Showing 45762 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

36 results with digital objects Show results with digital objects

Gohebiaeth ac Erthygl Barn

Gohebiaeth gan gynnwys lythyr oddi wrth Albert Owen, Aelod Seneddol Llafur dros Ynys Mon a chopi o gylchgrawn Barn yn cynnwys erthgyl gan Ieuan Wyn Jones ar berfformiad Plaid Cymru yn Etholiad y Cynulliad yn 2011.

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2011 a Chwefror 2012; agendâu, Chwefror a Mehefin 2012; a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2011-2012 (2012). Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2011, ac Ionawr, Chwefror, ac Ebrill 2012; ac agendâu’r penaethiaid Prosiectau, Chwefror a Mawrth 2012.

Gohebiaeth gyffredinol

Llythyrau, [1937]-[2011], yn ei llongyfarch ar lwyddiant ei nofelau ac yn ymateb i'w chyhoeddiadau eraill, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'i gwaith radio.

Etholiad 2011

Papurau yn ymwneud yn bennaf ag Etholiad Cyffredinol 2010 ac Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011 gan gynnwys, llythyron yn diolch i Ieuan Wyn Jones yn dilyn ei gyhoeddiad i sefyll i lawr o'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae ffeiliau ynglyn a cheisiadau swydd Prif Weithredwr Plaid Cymru ar gau ac mewn amlen ar wahan

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2010, a Chwefror a Mehefin 2011; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2011; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2010-2011 (2011); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2010-2011 (2011); cynllun busnes Cyfarwyddiaeth y Ganolfan, Prifysgol Cymru, 2011-2012 (2011); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2011), oddi wrth Angharad Elias a Dafydd Johnston. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2010, ac Ionawr, Mawrth, Ebrill, Mai, Mehefin, a Medi 2011; a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 14 (Haf 2011).

Manylion cyfrifiad

Allbrintiadau o wefan Ancestry.com yn dangos manylion Martha Williams (née Thomas), gwraig David (Dafydd neu Dafi) Williams a mam John Edwal Williams, a manylion Levi Williams, brawd John Edwal. Cymerwyd y wybodaeth o gyfrifiad 1871.

Cyngherddau amrywiol

Rhaglenni cyngherddau amrywiol iawn, 1964-2010, gan gynnwys cyngerdd yn Gruppe, Yr Almaen, 1964; Côr Poliffonig Caerdydd, 1970; Gŵyl Werin Corwen, 1972; a Gŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn, 1982.

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2009, a Chwefror a Mehefin 2010; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2010; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2009-2010 (2010); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2009-2010 (2010); cynllun busnes Geiriadur Prifysgol Cymru 2011-2023 (2010); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2010) yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias a Marion Löffler. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2009, ac Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, a Mehefin 2010; a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 13 (Haf 2010).

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2008, a Chwefror a Mehefin 2009; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2009; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2008-2009 (2009); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2008-2009 (2009); a llythyrau (2009) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd 2008 ac Ionawr, Mawrth, Mai, a Mehefin 2009; a chopi o gylchlythyr y ganolfan, rhif 12 (Haf 2009).

Results 61 to 80 of 45762