Cydnabod derbyn £5-19s sy'n clirio'r ddyled am 1950/1. Dealla ei bod am godi morgais arall ar ei thy er mwyn clirio'r dyledion treth erbyn 1 Mai. Bydd yn rhaid iddi barhau i dalu cyfraniadau misol yn y cyfamser. Saesneg/English.
Anfon deunydd i lenwi rhifyn o'r Eurgrawn. Addo adolygiadau i'r Faner cyn bo hir. Nodi ei brysurdeb yn cynnwys beirniadu yn eisteddfod flynyddol Ysgol Uwchradd Llanidloes. Cododd y safon y llynedd pan oedd Bobi Jones a Tecwyn Jones yn athrawon yno. Stopiodd Gwasg y Brifysgol ag anfon copïau adolygu am fod y cynolygydd wedi cadw amryw heb eu trafod. Y mae hefyd yn darllen proflenni Geiriadur Prifysgol Cymru. Iechyd ei wraig. Rhyfeddu bod Yr Ebol Glas yn cael ei gyhoeddi gan Gee am 3/6. Synnu ei fod mor rhad.
Mae wedi cael cartref iddi hi ei hun a hoffai gael dreser ei nain yn ôl. Mae'n ddiolchgar i KR am ofalu amdani mor rhagorol ar hyd y blynyddoedd. Awgrymu ei chasglu rywbryd rhwng 4-9 Gorffennaf. Mae'n symud i'w chartref newydd yr wythnos honno.
Diolch am gymorth KR. Mae ei gweithred yn caniatáu iddo fynd i'r cynadleddau. Canmol KR am ei chyfraniad i fywyd diwylliannol Cymru. Mae hi'n un o fawrion yr oes. Mae cydymdeimlad dwys a threiddgar yn un o nodweddion rhyfedd ei gwaith llenyddol. Rhyfedd oedd gweld yr un cydymdeimlad yn dod i'r amlwg yn wyneb ei anawsterau ef. Nid yw'r oes wallgof hon yn deilwng ohoni. Mae'n gorfoleddu wrth feddwl fod KR yn ysgrifennu nofel hir. Mae'n sicr y ceir trysor mawr ganddi. Gwelwyd mentro a datblygiad i fro greadigol newydd yn Stryd y Glep.
Diolch am hanes angladd Elis [Jones]. Cafodd yr hanes hefyd gan eraill gan gynnwys y weddw, Jennie. Y tro olaf iddo weld Elis oedd wrth ddychwelyd o Eisteddfod Y Rhyl. Nid oedd yn iach ac nid oedd modd iddo deithio i Gefnddwysarn. Cofio'r hen gyfeillion mewn ysgolion haf cynnar. Hyderu y daw to newydd o bobl ifanc i gymryd eu lle. Mae'n mawr obeithio y bydd yn teimlo'n ddigon da i ddod i Bwllheli [i'r Eisteddfod ac Ysgol Haf y Blaid].
Cydnabod llythyr. Bu'n llusgo byw am gyfnod maith. Chwith iddo oedd colli Ysgol Haf y Blaid a'r Eisteddfod am y tro cyntaf ers 30 mlynedd (heblaw y tro y bu ar ei "wyliau"). Clywodd iddynt gael Ysgol Haf ragorol ac i KR a G. J. [Williams] gael hwyl fawr ar hel atgofion am yr ysgolion haf cynharaf. Mae'n dechrau meddwl am ailgydio yn ail ran yr hunangofiant. Gresyn na allai KR neilltuo ei thalent i ysgrifennu creadigol yn hytrach na phethau mwy disylw bywyd. Diddorol oedd yr anghytundeb rhwng KR a T. J. Morgan ynglyn â'r nofel ac Islwyn Ffowc Elis yn ei chefnogi hi. Bu Waldo [Williams] yno'r noson cynt ac yn gofyn tybed a geid rhifyn eto o'r Llenor. Tybed a oes modd ailgyhoeddi ysgrifau treiddgar Islwyn Ffowc Elis ar gyflwr yr enwadau yng Nghymru a fu yn Y Drysorfa? Mae Islwyn Ffowc Elis yn feddyliwr ac yn weledydd yn ei ddydd fel Saunders [Lewis], er nad yr un yw eu gweledigaeth.
Diolch am lythyr a siec yn dal am gyfraniad i'r Faner. Mae'n cynnig ysgrifennu 'Colofn y Merched' pan fo angen seibiant ar KR. Mae ganddi nifer o sgetsys addas ar gyfer merched i'w hactio. Hanes ei merch, Gwen, sydd yn buyer dan hyfforddiant gyda siop Lewis, Lerpwl, a'i hoffter o Laura Jones. Mae ei gwr yn canmol gwaith KR hefyd er na fydd yn darllen llawer o ffuglen. Amryw yn ei dwrdio am fentro ysgrifennu i'r Faner.