Dangos 839238 canlyniad

Disgrifiad archifol
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

9559 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Richard Parry,

Abergele. Gofyn os yw ei fersiwn o 'Coits y Tocia' yn gywir, amgau darnau eraill hefyd.

Richard Parry,

Abergele. Rhagor o gerddi, falch iddo gael 'Coits y Tociau', rhoi ychydig o'i hanes.

R[ichard] Morris,

Parc, Bontuchel. Cerdyn post yn dweud iddo anfon rhai o'r llyfrau at R. R. Morris.

Richard Morris,

Y Bala. Llongyfarch RDR ar ei benodiad yn olygydd Trysorfa'r Plant. Mae'n amgau darlun. [Darlun yn eisiau].

Richard Morris,

Parc, Bontuchel. Gofyn beth i wneud ag atgofion y Parch. William Jones, Llanberis a'i anfon ato ef neu at Y Faner.

Richard Morris.

Parc, Bontuchel. Ateb ymholiad a ymddangosodd yn y golofn 'O Ben y Gwryd i ben y Cob'.

Richard Morris.

Parc, Bontuchel. Wedi ei siomi am nad ymddangosodd ei atgofion am William Jones, Llanberis, yn y 'Manion'.

Rich[ar]d Jones, Llandinam,

Diolch am Hen Atgofion, y darlun gorau a chywiraf o'r hen bobl a'r hen bethau a welodd erioed. Hwn fydd y clasur bellach o blith y llyfrau sy'n disgrifio'r cyfnod dan sylw. Bydd yn cael lle parchus yn llyfrgell bersonol Richard Jones rhwng hunangofiant Rutherford ac Old Memories Henry James.

Richard Jones,

Nantlle. Gofyn i RDR weithredu fel beirniad ar ran Undeb Llenyddol Tal-y-sarn, Hyfrydle a Thanrallt, ar 29-30 Mai 1889.

Canlyniadau 9821 i 9840 o 839238