Diolch am daffi. Torrodd ei thad ei ddant blaen wrth fwyta peth ar y slei. Trafod amgylchiadau ysgol, y tywydd gaeafol a steil ei gwallt. Holi am gydnabod. Bu'n defnyddio tobogan dros y Sul gyda'i ffrindiau a chael rhai anafiadau. Saesneg/English.
Diolch am gopi o O Gors y Bryniau. Campus. Gallai yntau ysgrifennu stori fer am hanes ei ymweliad ef a'i ffrindiau i Baris yr haf blaenorol. Gellid meddwl o ddarllen Y Darian bob wythnos mai KR oedd Prif Gwnstabl Aberdâr. Mae tysteb i Ben Davies [Pant-teg] ar waith. Mae'n cynnwys hanesyn am Ben Davies yn mynd i bregethu i Ddefynnog yr haf cynt.
Diolch am anfon gwaith 'Twm o'r Nant'. Mae'n canfod bod ei Gymraeg yn anodd i'w gyfieithu. Mae'n bwriadu cael cymorth myfyriwr ym Mhrifysgol Rennes i gyfieithu ar y cyd. Mae'n dda ganddo ddeall bod pethau'n well o safbwynt diwydiant ym Mhrydain. Nid oedd yn hoffi ysgrifennu yn ystod y Streic rhag i'w lythyr fynd ar goll. Mae'n anfon llyfr taith bychan am Finistère. Saesneg/English.
Diolch am lythyr ac am anfon drama. Bydd yn addas iawn ar gyfer ei chyfieithu. Hoffai dderbyn rhywfaint o waith 'Twm o'r Nant'. Maent yn llanw'r bylchau yn eu hiaith trwy gyfieithu eitemau Cymraeg a Gwyddeleg. Dechreuwyd cyfieithu'r Mabinogion a rhai chwedlau Gwyddelig. Awgrymu ardaloedd o Lydaw a fyddai'n addas ar gyfer gwyliau haf. Saesneg/English.
Diolch i KR am ei hysgrif ar Miss Morfudd Huws. Fe ymddengys yn rhifyn Mawrth o'r Dysgedydd. ["Miss Morfudd Llwyd Huws M.A.", Y Dysgedydd 1926, tt 76-9]. Mae KR yn cyfeirio at y ffaith fod Mudiad y Myfyrwyr yn amhoblogaidd. Byddai ysgrif gan rywun a wyr beth sy'n bod yn lles mawr. Os teimla KR fel gwneud hynny bydd yn dda iawn ganddo gyhoeddi'r eitem.
Mae'n diolch i KR am ofyn iddynt argraffu Deian a Loli. Cyngor iddi ynglyn â marchnata'r llyfr. Mae Tom Morgan, yr arlunydd, yn paratoi 19 o luniau i gyd. Mae'n gofyn am flaendal o £50. Saesneg/English.
Diolch i KR am gywiro stori o'i heiddo. Mae'r iaith wedi newid tipyn ers i'r stori ymddangos gyntaf yng Nghymru'r Plant. Mae ei llyfr Cerrig y Rhyd yn cael ei ddefnyddio yn yr ysgolion. Trafod rhagoriaeth ffurf seml y ferf ar y ffurfiau cryno. Canmol rhai o storïau KR ac awgrymu y dylai lunio drama Saesneg i roi darlun cywir o fywyd Cymru.
Diolch i KR am ei chyfraniad diweddaraf i'r Ddraig Goch ["Ysbryd Crefft Ymhlith Merched", Y Ddraig Goch, Hydref 1926, t 6] - y peth gorau o ddigon ers "Ysbryd Crefft" Gwynn Jones ["Ysbryd Crefft", Y Tyddynnwr, Chwefror 1923, tt 181-93]. Ni ddylai adael i'r Blaid gymryd ei holl hamdden, er bod hynny yn beth rhyfedd iddo ef ei ddweud fel Llywydd y Blaid. Rhaid iddi ysgrifennu nofelau, mae hynny'n llawn cystal gwaith yn y pen draw i'r Blaid ag yw sefydlu cangen. Mae arno ofn pwyllgor y Blaid yng Nghaernarfon - maent yn wyllt a diddoethineb. Da ganddo fod H. R. Jones yn mynd i Aberystwyth i fod dan ddylanwadau gwell. Dylai Undeb Athrawon Cymru fynnu gan awdurdod addysg y Rhondda gydnabod yr Undeb ar yr un tir â'r N.U.T. Byddai cylchgrawn yn beth da ond golygai lawer o waith i rywun. Rhybuddio KR i beidio â bod yn olygydd iddo. Mae'n gweld angen undeb awduron Cymraeg i fynnu telerau teg gan gyhoeddwyr.
Copi o gais am swydd gan KR yn ei llaw ei hunan, yn rhestru ei chymwysterau a'i gyrfa hyd ei dyrchafu'n bennaeth adran yn Aberdâr yn 1920. Cynhwysir hefyd ddyfyniad o adroddiad yr Arolygydd Ysgolion yng Ngorffennaf 1925 yn canmol ei gwaith yn athrawes Gymraeg. Ceir hefyd adysgrifau o dystlythyrau oddi wrth: Margaret S Cook, Aberdâr, 21 Gorffennaf 1924 ac atodiad 29 Mehefin 1926; y Parchedig R Williams, Aberdâr, 21 Gorffennaf 1924; a'r Athro Ifor Williams, Bangor, 22 Gorffennaf 1924. Nodir bod y tystlythyrau wedi eu casglu pan geisiodd KR am swydd prifathrawes yn Ysgol Ganol Llanelli yng Ngorffennaf 1924. Saesneg/English.
Llythyr ysmala yn amgau drama-gerdd a luniwyd ar gyfer Cymrodorion Aberdâr. Hydera fod prysurdeb yr arholiadau drosodd bellach. Sgript "Cainc y Pum Aderyn" yn llaw T Rowland Hughes ynghyd â chopïau carbon o'r caneuon.