Dangos 2492 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Kate Roberts Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

20 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Llythyr oddi wrth Bobi Jones, yng Nghaerfyrddin,

Llongyfarch KR yn frwd a didwyll ar nofel wirioneddol fawr [Y Byw Sy'n Cysgu]. Fe wêl y llyfr fel uchafbwynt rhyddiaith ein canrif. Ni ddarllenodd nofel a roddodd gymaint o fwynhâd ymenyddol a synhwyrus iddo. Hyderu y caiff hamdden ac iechyd i greu rhagor. Hi o bawb a allai greu nofel sy'n dangos Cymru fel profiad personol, neu'n boen bersonol.

Llythyr oddi wrth Gwladys P. Hopkin Morris, yn Sidcup,

Diolch am gydymdeimlad ar farwolaeth ei gwr. Yr oedd y Fainc yn ei siwtio'n well na'r BBC - mwy o amser i ddarllen, mwy o gyflog a gweithio hyd 72 oed. Nid oedd ganddo unrhyw ddiddordeb yn y BBC. Dan bwysau mawr y cytunodd. Aeth dros ben Ogilvie er mwyn cael Cymraeg ar y radio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhoddodd y gorau i'w bensiwn rhyfel (1914-18) er mwyn medru ymladd dros bensiwn gwell i eraill. Ni chymerodd ddimai am ymladd tros yr NFU ym mrwydr Dyffryn Tywi. Hoffai dderbyn llyfr KR. Mae'n teimlo unigrwydd mewnol ofnadwy. Ni bu gwell Cymro na Christion.

Llythyr oddi wrth D. J. [Williams], yn Abergwaun,

Diolch am gopi o Y Byw Sy'n Cysgu yn rhodd. Clywsant bob rhan ohoni ar y radio yng nghynhyrchiad Emyr Humphreys. Mae'r cymeriadau yn aros yn fyw a chofiadwy ym meddwl y darllenydd. Cafodd amryw o lyfrau dros y Nadolig. Mae yn ei llyfr hi ysgrifennu cryno, cadarn, cywir. Mae diwyg y llyfr hefyd yn gampus. Diolch am y 'Portread' yn Y Faner. Cyfeirio nôl at yr helynt a fu yn Llandeilo a D. J. Williams yn gwrthod ymddiheuro i ringyll trwyngoch.

Llythyr oddi wrth Lewis Valentine, yn Rhosllannerchrugog,

Derbyniodd gopi o'r Byw Sy'n Cysgu ar gyfer Seren Gomer. Cafodd wythnosau helbulus - ei wraig yn dioddef â'i nerfau ac yntau ag aflwydd ar ei olwg. Anfonodd air o werthfawrogiad i Seren Gomer - ni cheisir adolygu yno, dim ond gwerthfawrogi a chymell. Mae wedi dotio'n lân ar Lora Ffennig. Mae'n darllen llyfrau KR bob blwyddyn ac yn byw gyda'r cymeriadau, ond dyma'r cymeriad mwyaf hoffus eto. Mae'n ofni bod y portreadau o weinidogion mewn nofelau Cymraeg yn wir - pethau digon aneffeithiol ydynt. Ni thybiai fod yr un darllediad a glywodd o'r Byw Sy'n Cysgu yn gwneud cyfiawnder â mawredd y nofel. Yr oedd J. T. Jones, Ysgol Ramadeg Rhiwabon, yn canmol y nofel yn fawr.

Llythyr oddi wrth Enid [Parry], yn Aberystwyth,

Mae newydd orffen darllen Y Byw Sy'n Cysgu ac ni all fynd i'w gwely heb anfon gair i longyfarch KR ar nofel feistrolgar. Gadawodd ei gwaith ty er mwyn dilyn hanes Lora Ffennig. Anghofiodd fwyta un pryd bwyd hyd yn oed. Holi am ei hamgylchiadau yn dilyn gadael Y Faner. Ei chroesawu yno i fwrw'r Sul. Hyderu yr aiff ymlaen i ddilyn hynt y cymeriadau. Ni chafodd gymaint o fwynhad wrth ddarllen nofel ers amser maith. Llwyddwyd i dreiddio i waelod y cymhlethdod hwnnw sy'n ffurfio cymeriad merch yn well na dim un dyn o nofelydd.

Llythyr oddi wrth Saunders [Lewis], ym Mhenarth,

Mae'n ymateb i ddarllen Y Byw Sy'n Cysgu - llyfr cyfoethog sy'n gwella a grymuso wrth fynd ymlaen. Roedd darllen y gyfrol yn brofiad go fawr ac y mae hynny'n beth pur ddieithr ynglyn â dim newydd Cymraeg erbyn hyn. Tybiai y gallai gair o werthfawrogiad fod yn hwb i KR fynd ymlaen i lunio'r nofel nesaf. Mae ei Chymraeg yn gyfoeth gogoneddus.

Llythyr oddi wrth Olwen M. Samuel, yng Nglynebwy,

Llongyfarch KR ar Y Byw Sy'n Cysgu. Cafodd fwynhad a bodlonrwydd dibendraw wrth ei darllen a gwnaeth y Nadolig yn un cofiadwy iddi. Ei hannog i ysgrifennu rhagor o nofelau. Ni fuasai heb y cyfoeth profiad a gafodd wrth ddarllen y gyfrol am unrhyw beth. Mae'n nofel feistraidd. Cyfeiriad at Eisteddfod Glynebwy 1958.

Llythyr oddi wrth Alun Llywelyn-williams, ym Mangor,

Diolch am yrru ffurflen yn ôl ac am ei atgoffa am y gair "sbybio". Cafodd fwynhad mawr o ddarllen Y Byw Sy'n Cysgu. Tybio mai hwn yw'r gwaith gorau a ysgrifennodd erioed. Mae ei dealltwriaeth o'r cymeriadau a'i thriniaeth ohonynt a'i thosturi tuag atynt yn ymddangos iddo yn ddwysach nag erioed a mentrodd drafod pwnc hollol newydd yn y Gymraeg. Mae'n dotio at y ffordd y mae ei llyfrau hi mor arbennig Gymreig eu naws a'u hawyrgylch.

Llythyr oddi wrth Ray Saer, yn Y Bala,

Diolch am y boddhad a gafodd o ddarllen Y Byw Sy'n Cysgu. Mae'n falch bod KR wedi cyflwyno'r gyfrol i Gwenallt. Mae'n llyfr mawr a'r cynnwys yn dal i droi yn y cof. Aeth Lora Ffennig a'i phroblemau a'i pherthnasau oll yn rhan o fywyd Cymru.

Canlyniadau 81 i 100 o 2492