Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 2204 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Carneddog Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Thomas Jones,

Cerrigellgwm, Ysbyty Ifan. Trafod cyfrol newydd a llenorion yn gyffredinol. Sôn am ymweliad i'r Carneddi ac afiechyd Evan Roberts [] Llandderfel. Ofni am nad atebodd Bob Owen ei lythyrau yn cynghori Carneddog i gyhoeddi darnau adrodd i blant.

Thomas Jones,

Cerrigellgwm, Ysbyty Ifan. Llythyr byr ynglyn â chyfrolau Carneddog a llyfrau o eiddo D. Owen.

Thomas Jones,

Cerrigellgwm, Ysbyty Ifan. Llythyr difyr gydag ychydig o hanes diwrnod yng nghwmni Eifion Wyn a hanes trafferthion teuluol.

Thomas Jones,

Cerrigellgwm, Ysbyty Ifan. Achwyn am lenladrad gan Mynyddog a gofyn am wybodaeth ar gyflog llafurwr amaethyddol ym Meddgelert rhwng 1825 ac 1870.

Sam Jones,

Tregarth, Bethesda. Cerdd briodasol yn gyflwynedig i Jennie ac Idris.

S. E. Jones,

Wrecsam. Anfon llyfr at Carneddog er mwyn ei diweddar briod 'Ehedydd Eifion' (Robert Jones, 1860-1936), er mwyn diolch am yr hyn a roddodd Carneddog yn y 'Manion'.

Rowland Jones,

Swyddfa'r Post, Llaniestyn. Gofyn i Garneddog roi cerdd goffa [John Phillips] yn y 'Manion' ar ran Miss a Mr Williams.

Rowland Jones,

Swyddfa'r Post, Llaniestyn. Holi hynt penillion coffa John Phillips, Bwlch-y-groes Isaf (cerdyn post).

Rowland Jones,

Swyddfa'r Post, Llaniestyn. Diolch am benillion coffa y diweddar John Phillips, Bwlch-y-groes. Cywiro enw'r ffarm (cerdyn post).

Rowland Jones,

Swyddfa'r Post, Llaniestyn, Pwllheli. Diolch am gopi o O Greigiau'r Grug.

Erfyl Fychan,

Ty'r Ysgol, Llanerfyl. Llythyr yn gofyn cymorth Carneddog ynglyn â'i thesis ar Hen Faledwyr a Thelynorion o 1780 hyd 1890.

Erfyl Fychan,

Ty'r Ysgol, Llanerfyl. Llythyr yn gofyn cymorth Carneddog ynglyn â thraethawd.

Robert J. Jones,

[Llyfrgell] Llanrwst. Archebu copïau o Blodau'r Gynghanedd. (cerdyn post).

Canlyniadau 81 i 100 o 2204