Showing 197 results

Archival description
Papurau Menna Elfyn
Advanced search options
Print preview View:

Deunydd amrywiol

Deunydd amrywiol, yn adlewyrchu gwaith a diddordebau llenyddol a gwleidyddol Menna Elfyn.

Deunydd ychwanegol Mai 2023

Papurau o eiddo neu sydd yn ymwneud â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn a ychwanegwyd at yr archif ym mis Mai 2023, yn cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn; deunydd yn ymwneud â chyrsiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn; llyfrau nodiadau; gohebiaeth; erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud â bywyd a gwaith Menna Elfyn; ynghyd â rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.

Dewch Gyda Fi

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama lwyfan Dewch Gyda Fi (2017), sef addasiad Cymraeg gan Menna Elfyn o ddrama Mike Kenny Follow Me (2017), gan gynnwys copi teg o'r sgript a hysbysebiad o'r wasg.

Drama deledu: Pan Ddêl Mai

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama deledu Pan Ddêl Mai, gan gynnwys llythyr oddi wrth Menna Elfyn yn amgau amlinelliad o'r ddrama a'i chymeriadau.

Drama radio: Ann

Copïau drafft a theg o sgriptiau'r ddrama radio Ann, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Ionawr 2005, gan gynnwys un sgript dan ei theitl blaenorol Dwy Chwaer, Un Gân a chyfieithiad o sgript Ann i'r Saesneg.

Drama radio: Hirddydd yw Heddwch

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Hirddydd yw Heddwch, a ddarlledwyd ar Radio Cymru Tachwedd 2012, gan gynnwys nodiadau a chopïau drafft a theg o'r sgriptiau, un yn dwyn ei theitl blaenorol Bobby Sands Y Ddrama.

Drama radio: Iechyd yw Popeth

Copïau drafft a theg o sgript y ddrama radio Iechyd yw Popeth, a ddarlledwyd Ionawr 2004, ynghyd â thoriad papur newydd. Diwygwyd teitl blaenorol y ddrama, Legato, ar dudalen flaen copi drafft y sgript.

Drama radio: Y Galwr/Dadlau Rhin

Deunydd yn ymwneud â'r ddrama radio Dadlau Rhin [?teitl blaenorol Y Galwr], a addaswyd ar gyfer Radio Cymru o'r ddrama lwyfan o'r un enw, gan gynnwys copïau drafft a theg o'r sgript (dan y ddwy deitl), gohebiaeth ebost rhwng Menna Elfyn a chynhyrchydd y darllediad Aled Jones, cerdd mewn llawysgrifen gan Menna Elfyn, a thoriad o'r wasg ynglŷn â'r emynyddes Ann Griffiths.

Dramâu amrywiol

Deunydd sy'n cynnwys copi teg o sgript ddrama ddi-deitl dyddiedig 1984; copi teg o sgript ddrama di-deitl a gomisiynwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 1995, ynghyd â llythyr at Menna Elfyn oddi wrth Swyddog Drama'r Eisteddfod; ac adolygiad o addasiad Cymraeg Menna Elfyn o'r ddrama The Woods (1977) gan David Mamet.

Emyn i Gymro

Deunydd yn ymwneud ag Emyn i Gymro, gwaith a gomisiynwyd ar gyfer Gŵyl Tŷ Newydd 2001 i ddathlu bywyd a gwaith y bardd R. S. Thomas (geiriau gan Menna Elfyn, cerddoriaeth gan Pwyll ap Siôn), sy'n cynnwys copïau drafft a theg o'r gerdd a rhaglen a phosteri printiedig.

Results 61 to 80 of 197