Showing 503 results

Archival description
Papurau R. Williams Parry
Print preview View:

Brwydr Prifysgol Bangor,

Gohebiaeth yn ymwneud â’r frwydr academaidd rhwng R. Williams Parry a Syr Ifor Williams ynglŷn â’i statws fel darlithydd yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, ynghyd ag adysgrifau o ohebiaeth rhwng R. Williams Parry a D. Emrys Evans, Prifathro’r coleg, 1932-33, a chopi teipysgrif o erthygl Tom Parry, ‘Enaid digymar heb gefnydd’ a gyhoeddwyd yn Y Traethodydd, Gorffennaf 1972.

Parry, Thomas, 1904-1985

Llythyrau'n llongyfarch R. Williams Parry ar ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn, 1910, gan gynnwys llythyrau oddi wrth ...,

Llythyrau'n llongyfarch R. Williams Parry ar ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Bae Colwyn, 1910, gan gynnwys llythyrau oddi wrth y canlynol:. [T.] Gwynn Jones, Aberystwyth [telegram] (rhif 319);. 'Alafon' [Owen Griffith Owen] (rhif 330). 'Dy Ewythr H' [Henry Parry-williams], Rhyd-ddu (rhif 332). Rich[ard] Williams, 'Croesfryn' [barddoniaeth annerch] (rhif 342). 'Y 'Riginal' [englyn] (rhif 343).

Llythyrau R. Williams Parry At Aneirin Talfan Davies,

Llythyrau (copiau ffotostat) oddi wrth R. Williams Parry at Aneirin Talfan Davies, wedi eu hysgrifennu rhwng 1937 a 1949. Dynoda 'X' ar y llythyrau y rhai hynny y dymunai Aneirin Talfan Davies ddyfynnu ohonynt ar gyfer erthygl yn trafod gwallau argraffu [gw. rhif 717].

Results 81 to 100 of 503