Dangos 2492 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], yn Budapest,

Mae'n falch o glywed bod Mr Hughes, cydnabod i KR yn dod i Budapest. Hydera y caiff gyfle i ymweld â hwy. Trefniadau pellach ynglyn â dyfodiad Daisy i Brydain. Lleoliad Daisy ym Mharis. Mae'n cytuno mai i Ysgol Ramadeg Dinbych y dylai Daisy fynd ac nid i Ysgol Howells. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Cathrin [Daniel née Huws], yn Y Bont-faen,

Cafodd flas mawr ar ddarllen Stryd y Glep a sgwrs KR gyda Saunders Lewis yn y gyfrol Crefft y Stori Fer. Bu'n eu darllen yn y gwely tra'n gwella wedi codwm cas. Nid yw'n cofio gwerthfawrogi seibiant gymaint. Y peth a'i trawodd am Stryd y Glep oedd "unplygrwydd diffuant y gwaith a'r treiddgarwch ysbrydol cywir wrth ddilyn tyfiant ysbrydol y wraig glaf ... ni allai neb ond un a arferai fod yn gyson onest â hi ei hun sgrifennu mor llwyr ddadrithiedig â hynny". Caiff flas hefyd ar golofn KR yn Y Faner. Mae'n disgwyl plentyn arall yn ystod y mis dilynol.

Llythyr oddi wrth Daisy [Vészy], yn Rolle, [Y Swistir],

Ni all fynd i Baris gan na ddaeth ei visa. Ei phechod yw bod yn Hwngariad. Mae'n unig iawn gan fod ei ffrindiau i gyd wedi mynd adref. Mae'r prifathro yn ei chasáu ac y mae ei holl eiddo wedi ei bacio'n barod. Gofyn i KR ysgrifennu ati. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth L. [P.] Nemo, ['Roparz Hemon'], ym Mrest,

Diolch am anfon gwaith 'Twm o'r Nant'. Mae'n canfod bod ei Gymraeg yn anodd i'w gyfieithu. Mae'n bwriadu cael cymorth myfyriwr ym Mhrifysgol Rennes i gyfieithu ar y cyd. Mae'n dda ganddo ddeall bod pethau'n well o safbwynt diwydiant ym Mhrydain. Nid oedd yn hoffi ysgrifennu yn ystod y Streic rhag i'w lythyr fynd ar goll. Mae'n anfon llyfr taith bychan am Finistère. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], [Budapest],

Amgau llythyr y prifathro ac adroddiad ysgol Daisy [816 uchod]. Nid yw yn teimlo ei bod yn gwybod popeth am Daisy erbyn hyn gan nad yw wedi ei gweld ers dwy flynedd. Esbonio bod y prifathro yn Y Swistir yn ei gorfodi i adael. Digwyddodd oherwydd iddi fynd allan i ganlyn bachgen mewn ysgol breswyl arall. Buont yn hwyr yn talu ei chostau hefyd ac efallai bod hynny'n rheswm arall dros ofyn iddi adael. Esbonio sefyllfa ariannol Daisy pan ddaw i Gymru. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], yn Budapest,

Diolch am ei llythyr caredig. Bu'n lles mawr i'w gwr ar ôl iddynt dderbyn llythyr croes oddi wrth Daisy yn eu hysbysu ei bod am adael Rolle a mynd i Baris heb eglurhad. Maent yn derbyn cynnig KR i ofalu am Daisy yn Ninbych. Da ganddynt glywed na all fynd i Ysgol Howells gan nad ydynt am iddi ddatblygu'n snob fechan. Hwyrach bod merched Americanaidd cyfoethog yn Y Swistir wedi dylanwadu ar Daisy. Mae ei gwr yn disgwyl derbyn £150-250 cyn bo hir. Bydd rhaid cael caniatâd y llywodraeth i'w ddefnyddio mewn gwlad dramor. Awgrymu enw gwesty rhesymol a chyfleus ym Mharis. Da ganddi glywed bod KR yn well. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth G[riffith] J[ohn] W[illiams], yng Ngwaelod-y-garth,

Diolch am y llun a'r llyfr. Esbonio paham y bu cyhyd yn eu cydnabod. Syrthiodd Lisabeth, [ei wraig], yng Nghaerdydd a bu ei llaw mewn plastar am gyfnod ac felly bu'n gorfod gwneud pethau o gwmpas y ty. Bu hi hefyd yn derbyn triniaeth i'w chefn a olygai mynd â hi i'r ysbyty deirgwaith yr wythnos. Ar ben hynny bu'n gyfnod arholiadau. Cafodd flas rhyfeddol ar Stryd y Glep. Hoffai ei gweld yn mynd ati i ysgrifennu nofelau eraill yn y dull hwn. Ei hannog i ysgrifennu nofel hir. Byddant yn mynd ar wyliau i Gerrigydrudion cyn diwedd yr haf ac yn edrych ymlaen at gael sgwrs â KR. Trafod Hunangofiant Gweirydd ap Rhys [gol. Enid Pierce Roberts]. Mae hanes anturiaethau ei ewythr gyda'r "flacen" yn un o'r pethau digrifaf a ddarllenodd erioed. Bu'n chwerthin am oriau. Gofynnwyd iddo gyflwyno [T.] Rowland Hughes am radd DLitt. Esbonio'r camddehongli a fu ar ei gyflwyniad gan y Western Mail. Nid oedd ef yno, erbyn hyn y mae'n methu â defnyddio'i ddwylo. Wedi gobeithio ei gweld yng Nghaerdydd pan oedd pwyllgor y BBC yn cyfarfod. Mae ei wraig yn gofidio na all ofyn i KR fynd i aros atynt gan na all wneud fawr iawn yn y ty. Bu Gwyn Daniel yn holi beth oedd yr amgylchiadau ynglyn â phenodi prifathro newydd yng Ngholeg Caerdydd. Dywedir bod nifer o Gymry wedi gwrthod y swydd.

Llythyr oddi wrth Dr O. Dedie (at Dr Mathias Vészy), yn Rolle, Y Swistir,

Rhoi adroddiad am Daisy. Y mae ganddi ewyllys gref a pheth gwrthdaro rhyngddi hi a'r athrawon. Esbonio'r cwrs y bu arno. Cafodd glust boenus a bu'n ei gwely rywfaint. Penderfynu gadael iddi sefyll yr arholiad ym mis Medi. Trafod gwerth y dystysgrif iddi yn Ninbych. Maent yn rhoi trefn ar ei phapurau swyddogol iddi fynd i Baris. Mae gobaith iddi gael swydd yn athrawes gynradd neu'n ysgrifenyddes. Adroddiad Ysgol Daisy Vészy, Mai-Gorffennaf 1949. Ffrangeg/French.

Llythyr oddi wrth 'Terry', yn Harpenden,

Diolch am ddau lythyr. Daeth y cyntaf pan oedd yn drist ac yn brin o arian. Cafodd ei thwyllo gan Gymry wrth baratoi'r recordiau. Ond cofiodd bod Kate Roberts ac Elias Thomas a'i fab yn driw iddi. Hoffai fedru bod yn Y Cilgwyn i'w chyfarch eto. Holi am Tos ac yntau'n mynd yn hen. Sôn am ei phrysurdeb hi. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth W. Ambrose Bebb, ym Mangor,

Bu'n disgwyl [rhifyn Mai 1949] o Le Peuple Breton ers rhai wythnosau. Mae'n gofyn iddynt ei anfon ymlaen fel gall lunio pwt arno i'r Faner. [Ymddangosodd "O Wasg Llydaw" gan Ohebydd Arbennig yn Y Faner (20 Gorffennaf 1949), t.6]. Da ganddo ddeall bod nith Kate Roberts wedi gwella'n iawn. Nid yw'n adnabod tad y ferch ac y mae'n ddrwg ganddo glywed ei fod yn dal yn wael ei iechyd.

Llythyr oddi wrth Lilla [Wagner], yn Budapest,

Rhaid i KR ofalu am ei hiechyd. Mae'n poeni amdani. Cred ei bod yn syniad da i Daisy ddod i aros at KR er mwyn bod yn gymorth iddi o gwmpas y ty. Mae'n dibynnu ar awydd Daisy, cyngor ei ffrind Americanaidd i aros yn Y Swistir, a'i chanlyniadau arholiad. Rhestrir cryfderau a gwendidau Daisy er mwyn ceisio helpu KR i benderfynu os yw am gynnig cartref iddi. Holi faint fyddai'r gôst o'i chadw am flwyddyn yn yr ysgol. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], yn Llanfarian,

Cynghori KR i gymryd gofal o'i hiechyd a gorffwys tipyn. Gobeithio bod ei ddehongliad o Stryd y Glep yn iawn. Nid Cristion mo Leavis ond Iddew amlwg iawn. Nid oes angen i KR ofidio dim nad yw wedi darllen gwaith yr holl Saeson pwysig. Peth drwg i awdur creadigol yw darllen gormod. Darllen y pethau sy'n rhoi maeth iddo a ddylai'r creadigol. Dychwelyd copi o lythyr [Robert Williams Parry, rhif 809 uchod yw'r gwreiddiol] yn llaw KR. Holi ai llaw KR ydyw ai llaw R.W. Parry. Unwaith mewn pum mlynedd y caiff air ganddo. Copi o lythyr [R. Williams Parry, rhif 809 uchod] yn llaw Kate Roberts.

Llythyr oddi wrth Aneirin Talfan Davies, yn Y Barri,

Mae'n ysgrifennu i gofnodi ei ymateb o ddarllen Stryd y Glep. Ni ddarllenodd ddim ers tro byd a'i cynhyrfodd gymaint. "Dyma glasur bychan - o sgrifennu cain, o welediad anghyffredin, a phlymio dwfn i ddirgel leoedd y galon ddynol". Cymharu'r gwaith i stori François Mauriac "The Woman of the Pharisees". Diolch am brofiad newydd difrif-ddwys.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Mae'n bwriadu cynnig "Y Tir Du" i Wasg Gomer. Cafodd flas eithriadol ar Stryd y Glep. Mae cyfrwng y dyddiadur yn gweddu i'r dim i KR. Llwyddodd i greu cymdeithas fyw, gynnes yn y gyfrol. John, efallai, yw'r cymeriad a adewir fwyaf heb ei lanw i mewn. Cyfeiriad at ddyddiaduron [W. Ambrose] Bebb. Canmol erthyglau Saunders [Lewis] yn [Y Faner]. Awgrymu casglu prif ysgrifau Saunders Lewis ar ffurf cyfrol, byddent yn ysbrydoliaeth ac yn arweiniad godidog ac fe werthent fel tân. Awgrymu anfon copïau sbâr o'r Faner at gynghorwyr sirol sosialaidd.

Llythyr oddi wrth L. [P.] Nemo ['Roparz Hemon'], ym Mrest,

Diolch am lythyr ac am anfon drama. Bydd yn addas iawn ar gyfer ei chyfieithu. Hoffai dderbyn rhywfaint o waith 'Twm o'r Nant'. Maent yn llanw'r bylchau yn eu hiaith trwy gyfieithu eitemau Cymraeg a Gwyddeleg. Dechreuwyd cyfieithu'r Mabinogion a rhai chwedlau Gwyddelig. Awgrymu ardaloedd o Lydaw a fyddai'n addas ar gyfer gwyliau haf. Saesneg/English.

Llythyr oddi wrth Bob Parry [Robert Williams Parry], ym Methesda,

Diolch am Stryd y Glep. Mae ef a Myfanwy wedi darllen y gyfrol ac wedi ei mwynhau, Myfanwy yn fwy nag ef. Ni all ef anghofio'r chwiorydd hyn: O Gors y Bryniau a Ffair Gaeaf. Mae'n cytuno â 'Mignedd' yn Y Faner. Hwyrach fod dweud hyn yn "looking a gift-horse in the mouth" fel y dywed y Sais. Fel y dywedodd Shakespeare: "Ni charaf Doli'n llai, ond Dora'n fwy!".

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Diolch am Stryd y Glep. Bu'n rhaid iddo ymwrthod â darllen y gyfrol gan fod wyth bwys union o nofelau wedi cyrraedd i'w beirniadu ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu Cassie [Davies] yno i de ac y mae hi a Siân, ei wraig, wedi darllen Stryd y Glep a mwynhau'r gyfrol. Onid yw pris y gyfrol yn rhy isel am dri swllt? Mae ganddo gyfrol o straeon yn barod - Storïau'r Tir Du. Nid yw'n bwriadu ysgrifennu stori fer am amser hir eto. Mae'n bwriadu mynd ati i ysgrifennu tipyn o hunangofiant hyd at yr amser yr aeth i'r coleg - Yn Chwech ar Hugain Oed fydd y teitl. Hanes "boreuddydd hapus fy mywyd" nes mynd i Goleg Aberystwyth yn 1911. Mae'n bwriadu cynnig un llyfr arall i Wasg Gomer oherwydd addo i Dafydd Lewis ac o barch iddo. Er wedi marw Dafydd difraw iawn a fu'r Brodyr Lewis - mae ei dri llyfr allan o brint ganddynt er eu bod yn werslyfrau. Mae'n awgrymu cynnig Storïau'r Tir Du i Wasg Gomer a chynnig yr hunangofiant pan ddaw i Wasg Gee. Mae'n edrych ymlaen at orffen Stryd y Glep y diwrnod canlynol cyn dechrau ar un arall o'r nofelau eisteddfodol.

Llythyr oddi wrth T. R[owland] H[ughes], yng Nghaerdydd,

Gofyn iddi esgusodi nodyn yn llaw ei wraig. Treuliodd oriau difyr yn darllen Stryd y Glep. Mae'n diolch i KR am y copi. Mae'n canmol y brawddegau llafar sydd yn britho'r llyfr, brawddegau nad oedd wedi eu clywed ers blynyddoedd. Gresyna na fu iddo drysori llawer mwy o frawddegau felly ar ei gof. Mae'n darllen 'Colofn y Merched' yn ddefosiynol bob wythnos ac yn mynd yn awdurdod ar wneud bwyd a chadw ty. Diolch am ei nodiadau craff yn Y Faner.

Canlyniadau 81 i 100 o 2492