodaeth yngl?n â chyfansoddi'r emyn 'Os wyt yn flin o dan dy faich' a ddewiswyd ar gyfer Cylchwyl Harlech, 1923.

E. Tegla Davies, Dinbych,

Cais am ddarn o farddoniaeth ar gyfer Y Winllan. Yn danfon rhodd [copi o Tir y Dyneddon; gweler rhif 416] fel arwydd o'i barch mawr tuag ato.

E. Towyn Jones, Blaenau Ffestiniog,

Daeth y llyfrau heddiw - mae'r Telynegion mewn "full calf" (28s.) yn edrych yn ardderchog. Cyflwyno cyfrol o waith [Robert] Bridges iddo am ei gymwynasgarwch i'r ysgol [gweler rhif 414].

EW [at E. Towyn Jones],

Diolch am y gyfrol [gweler rhif 156]. Diolch hefyd am ei ryddhau o'i addewid i ysgrifennu gair o annerch ar gyfer yr argraffiad ysblennydd o'r Telynegion [cf. rhif 155].

EW at J. H. [Jones],

Diolch am ei eiriau caredig. Nid yw'n hanner da - ond nid yw am farw eto! Gresyn na châi dreulio mis neu ddau yn ucheldir Eifionydd - dyna ei Afallon ef.

EW at 'Wil Ifan',

Cyflwr ei iechyd; go wachul yw Tryfanwy yntau. Diolch am ei gynnig caredig ond mae eisoes wedi hanner cytuno â chyhoeddwyr yngl?n â'i gyfrol nesaf. Llith Gaianydd Williams yn y Genedl Gymreig [ar y cefn ceir llythyr Saesneg oddi wrth EW at Fred Griffith, Local Taxation Office, Caernarfon, yn ei hysbysu nad yw am godi trwydded gwn].

Results 81 to 100 of 318